– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar les anifeiliaid, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar waith i barhau i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae lles anifeiliaid yn parhau i fod yn uchel ar fy agenda wrth inni symud drwy'r cyfnod hwn o newid ac ansicrwydd. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal ein safonau a'n disgwyliadau, yn enwedig o ystyried y pwysau a wynebir fel y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n glir iawn: ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyfaddawdu ar les anifeiliaid. Rwy'n benderfynol y byddwn yn parhau i arwain y ffordd o ran codi safonau, yn awr ac ar ôl inni adael yr UE.
Yn y Sioe Frenhinol eleni, cadeiriais uwchgynhadledd tywydd sych i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar y tywydd sych a brofwyd gennym am gyfnod hir dros yr haf, lle codwyd pryderon ynglŷn â lles anifeiliaid. Ymrwymais i helpu'r diwydiant i feithrin cydnerthedd i amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys amodau tywydd anwadal. O ganlyniad i'r uwchgynhadledd, rwy'n sicrhau bod taliadau cynllun y taliad sylfaenol, gan gynnwys benthyciadau ar gyfer y rhai cymwys sydd wedi gwneud cais, yn cael eu gwneud ar 3 Rhagfyr. Cyhoeddais hefyd rodd o £0.5 miliwn i roi cymorth tymor byr i'r teuluoedd hynny sydd fwyaf mewn angen. Gan weithio gydag elusennau gwledig, rydym ar y trywydd iawn i sicrhau bod cyllid ar gael cyn diwedd y flwyddyn.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol, felly hefyd ymgysylltu ag asiantaethau gorfodi a'r trydydd sector. Rwyf wedi cael y fraint o dreulio prynhawn yn cysgodi arolygydd RSPCA Cymru i weld sut y darperir eu gwasanaethau hanfodol. Dywedais ym mis Mehefin fy mod i wedi gofyn i RSPCA Cymru ystyried yr argymhelliad yn adroddiad Wooler 2014 i Arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Bellach mae RSPCA Cymru wedi cyflogi aelod staff i ymchwilio i hyn. Mae fy swyddogion wedi derbyn amlinelliad o'r rhaglen, a byddwn yn cyfarfod cyn hir i drafod y dull arloesol hwn.
Hefyd rwyf wedi treulio amser gyda'r tîm heddlu troseddau gwledig yn y Gogledd i archwilio sut y gallwn leihau nifer yr ymosodiadau ar dda byw. Mae'r rhain yn peri gofid i'r anifeiliaid ac i'r ffermwyr ac yn gostus yn ariannol ac yn emosiynol.
Rwy'n cwrdd yn rheolaidd â Julie Morgan AC, y Cynghorydd Dilwar Ali a David Joyce o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i drafod cŵn peryglus a pherchnogaeth gyfrifol. Ceir achosion brawychus o ymosodiadau gan gŵn yn arwain at anafiadau sy'n newid bywydau. Er nad yw llawer o'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chŵn peryglus wedi'i datganoli, mae'r diffyg amlwg mewn perchnogaeth gyfrifol sy'n gysylltiedig â'r ymosodiadau hyn wedi'i ddatganoli. Ein dinasyddion ni, ein hanifeiliaid ni, yr effeithiau ar ein hiechyd ni a thrawma sy'n newid ein bywydau ni yw'r rhain. Rwy'n gohebu â Llywodraeth y DU ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r pwerau sydd gennym.
Rwyf wastad wedi bod yn glir, dylai anifeiliaid gael eu lladd mor agos i'r fferm â phosibl. Byddaf yn parhau i sicrhau bod lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo ac adeg eu lladd yn parhau i wella yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y sector lladd-dai bach a chanolig i sicrhau eu bod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer mynegiant o ddiddordeb, wedi'i bwysoli tuag at gynllunio gwelliannau i ddiogelu lles anifeiliaid, gan gynnwys gosod ac uwchraddio systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai. Gellir defnyddio'r grant hwn i atgyfnerthu safonau uchel lles anifeiliaid a gyflawnwyd eisoes yn lladd-dai Cymru.
Rwyf wedi dweud o'r blaen y byddaf yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i weithio gyda gweithredwyr busnes bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan. Mae teledu cylch cyfyng yn ddefnyddiol o ran diogelu lles anifeiliaid ac mae hefyd yn offeryn hyfforddi effeithiol.
