3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwerthfawrogi ein Hathrawon — Buddsoddi yn eu Rhagoriaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:59, 13 Tachwedd 2018

Ardderchog. Fe wnaf ddechrau eto, felly.

Mae codi safonau a chodi statws y proffesiwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo ers nifer o flynyddoedd. Os nad ydy'r gweithlu yn cael hyfforddiant o safon uchel drwy gydol eu gyrfa, o'u haddysg gychwynnol hyd at gyfnod ymddeol o'r sector, fydd y safonau ddim yn codi yn y dosbarth.

Cyn troi at fater sydd wedi cael ei drafod yn fan hyn nifer o weithiau, sef athrawon llanw a'u rhan nhw yn y broses yma, rydw i eisiau cyffwrdd hefyd ar y mater yr oedd Suzy yn ei godi ynglŷn â'r £15 miliwn o arian, ac a fyddai fo wedi bod yn well i'r arian fynd yn syth i'r gyllideb graidd yn hytrach na chael ei roi fel grant benodol.

Rŵan, rydw i'n cydymdeimlo â chi, achos rydw i newydd ddweud fy mod i'n meddwl bod angen buddsoddi i gael y dysgu proffesiynol yma'n digwydd yn iawn, ond, wrth gwrs, mae hi'n gyfnod eithriadol o anodd ar y cynghorau sir, ac mae'r gymdeithas llywodraeth leol wedi dweud y byddai'n llawer iawn gwell ganddyn nhw weld y £15 miliwn yn cael ei wario ar gadw swyddi—un ai dros 350 o athrawon profiadol neu dros 600 o gymorthyddion dysgu—fel y byddai'r achos wedi bod petai'r cyllid yma wedi cael ei gynnwys o fewn y gyllideb graidd. Rydw i'n gweld eich dilema chi: rydych chi eisiau gwario'r arian yn y lle iawn, ond, ar y llaw arall, mae hi'n gyfnod o argyfwng ac mae ein hysgolion ni angen pob ceiniog er mwyn cadw'r athrawon profiadol—felly, jest gofyn ichi jest ystyried ychydig ar hynny unwaith yn rhagor.

Ond i droi yn benodol rŵan at athrawon llanw, mae yna bedair gwaith mwy o asiantaethau preifat ar gyfer athrawon llanw rŵan nag oedd yna ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae yna bryderon ynglŷn â thâl ac amodau a datblygiad proffesiynol yr athrawon yma, efo llawer o ysgolion yn dibynnu'n gynyddol ar athrawon llanw i lenwi absenoldebau athrawon. Mae'n hollbwysig, felly, onid ydy, bod yr athrawon llanw hefyd yn derbyn hyfforddiant a bod eu gwybodaeth o ddatblygiadau yn y cwricwlwm yn gyfoes.

Mewn datganiad gennych chi'n ddiweddar ar wefan y Llywodraeth, mi ddywedwyd y bydd dysgu proffesiynol yn hawl i bob ymarferwyr mewn ysgolion, nid athrawon yn unig, felly hoffwn i wybod a fydd yna ddarpariaeth ar gyfer athrawon llanw hefyd a sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae'r datganiad yn dweud hefyd y bydd arian yn sicrhau bod y newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu lles athrawon ac yn aflonyddu cyn lleied â phosib ar ddysgu'r disgyblion, a bydd yr arian yn helpu sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ar sut y mae hynny'n mynd i ddigwydd? Ac a ydy hynny, yn anorfod, yn mynd i arwain at ragor o ddibyniaeth ar athrawon llanw? Felly, y pwynt penodol yna, os gwelwch yn dda, a'ch sylwadau chi ynglŷn â'r gyllideb graidd yn erbyn grant. Diolch.