2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:30, 13 Tachwedd 2018

Rwy'n ymwybodol iawn o bryderon rhieni, athrawon ac arweinwyr addysg ar draws y gogledd yn sgil canlyniadau arholiadau TGAU Saesneg. Mae'n ymddangos bod plant yn y gogledd wnaeth sefyll yr arholiadau yn haf 2018 wedi cael cam, ac mae'n rhaid unioni hynny ar fyrder. Gall fod hyd at 700 o blant wedi cael eu heffeithio—plant fyddai wedi derbyn gradd C neu uwch pe bai nhw wedi cael eu trin yn gyfartal â phlant a safodd yr arholiadau yn 2017. Mae hyn yn effeithio ar eu llwybrau gyrfa i'r dyfodol, sy'n amlwg yn hollol annheg.

Mae yna honiad pellach—difrifol iawn—fod athrawon yn y gogledd wedi colli hyder mewn dau gorff: Cymwysterau Cymru a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru. A wnewch chi sicrhau bod y pryderon yma yn cael eu cymryd o ddifrif, ac a wnewch chi ofyn i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnal ymchwiliad byr i weld beth sydd wedi mynd o'i le? Mae Cymwysterau Cymru wedi cynnal ymchwiliad—rwy'n ymwybodol o hynny—ond efallai fod angen ymchwiliad pellach ac un annibynnol.