Mae codi proffil y diwydiant bwyd a diod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o hyrwyddo cynnyrch sy'n tarddu o Gymru. Mae ein deddfwriaeth labelu bwyd yn gosod safonau sy'n ofynnol gan gynhyrchwyr bwyd i fodloni eu rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr. Rhaid labelu'r holl gig porc, oen, geifr a dofednod ffres, wedi'u hoeri ac wedi'u rhewi gyda chofnod o'u tarddiad, sy'n golygu labelu gorfodol o ran man magu a man lladd yr anifail y daw'r cig ohono.
Gyda phob archfarchnad bron yn y DU wedi ymrwymo i wyau maes 100 y cant erbyn 2025, rwyf wedi gofyn i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ar effaith ar les a bioddiogelwch y systemau cynhyrchu gwahanol. Mae naw deg y cant o'r wyau a gynhyrchir yng Nghymru yn wyau maes, sy'n uwch o lawer nag yn unman arall yn y DU. Fy uchelgais yw bod Cymru yn dod yn genedl sy'n cynhyrchu wyau maes yn gyfan gwbl.
Rydym wedi cydweithio mewn partneriaeth i adolygu a diweddaru ein codau ymarfer ieir dodwy a chywennod a brwyliaid. Mae gwaith yn parhau ar y codau hyn i ganiatáu iddynt gael eu cyflwyno cyn toriad yr haf. Bydd y codau'n cynnwys canllawiau i leihau nifer yr achosion o bigo andwyol. Cafodd y codau ymarfer er lles ceffylau, ac un ar gyfer cŵn, eu cyhoeddi ddoe. Mae lles adar hela yn flaenoriaeth i mi. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r diwydiant saethu a sefydliadau lles i adolygu a diweddaru ein cod ymarfer ar gyfer lles adar hela sy'n bodoli eisoes. Mae'n bwysig bod y cod yn adlewyrchu'r technegau hwsmonaeth a rheoli diweddaraf, a'r safonau gofal sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Mae gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi cŵn bach yn arbennig o bwysig yn y broses hon, ac mae nifer o gydweithwyr wedi codi'r mater o gyfraith Lucy gyda mi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n hanfodol inni fynd i'r afael â gwraidd unrhyw bryderon lles mewn newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ein bod yn cynnal ymgynghoriad cynnar yn y flwyddyn newydd ar y broblem bwysig hon. Er fy mod yn cefnogi barn y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm o blaid y defnydd cyffredinol o systemau porchella rhydd sydd wedi'u cynllunio a'u gweithredu'n dda, credaf na ddylid gweithredu hyn dim ond os yw cyfraddau marwolaethau perchyll ddim mewn perygl. Byddaf yn cadw diddordeb mewn datblygiadau newydd i systemau hwsmona a allai ddarparu ateb i'r gwrthdaro rhwng lles hwch a phorchell.
Mae iechyd a lles da ar gyfer anifeiliaidyn ganolog i'n dull ni o weithredu yng Nghymru; er enghraifft, drwy'r fenter cynllunio iechyd anifeiliaid HerdAdvance, a lansiwyd yn Sioe Laeth Cymru. Mae atal yn well na gwella bob amser. Mae'n lleihau'r angen am wrthfiotigau, gan leihau'r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae effeithiolrwydd parhaus y gwrthfiotigau yn sail i'n un agenda iechyd. Dyma Wythnos Ymwybyddiaeth o Wrthfiotigau y Byd, ac anogaf Aelodau'r Cynulliad i fod yn warcheidwaid gwrthfiotigau, fel yr wyf i wedi'i wneud heddiw— [Torri ar draws.]
Iawn? Diolch.
Diolch.
Gobeithio y bydd y Gweinidog yn adennill ei llais cyn bo hir. Diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad, neu Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae lles anifeiliaid yn un o'r materion sydd bob amser yn un o'r materion mawr sydd yn sachau post y rhan fwyaf o'r Aelodau. O bryd i'w gilydd, ceir ymgyrchoedd, ond ni allaf byth ganfod adeg yn ystod y flwyddyn lle nad oes rhyw fater ar les anifeiliaid yn dal dychymyg y cyhoedd. Ac mae'n fuddiol bod gan y sefydliad hwn amrywiaeth eang o gyfrifoldebau a phwerau i gyflwyno deddfwriaeth neu reoliad yn y maes hwn, o'i gymharu â lle'r oeddem 20 mlynedd yn ôl.
