Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar waith i barhau i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae lles anifeiliaid yn parhau i fod yn uchel ar fy agenda wrth inni symud drwy'r cyfnod hwn o newid ac ansicrwydd. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal ein safonau a'n disgwyliadau, yn enwedig o ystyried y pwysau a wynebir fel y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n glir iawn: ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyfaddawdu ar les anifeiliaid. Rwy'n benderfynol y byddwn yn parhau i arwain y ffordd o ran codi safonau, yn awr ac ar ôl inni adael yr UE.
Yn y Sioe Frenhinol eleni, cadeiriais uwchgynhadledd tywydd sych i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar y tywydd sych a brofwyd gennym am gyfnod hir dros yr haf, lle codwyd pryderon ynglŷn â lles anifeiliaid. Ymrwymais i helpu'r diwydiant i feithrin cydnerthedd i amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys amodau tywydd anwadal. O ganlyniad i'r uwchgynhadledd, rwy'n sicrhau bod taliadau cynllun y taliad sylfaenol, gan gynnwys benthyciadau ar gyfer y rhai cymwys sydd wedi gwneud cais, yn cael eu gwneud ar 3 Rhagfyr. Cyhoeddais hefyd rodd o £0.5 miliwn i roi cymorth tymor byr i'r teuluoedd hynny sydd fwyaf mewn angen. Gan weithio gydag elusennau gwledig, rydym ar y trywydd iawn i sicrhau bod cyllid ar gael cyn diwedd y flwyddyn.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol, felly hefyd ymgysylltu ag asiantaethau gorfodi a'r trydydd sector. Rwyf wedi cael y fraint o dreulio prynhawn yn cysgodi arolygydd RSPCA Cymru i weld sut y darperir eu gwasanaethau hanfodol. Dywedais ym mis Mehefin fy mod i wedi gofyn i RSPCA Cymru ystyried yr argymhelliad yn adroddiad Wooler 2014 i Arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Bellach mae RSPCA Cymru wedi cyflogi aelod staff i ymchwilio i hyn. Mae fy swyddogion wedi derbyn amlinelliad o'r rhaglen, a byddwn yn cyfarfod cyn hir i drafod y dull arloesol hwn.
Hefyd rwyf wedi treulio amser gyda'r tîm heddlu troseddau gwledig yn y Gogledd i archwilio sut y gallwn leihau nifer yr ymosodiadau ar dda byw. Mae'r rhain yn peri gofid i'r anifeiliaid ac i'r ffermwyr ac yn gostus yn ariannol ac yn emosiynol.
Rwy'n cwrdd yn rheolaidd â Julie Morgan AC, y Cynghorydd Dilwar Ali a David Joyce o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i drafod cŵn peryglus a pherchnogaeth gyfrifol. Ceir achosion brawychus o ymosodiadau gan gŵn yn arwain at anafiadau sy'n newid bywydau. Er nad yw llawer o'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chŵn peryglus wedi'i datganoli, mae'r diffyg amlwg mewn perchnogaeth gyfrifol sy'n gysylltiedig â'r ymosodiadau hyn wedi'i ddatganoli. Ein dinasyddion ni, ein hanifeiliaid ni, yr effeithiau ar ein hiechyd ni a thrawma sy'n newid ein bywydau ni yw'r rhain. Rwy'n gohebu â Llywodraeth y DU ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r pwerau sydd gennym.
Rwyf wastad wedi bod yn glir, dylai anifeiliaid gael eu lladd mor agos i'r fferm â phosibl. Byddaf yn parhau i sicrhau bod lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo ac adeg eu lladd yn parhau i wella yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y sector lladd-dai bach a chanolig i sicrhau eu bod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer mynegiant o ddiddordeb, wedi'i bwysoli tuag at gynllunio gwelliannau i ddiogelu lles anifeiliaid, gan gynnwys gosod ac uwchraddio systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai. Gellir defnyddio'r grant hwn i atgyfnerthu safonau uchel lles anifeiliaid a gyflawnwyd eisoes yn lladd-dai Cymru.
