Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob dysgwr gael mynediad at addysg o safon uchel a gwireddu eu llawn botensial. A disgwylir i weithrediad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gychwyn ym mis Medi 2020, wrth gwrs.