Os caf i sôn am un neu ddau o bwyntiau yn y datganiad, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi mai dim ond datganiad 30 munud sydd yma, ac felly nid wyf eisiau cymryd amser Aelodau eraill. Ond os caf i gyfeirio at gynnig cyfraith Lucy, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cwrdd ag ymgyrchwyr ynghylch cyfraith Lucy yr wythnos diwethaf, ac, yn anffodus, chefais i ddim o'r cyfle i wneud hynny oherwydd roeddwn yn sâl ar y pryd, ond gwn fy mod wedi ymrwymo ar gyfer dyddiad yn y dyfodol i gwrdd â nhw. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa fath o ymgynghoriad fydd hi'n ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd? Mae gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti yn broblem yr ydym wedi sôn llawer amdani yn y Siambr hon ac mae'n label anffodus braidd bod Gorllewin Cymru, yn benodol, wedi bod yn gartref i lawer o'r diwydiant ffermio cŵn bach, ac rwy'n siŵr ein bod yn awyddus i golli'r label hwnnw mor fuan â phosibl a chael cyfrifoldebau yn ôl yn y maes hwn. Felly, gorau po gyntaf y gallwn ddeddfu yn y maes hwn, oherwydd gwn y byddai llawer o aelodau'r cyhoedd ac, yn wir, Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn ddiolchgar iawn.
Mae'r cyfrifoldebau ynghylch addysg y cyhoedd yn bwysig iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at y gwaith a wnaeth Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, o safbwynt undeb y gweithwyr post, ac mae'n gyfrifoldeb enfawr pan fydd aelodau'r cyhoedd yn dod yn berchnogion ar anifail o ba fath bynnag. Rwyf innau, hefyd, wedi bod allan o gwmpas gyda'r RSPCA ac roeddwn wedi fy llethu, mewn rhai ffyrdd, gan un digwyddiad a welais i, lle'r oedd pedwar ci yn y tŷ penodol hwn, ac nid oedd gan y perchennog unrhyw syniad o gwbl am y cyfrifoldeb arno i ysbaddu'r cŵn a darparu bwyd da a chartref da i'r cŵn, ac, yn y pen draw, aeth yr RSPCA â'r cŵn hynny oddi wrthynt. Ond rwyf bob amser yn cofio'r arolygydd yn dweud, 'Byddaf i'n dod yn ôl ymhen y mis ac rwy'n siŵr y bydd ci yn ôl yn y tŷ, a bydd y broses yn dechrau unwaith eto.' Mae'n gyfrifoldeb enfawr i fod yn berchen ar anifeiliaid anwes, ac, felly, mae'r swyddogaeth o addysgu pobl am y cyfrifoldebau hynny yn gyflawniad enfawr y gall Llywodraeth ymgymryd ag o gyda'r dulliau sydd ar gael iddi.
Rwy'n sylwi, ar ddechrau'r datganiad, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sôn am yr arian a roddwyd yn ôl yn yr haf i elusennau—y £500,000. Mae wedi bod yn haf anodd iawn; mae bwydo a lles da byw wedi bod yn broblem fawr ar ffermydd. Rwy'n synnu braidd nad yw'r arian hwnnw eisoes wedi cyrraedd yr elusennau, oherwydd, fel y nododd y Gweinidog, dynodwyd yr arian hwn ar gyfer teuluoedd dan straen penodol ar yr adeg honno. Rydym bellach ym mis Tachwedd. Credaf y dengys y datganiad fod yr arian hwnnw'n mynd i fod ar gael ddiwedd y flwyddyn hon. A allai'r Gweinidog egluro pam na sicrhawyd ei fod ar gael i elusennau fel y gellir ei ddosbarthu ymysg y gymuned amaethyddol, i achosion anghenus sydd angen yr arian hwnnw?
