Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Mae Cymwysterau Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth. Dyna yw ei swyddogaeth, ac mae wedi cynnal yr ymchwiliad hwnnw ac mae wedi bod yn glir iawn nad yw'n meddwl bod yna broblem fel y mae'r Aelod yn ei nodi. Byddwn yn atgoffa'r Siambr fod Cymwysterau Cymru wedi ei sefydlu gyda'r cylch gwaith annibynnol hwnnw yn y lle cyntaf er mwyn bod ymhell oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet ar y penderfyniadau hyn.