Rwyf wedi dweud o'r blaen y byddaf yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i weithio gyda gweithredwyr busnes bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan. Mae teledu cylch cyfyng yn ddefnyddiol o ran diogelu lles anifeiliaid ac mae hefyd yn offeryn hyfforddi effeithiol.
Mae codi proffil y diwydiant bwyd a diod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o hyrwyddo cynnyrch sy'n tarddu o Gymru. Mae ein deddfwriaeth labelu bwyd yn gosod safonau sy'n ofynnol gan gynhyrchwyr bwyd i fodloni eu rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr. Rhaid labelu'r holl gig porc, oen, geifr a dofednod ffres, wedi'u hoeri ac wedi'u rhewi gyda chofnod o'u tarddiad, sy'n golygu labelu gorfodol o ran man magu a man lladd yr anifail y daw'r cig ohono.
Gyda phob archfarchnad bron yn y DU wedi ymrwymo i wyau maes 100 y cant erbyn 2025, rwyf wedi gofyn i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ar effaith ar les a bioddiogelwch y systemau cynhyrchu gwahanol. Mae naw deg y cant o'r wyau a gynhyrchir yng Nghymru yn wyau maes, sy'n uwch o lawer nag yn unman arall yn y DU. Fy uchelgais yw bod Cymru yn dod yn genedl sy'n cynhyrchu wyau maes yn gyfan gwbl.
Rydym wedi cydweithio mewn partneriaeth i adolygu a diweddaru ein codau ymarfer ieir dodwy a chywennod a brwyliaid. Mae gwaith yn parhau ar y codau hyn i ganiatáu iddynt gael eu cyflwyno cyn toriad yr haf. Bydd y codau'n cynnwys canllawiau i leihau nifer yr achosion o bigo andwyol. Cafodd y codau ymarfer er lles ceffylau, ac un ar gyfer cŵn, eu cyhoeddi ddoe. Mae lles adar hela yn flaenoriaeth i mi. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r diwydiant saethu a sefydliadau lles i adolygu a diweddaru ein cod ymarfer ar gyfer lles adar hela sy'n bodoli eisoes. Mae'n bwysig bod y cod yn adlewyrchu'r technegau hwsmonaeth a rheoli diweddaraf, a'r safonau gofal sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Mae gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi cŵn bach yn arbennig o bwysig yn y broses hon, ac mae nifer o gydweithwyr wedi codi'r mater o gyfraith Lucy gyda mi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n hanfodol inni fynd i'r afael â gwraidd unrhyw bryderon lles mewn newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ein bod yn cynnal ymgynghoriad cynnar yn y flwyddyn newydd ar y broblem bwysig hon. Er fy mod yn cefnogi barn y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm o blaid y defnydd cyffredinol o systemau porchella rhydd sydd wedi'u cynllunio a'u gweithredu'n dda, credaf na ddylid gweithredu hyn dim ond os yw cyfraddau marwolaethau perchyll ddim mewn perygl. Byddaf yn cadw diddordeb mewn datblygiadau newydd i systemau hwsmona a allai ddarparu ateb i'r gwrthdaro rhwng lles hwch a phorchell.
Mae iechyd a lles da ar gyfer anifeiliaidyn ganolog i'n dull ni o weithredu yng Nghymru; er enghraifft, drwy'r fenter cynllunio iechyd anifeiliaid HerdAdvance, a lansiwyd yn Sioe Laeth Cymru. Mae atal yn well na gwella bob amser. Mae'n lleihau'r angen am wrthfiotigau, gan leihau'r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae effeithiolrwydd parhaus y gwrthfiotigau yn sail i'n un agenda iechyd. Dyma Wythnos Ymwybyddiaeth o Wrthfiotigau y Byd, ac anogaf Aelodau'r Cynulliad i fod yn warcheidwaid gwrthfiotigau, fel yr wyf i wedi'i wneud heddiw— [Torri ar draws.]