A labelu—cyfeiriasoch hefyd at labelu. Mae dewis doeth y defnyddiwr yn faes pwysig iawn. Dim ond yn ddiweddar, roedd rhywfaint o drafod yn y cyfryngau cymdeithasol ynghylch prynu cywion ieir yn un o'n harchfarchnadoedd mawr, ac ar flaen y deunydd pacio, nodwyd ei fod yn gyw iâr o Brydain, ond o'i droi drosodd roedd yn dweud 'Cynnyrch Gwlad Thai'. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Credaf, yn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, ein bod wedi cael tystiolaeth yn ddiweddar sy'n dangos bod pwerau gennym yn y maes hwn ynglŷn â labelu, ac felly byddai gennyf ddiddordeb mewn deall: a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i arfer y pwerau hynny fel y gall y defnyddiwr gael gwybod am les pan fyddant yn prynu nwyddau sydd eu hangen arnynt?
A'r pwynt olaf, os caf, Dirprwy Lywydd, yw capasiti o fewn awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi. Un peth yw pasio deddfwriaeth, pasio rheoliad yma a siarad yn fawreddog yn y Siambr wych hon sydd gennym, ond y realiti yw bod angen i'r asiantaethau gorfodi gael yr adnoddau angenrheidiol yn y cymunedau, sef yr awdurdodau lleol neu'r heddlu eu hunain, i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth honno a'r rheoliadau hynny i wella safonau lles. Rydym yn gwybod yn iawn, yn aml iawn, yn enwedig pan ddaw i safonau masnach, nad oes gan yr awdurdodau lleol y swyddogion i ymgymryd â llawer o'r swyddogaethau sylfaenol a roddir arnynt. Felly, pa asesiad a wnaeth yr adran o awdurdodau lleol a gallu asiantaethau trydydd parti i weithredu'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau sydd gennym yn awr ynghylch lles anifeiliaid, heb sôn am reoliadau a deddfwriaeth newydd a gaiff eu cyflwyno?
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei restr o gwestiynau. Cytunaf yn llwyr â chi. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn y Siambr mae'n debyg, fel aelodau o'r Cynulliad—. Yn sicr, mae'r sachau post mwyaf a gefais bob amser, fel yr Aelod Cynulliad dros Wrecsam, yn cynnwys materion am iechyd a lles anifeiliaid. Mae'n ddiddorol iawn mewn gwirionedd bod yr unig ohebiaeth a gefais fel AC mewn cysylltiad â hysbysiadau technegol sy'n dod allan o Lywodraeth y DU ynghylch Brexit wedi ymwneud ag anifeiliaid. Credaf yn sicr ein bod yn genedl o bobl sydd yn caru ein hanifeiliaid.
Soniodd Andrew am gyfraith Lucy a'r hyn y byddem yn ymgynghori arno. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn y byddwn yn lansio ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd ar effaith gwahardd gwerthu gan drydydd parti ar gŵn a chathod bach yng Nghymru, ac fel y dywedaf, byddwn yn gwneud hynny'n gynnar yn y flwyddyn newydd.
Credaf eich bod yn iawn am addysg, ac yn sicr mae'r gwaith yr wyf wedi bod yn ei wneud gyda Julie Morgan a'r cyfarfodydd a gawsom gyda'r cynghorydd Dilwar Ali a David Joyce—. Hynny yw, mae rhai o'r ffotograffau a gyflwynwyd yn y cyfarfodydd hynny gan David o anafiadau sydd wedi eu dioddef gan weithwyr post a oedd ond yn ceisio gwneud eu gwaith yn wirioneddol erchyll. Ac rydych yn hollol iawn; mae'n hyfrydwch mawr i fod yn berchen ar anifail anwes, ond mae'n gyfrifoldeb enfawr, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r cyhoedd ynghylch addysg, ac yn ein hysgolion hefyd. Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynglŷn â hyn, ac mae hi'n gefnogol iawn.
