1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2018.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r argymhellion yn adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar ddyfodol trefi yng Nghymru? OAQ52901
Rwy'n credu bod y gwaith y maen nhw wedi ei wneud yn ddefnyddiol iawn ac mae'n ychwanegiad defnyddiol iawn at ein gwybodaeth bresennol yn y maes hwn. Byddwn, wrth gwrs, yn ystyried yr argymhellion yn ofalus yng ngoleuni ein mentrau presennol i gefnogi canol trefi.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi: mae'r gwaith y maen nhw wedi ei gomisiynu yn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn, sef y math o waith dwys a all arwain wrth gwrs at newidiadau cadarnhaol i bolisi a chamau gweithredu'r Llywodraeth. Gadewch i ni gofio bod dros 1 filiwn o bobl yn byw yn nhrefi Cymru. Rydym ni'n clywed llawer am fargeinion dinesig, ond sut ydych chi'n teimlo y gall bargen dwf canolbarth Cymru bosibl rymuso'r rhai sy'n byw yn nhrefi'r canolbarth i nodi a hyrwyddo eu trefi? Mae'r adroddiad a gomisiynwyd hefyd yn sôn am syniadau yn dod o lawr gwlad i fyny. Felly, sut ydych chi'n credu y gall bargen dwf canolbarth Cymru bosibl gefnogi'r nod hwnnw?
Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Os edrychwn ni ar broses ceisiadau ardaloedd gwella busnes, fe'u harweiniwyd gan fusnesau mewn trefi perthnasol. Mae'n rhaid targedu unrhyw fargen dwf yn benodol i anghenion a gofynion yr ardal y mae'r fargen dwf honno wedi ei lleoli ynddi. Felly, yn sicr, wrth ddatblygu bargen dwf, mae'n bwysig dros ben cael cymaint o ymgysylltiad â phosibl â busnesau manwerthu yng nghanol trefi ac â phawb sydd yn yr economi wledig.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod yr adroddiad yn dangos yn eglur—ac, wrth gwrs, roeddem ni eisoes yn gwybod hyn—bod siopau gwag yn amharu ar berfformiad cyffredinol canol trefi ac yn atal busnesau newydd rhag lleoli eu hunain yno. Mae'n debyg y byddwch chi'n gwybod bod Cyngor Sir Caerfyrddin dan arweiniad Plaid Cymru wedi gwneud buddsoddiad mawr yn Llanelli, gan brynu siopau, eu rhannu'n unedau llai y gall pobl fforddio eu rhentu wedyn, a throi lefelau uwch y siopau yn eiddo preswyl sydd hefyd yn dod â phobl i fyw yng nghanol y dref. Pa gymorth arall all Llywodraeth Cymru ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i barhau i ymateb yn greadigol i'r argyfwng a wynebir gan ganol llawer o'n trefi?
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni dderbyn nad ydym ni'n debygol o weld yr un nifer o unedau manwerthu mewn trefi yn y dyfodol. Os edrychaf ar fy nhref enedigol fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ceir llawer iawn o unedau sydd yn wag ac mae'n debyg na fyddan nhw byth yn cael eu llenwi. Mae rhai ohonynt wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer iawn. Felly, beth ddylai ddigwydd wedyn? Wel, efallai y gellir troi llawer ohonyn nhw yn unedau preswyl, i sicrhau bod gwell cymysgedd yng nghanol trefi. Yn fy nhref enedigol i, mae wedi bod yn digwydd ers 30 mlynedd neu fwy.
Sut yr ydym ni wedyn am greu trefi mwy bywiog sy'n gymysg o ran eu darpariaeth—rhywfaint ohoni'n breswyl, rhywfaint ohoni'n fusnes, bydd rhywfaint ohoni'n fanwerthu, bydd rhywfaint ohoni'n fwytai, yn fariau—i greu'r cyffro hwnnw yn y dref, nid yn unig yn ystod y dydd ond fin nos hefyd? Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig rhoi ystyriaeth i ba bryd mae siopau yn agor yng nghanol trefi, oherwydd, wrth gwrs, nid yw 9 a.m. i 5 p.m. yn gyfleus i'r rhan fwyaf o bobl mwyach, ac, oni bai bod gennych chi nifer fawr iawn o ymwelwyr mewn canol tref gan fod swyddfeydd yno, yna byddwch ar eich colled.
Ond, o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, mae gennym ni ein rhaglen buddsoddiad adfywio wedi'i dargedu. Mae hynny'n golygu cyllid cyfalaf o £100 miliwn ledled Cymru dros dair blynedd i gynorthwyo prosiectau adfywio sydd wedi eu blaenoriaethu'n rhanbarthol mewn canol trefi. Mae gennym ni'r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol a ariennir gan Ewrop, sy'n darparu £54 miliwn i gaffael, ailwampio neu ailddatblygu adeiladau a thir segur yng nghanol trefi a dinasoedd, neu'n agos atynt, ar draws y gorllewin a chymoedd y de. Ac, wrth gwrs, mae ein cynllun benthyciadau canol tref yn wedi darparu £27.5 miliwn ers 2014 i ddod â safleoedd ac adeiladau gwag, nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n ddigonol yng nghanol trefi yn ôl i ddefnydd.
Prif Weinidog, pan fyddaf yn siarad â thrigolion ar hyd a lled Cwm Cynon, ceir angerdd mawr ynghylch y dymuniad i weld canol ein trefi yn cael eu hadfywio. Ond, ar yr un pryd, mae hynny'n aml wedi ei gydbwyso ag amharodrwydd ymhlith pobl leol i siopa'n lleol mewn gwirionedd. A phan fyddaf yn siarad â nhw am y rhesymau am hynny, un o'r pethau y cyfeirir ato amlaf yw'r diffyg amrywiaeth o fusnesau ar ein strydoedd mawr. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n rhyngwyneb braidd yn anodd rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio annog entrepreneuriaid lleol i greu'r cynnig mwy amrywiol hwnnw ar ein strydoedd mawr?
Rwy'n credu mai rhan o'r ateb i hyn yw i fanwerthwyr weithio gyda'i gilydd ac, fel y dywedodd yr Aelod, creu rheswm i bobl fynd i ganol trefi. Mae canol trefi wedi cau, yn aml, erbyn 5.30pm. Os nad yw pobl yn gweithio yng nghanol y trefi hynny, maen nhw wedi cau drwy'r wythnos i bob pwrpas. Felly mae angen rhoi ystyriaeth i oriau agor, rwy'n credu, er mwyn gwneud canol y trefi hynny yn fwy hygyrch yn y dyfodol.
Cyfeiriodd at ei hetholaeth ei hun. Gwn fod y safleoedd a'r adeiladau yng nghanol trefi nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol yn cael eu dychwelyd i ddefnydd, ac mae Aberdâr yn un o'r ardaloedd hynny a nodwyd ar gyfer y cymorth hwnnw. Mae Aberdâr, wrth gwrs, hefyd yn un o'r 10 BID ychwanegol sy'n cael eu datblygu o ganlyniad i'n cyllid ychwanegol o £262,000 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yn y fan yma yw bod yr arian ar gael i fusnesau lleol benderfynu ar y modd gorau i'w hyrwyddo eu hunain. Dyna sy'n allweddol. Nid ydym ni'n gwybod sut i'w wneud. Bydd ganddyn nhw syniadau ar lawr gwlad. Dyna pam yr ydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymgysylltu'n llawn ac wedi bod o'r dechrau.