Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Wel, mae'r Aelod wedi gwneud ei waith da iawn arferol o dynnu sylw at y materion y dymuna eu codi i gyd ar ei ben ei hun, felly nid wyf yn credu bod unrhyw angen am ddatganiad ategol. A gwn fod y Gweinidog yn fodlon iawn gyda'i pholisi ail-lenwi, ac nid oes amheuaeth y bydd hi'n dod â rhywbeth yn ôl i'r Siambr yn ystod ei hynt i ddweud wrthym pa mor dda y mae'n dod yn ei flaen.