Gofynasoch am y £0.5 miliwn a gyhoeddais yn y Sioe Frenhinol ynghylch yr uwchgynhadledd tywydd sych a pham nad yw wedi mynd i elusennau. Fy nealltwriaeth i yw bod yr elusennau yn teimlo y byddai mwy o angen yr arian ym mis Ionawr a Chwefror y flwyddyn nesaf. Rwy'n bwriadu cwrdd â'r Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol—ar 28 Tachwedd, rwy'n credu—pan fyddaf yn egluro hynny, ond mae'r arian hwnnw yn sicr yn barod i fynd i'r teuluoedd hynny sydd, fel y dywedasoch, o fewn—. Cawsom y gaeaf hir, caled a gwlyb hwnnw, yna cawsom eira yn y gwanwyn, yna cawsom y tywydd sych. Mae'r hydref wedi dod â llifogydd. Felly, wrth inni nesáu at y gaeaf, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer yn y sector amaethyddol fydd angen cyllid, a dyna pam y cyflwynais fenthyciadau'r taliad sylfaenol ynghynt. Dyma'r tro cyntaf yr wyf wedi gwneud hynny. Felly, ar 3 Rhagfyr, bydd pobl yn gwybod os nad ydynt yn cael eu taliad sylfaenol, cyn belled â'u bod wedi gwneud cais am y benthyciad, byddant yn cael hynny.
Mae'r pwyntiau a wnaethoch ynglŷn â labelu yn hollol gywir, ac mae'r digwyddiad a ddisgrifiwyd gennych yn gwbl annerbyniol. Mae gennym rai pwerau, ond rwyf hefyd yn gweithio gyda DEFRA mewn cysylltiad â labelu, ac, unwaith eto, ar ôl Brexit, credaf y daw cyfle i wneud yn siŵr ein bod yn cryfhau ein labelu i sicrhau bod pobl yn gwybod—y gall defnyddwyr fod yn gwbl hyderus yn yr hyn maent yn ei brynu.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad—datganiad braidd yn wasgaredig, rwy'n credu. Cyfeiriasoch at tua 15 neu 16 maes polisi gwahanol o fewn maes pwnc lles anifeiliaid. Rwy'n awyddus i sôn am y cyfraniad £500,000, hefyd, i elusennau gwledig, oherwydd mae llawer ohonom wedi cefnogi elusennau gwledig dros y blynyddoedd, drwy gyfraniadau neu gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Ond mae i Lywodraeth Cymru—. A gwneuthum y pwynt hwn o'r blaen. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo, drwy ei chyfraniad, fod ffermwyr yn dibynnu ar elusen mewn gwirionedd erbyn hyn yn dweud llawer, yn fy marn i, ynglŷn â lle’r ydym ni, neu lle mae'r sector ffermio, neu lle mae'n canfod ei hun o dan eich goruchwyliaeth chi ar hyn o bryd, a chredaf ei fod yn fater o ofid i mi, eich bod yn teimlo bod yn rhaid i chi wneud hynny. Mae'n dweud llawer am sefyllfa'r sector y dyddiau hyn, oherwydd yr hyn y mae'r ffermwyr ei eisiau, wrth gwrs, yw nid elusen ond gweithredu: gweithredu i sicrhau porthiant i ffermydd Cymru dros y misoedd nesaf, fel y gallant amddiffyn lles eu hanifeiliaid drwy gael digon o fwyd iddynt. Rydym yn cofio sut y cyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon, yn ôl ym mis Ebrill eleni, ei bod yn mynd i gefnogi mewnforio porthiant i Iwerddon, llawer o hynny yn dod o Gymru neu drwy Gymru, gan ei gwneud yn llawer mwy anodd, felly, gallaf ddychmygu, i ffermwyr Cymru gael y porthiant sydd ei angen arnynt, a gwneud y porthiant yn ddrutach hefyd. Byddai'n llawer gwell gennyf weld mwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru na chyfraniadau i elusen, er mor bwysig yw rôl yr elusennau hynny.
Ac, wrth gwrs, yn eich ymateb i'r sefyllfa tywydd sych, rydych wedi pwyso ar y taliad sylfaenol i geisio mynd i'r afael â rhywfaint o'r pwysau hwnnw—y taliad sylfaenol hwnnw, wrth gwrs, y byddwch yn cael gwared arno, os ydych yn cael eich ffordd o ran cynigion yn y dyfodol ar gyfer cymorth ffermio. Felly, beth sy'n digwydd pan fydd y taliad sylfaenol wedi mynd? Yn amlwg, bydd ffermwyr yn ymrwymedig, drwy'r agweddau nwyddau cyhoeddus a chadernid economaidd, i gyflawni rhwymedigaethau penodol, ond ble fydd y sicrwydd a'r sefydlogrwydd y maent yn chwilio amdano, fel y gallant gadw eu ffermydd i fynd ac, wrth gwrs, amddiffyn lles eu hanifeiliaid?
Mae i Arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol yn rhywbeth yr wyf yn gefnogol iawn iddo, ond, wrth gwrs, cyhoeddwyd adroddiad Wooler, fel y dywedwch, bedair blynedd yn ôl, felly tybed am faint yn rhagor y mae angen inni aros. Efallai y gallech ddweud wrthym mewn ymateb pryd yr ydych yn gobeithio cymryd camau pendant ar hyn.
Yn yr un modd gyda chŵn peryglus, rydym wedi bod yn siarad am hyn am flynyddoedd lawer. Cofiaf chwech neu saith mlynedd yn ôl pan ymunais â chi i gydnabod y bobl yr ydych yn eu henwi yn eich datganiad, a gallaf gofio digwyddiadau yn galw am weithredu yn y cyswllt hwn chwe, saith mlynedd yn ôl, fel y dywedais. Ac rydyn ni'n dal i aros, ac rydych chi'n eithaf angerddol yn adran hon o'ch datganiad:
'Ein dinasyddion ni, ein hanifeiliaid ni, yr effeithiau ar ein hiechyd ni a thrawma sy'n newid ein bywydau ni yw'r rhain.'
Felly, rydych yn ysgrifennu llythyr.
'Rwy'n gohebu â Llywodraeth y DU'.
Rydych yn dweud yn y frawddeg flaenorol bod agweddau ar hyn wedi'u datganoli, felly pam nad ydym yn bwrw ymlaen ac yn gwneud rhywbeth? Hoffwn glywed bod ychydig o frys, oherwydd nid wyf eisiau bod yma unwaith eto mewn saith mlynedd arall yn sôn am hyn.
Ynghylch stynio anifeiliaid cyn eu lladd, yn amlwg bydd cyfle yfory i ymhelaethu ar rywfaint o hyn mewn dadl yn y Cynulliad hwn. Ond hoffwn ofyn a fyddai labelu manwl ar fwyd lle na chafodd yr anifail ei stynio yn amlwg yn un ffordd o sicrhau o leiaf y gall y defnyddiwr wneud dewis sy'n seiliedig ar wybodaeth.
Y codau ymarfer er lles ceffylau a'r un ar gyfer cŵn a gyhoeddwyd ddoe, rydym yn croesawu'r rheini. Wrth gwrs fe'u haddawyd inni cyn yr haf. Efallai y gallech egluro pam yr oedi. Cyfraith Lucy: yn yr un modd, byddwn yn annog y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn. Efallai y gallech gadarnhau a yw'n fwriad gennych i wneud yn siŵr bod deddfwriaeth ar hynny yn y Cynulliad hwn o leiaf.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, dau fater nad ydynt mewn gwirionedd yn y datganiad. Ar 17 Mehefin, dywedasoch y byddech yn ymchwilio i'r angen am godau ymarfer newydd ar brimatiaid ac anifeiliaid anwes egsotig eraill. Nid oes unrhyw sôn am hynny yn y datganiad. Tybed a allwch chi roi diweddariad inni ac a allwch chi ddweud wrthym ai cod ymarfer newydd sydd ei angen mewn gwirionedd, wrth ystyried efallai y byddai rhai ohonom o blaid gwaharddiad llwyr. Felly efallai y gallech ddweud wrthym beth yw'r sefyllfa yn hynny o beth.
Yn olaf, nid oes cyfeiriad o gwbl yn y datganiad hwn at filfeddygon, ac wrth gwrs o gofio'r pryderon ynghylch digonolrwydd y gweithlu ar ôl Brexit, ar gyfer anifeiliaid mawr ac anifeiliaid bach, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd— gwn eich bod yn gweithio ar hyn, ond mae angen inni wybod bod gweithlu digonol yma fel nad ydym yn syrthio'n ôl ar ôl Brexit ac yn methu â gweithredu llawer o'r dyheadau sydd yn y datganiad hwn.
A gaf i ddiolch i Llyr am ei restr o gwestiynau? Mae'n faes cyfrifoldeb mawr iawn yn fy mhortffolio i, ac mae'n anodd iawn ei leoli'n fanwl. Ceisiais gael datganiad efallai ar anifeiliaid fferm, er enghraifft, neu anifeiliaid anwes, ond roeddem yn credu y byddai'n well ei gael ychydig yn fwy cyffredinol.
Rydych yn gofyn am y £0.5 miliwn y cyfeiriais ato yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, yr ydym wedi'i roi i elusennau amaethyddol, ac wrth gwrs nid yw hyn yn golygu ein bod eisiau gweld ein ffermwyr yn dibynnu ar elusen. Fodd bynnag, roedd yn amlwg iawn i mi, yn sicr dros yr haf yn y Sioe Frenhinol ac yn y sioeau amaethyddol pan gawsom y tywydd sych a phan gawsom yr uwchgynhadledd tywydd sych yn Sioe Frenhinol Cymru, o ran anwadalwch y tywydd, yn anffodus nid yw llawer o'n busnesau ffermio yn gydnerth nac yn gynaliadwy yn y ffordd y byddem yn dymuno. Ac fel y gwyddoch—yn amlwg cyfeiriasoch at gynllun y taliad sylfaenol yn cael ei ddisodli gan gynlluniau sydd yn yr ymgynghoriad, ac nid wyf eisiau achub y blaen ar yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ychydig wythnosau'n unig yn ôl—un o'r rhesymau pam yr ydym yn ceisio cael cynllun newydd yw oherwydd nad ydym yn credu bod y cynllun taliad sylfaenol wedi galluogi ein sector amaethyddiaeth i gael y cydnerthedd hwnnw a'r cynaliadwyedd hwnnw sydd ei angen pan fyddwn yn cael y tywydd digyffelyb a gawsom eleni. Unwaith eto, ffermwyr, nid wyf yn dweud na fydd cymorth ar gyfer ffermwyr. Rwyf am wneud hynny'n glir iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gael y cyfle unwaith eto. Rydym wedi dweud ein bod eisiau disodli cynllun y taliad uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus, y bu ichi gyfeirio atynt, a bydd pob ffermwr yn gallu gwneud cais am y ddau gynllun hynny.
Rydych yn siarad am yr RSPCA a statws statudol, a chroesawaf eich cefnogaeth i hynny. Rwy'n sicr yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. Soniais fod yr RSPCA yn gwneud darn o waith. Maent wedi cyflogi person i wneud hynny, cefais drafodaeth yr wythnos diwethaf gyda'r RSPCA ac rwy'n gobeithio gallu gwneud mwy o benderfyniad a chyhoeddiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Soniasoch am gŵn peryglus ac, fel y dywedais, mae llawer o ddeddfwriaeth heb ei datganoli; mae wedi'i neilltuo. Yn ddiddorol, ar ddau achlysur pan wyf wedi bod allan gyda thîm troseddau gwledig y Gogledd, yn amlwg nid ydynt yn credu bod deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn addas i'r diben. Felly, nid dim ond gohebu yr wyf i. Rwy'n gohebu â Llywodraeth y DU, rwyf wedi cael cyfarfodydd ar sawl lefel ynghylch y ddeddfwriaeth, yn enwedig mewn perthynas â chŵn peryglus, ond hefyd y cyfarfodydd a gefais gyda Julie Morgan ac eraill i edrych ar y pwerau sydd gennym. Felly, er enghraifft, a oes gennym y pwerau i edrych ar hysbysiadau cosb benodedig? A oes gennym y pwerau i edrych ar drwyddedu? Felly dyna ddarn mawr o waith ac rwyf wedi ymrwymo i fynd â hyn ymlaen mor gyflym â phosibl gyda Julie Morgan.
Gofynasoch pam y gohiriwyd y codau ymarfer. Wel, credaf fod un gair am hynny sef 'Brexit'. Gyda'r nifer o offerynnau statudol sy'n dod drwodd, maent wedi gorfod cael blaenoriaeth dros yr haf. Mae'n debyg fy mod yn clirio nifer o offerynnau statudol bob wythnos ar hyn o bryd—mae'n ddarn enfawr o waith. Ond rhaid inni wneud yn siŵr bod llyfr statud yno ar 30 Mawrth. Felly, mae hynny'n cael blaenoriaeth. Felly, rydych yn iawn, rydym yn edrych—. Rwyf wedi addo edrych ar eraill: primatiaid, anifeiliaid anwes egsotig—a oes angen inni edrych ar waharddiad? Ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn hapus i'w wneud.
Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am filfeddygon. Yn amlwg, mae gennym nifer uchel iawn o filfeddygon sydd yn wladolion yr UE. Felly, mae'n bwysig iawn pan fyddaf yn cael fy nhrafodaethau gyda DEFRA—ac mae gennym y cyfarfod pedair ochrog nesaf â'r Gweinidogion ddydd Llun yma yng Nghaerdydd—y byddwn yn ei gwneud yn amlwg i Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw'r sector hwn i ni. Ac rwyf wedi gwneud hynny dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar hyn o bryd, credwn fod y gweithlu gennym, ond, yn amlwg, ymhellach i lawr y lein, credaf y gallai fod anawsterau.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac rwy'n falch iawn ei bod wedi neilltuo amser i gyfarfod â'r Cynghorydd Dilwar Ali a Dave Joyce o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu gyda mi. Fel y gŵyr hi, mae fy etholwr, Dilwar Ali, yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hon am gŵn peryglus oherwydd ymosodwyd ar ei fab ifanc gan gi pan oedd yn ei ardd gefn yn 2011, ac mae hynny wedi ei adael â chreithiau am oes. Credaf ei bod yn wir i ddweud ein bod wedi bod yn ymgyrchu ers yr amser hwnnw er lles cŵn, mewn gwirionedd, ac i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau gan gŵn peryglus.
Mae rhywfaint o'r wybodaeth a gyflwynwyd i ni gan Dave Joyce wedi bod yn ofidus iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio at rai anafiadau ofnadwy a ddioddefodd gweithwyr post. Ond tynnodd ein sylw at y ffaith bod nifer yr ymosodiadau mewn gwirionedd yn cynyddu yng Nghymru, ac roedd cyfanswm o 167 o weithwyr post wedi dioddef o ymosodiadau gan gŵn yn 2017-18, ac mae hyn yn gynnydd o 22 y cant. Felly, tybed a oedd gan Ysgrifennydd Cabinet unrhyw sylwadau am y cynnydd amlwg, eithaf mawr hwn yn nifer yr ymosodiadau.
Crybwyllwyd eisoes bod Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych i weld a oes unrhyw bwerau pellach y gellir eu defnyddio. Rwy'n cymeradwyo'r ffaith ei bod yn gwneud hynny, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bethau y gellid eu gwneud mewn ffordd ataliol i geisio atal yr ymosodiadau ofnadwy hyn. Rydym wedi trafod, yma yn y Siambr, hysbysiadau rheoli cŵn ac rydym wedi trafod trwyddedu a'r holl faterion eraill hyn, ond mae'n bwysig inni gael syniad clir o'r hyn y gallwn ei wneud a'r hyn na allwn ei wneud. Felly, edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar hynny pan fydd hi'n barod.
A hoffwn yn olaf, wneud sylw ar gyfraith Lucy. Rwy'n falch iawn y bydd ymgynghori ar gyfraith Lucy, oherwydd credaf ei fod yn fater o bwys hanfodol nad ydym yn caniatáu i gŵn bach a chŵn ac anifeiliaid eraill ddioddef yn y modd y gwyddom sy'n digwydd.
Diolch i chi, Julie, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cynghorydd Dilwar Ali. Mae'r ymgyrch hon ganddo ef, fel y dywedwch, yn dod ar ôl i aelod o'r teulu gael anafiadau yn dilyn ymosodiad gan gi sydd wedi newid ei fywyd, ac rwy'n siŵr, pan fydd yn eistedd yn y cyfarfodydd hynny gyda ni, rhaid ei fod hyd yn oed yn fwy gofidus iddo ef. Ond, rydych yn llygad eich lle, credaf mai dim ond yr wythnos diwethaf y cawsom gyfarfod eto ac, yn sicr, roedd yr wybodaeth a gyflwynwyd gan Dave Joyce o'r CWU am nifer yr ymosodiadau yn peri pryder. Mae'r ffaith yr ymosodwyd ar gant chwe deg saith o bobl wrth wneud eu gwaith bob dydd yn gwbl annerbyniol, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf i weithio gyda'r tri ohonoch i weithredu ar y mater hwn. Credaf fod yn rhaid inni dderbyn bod y mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol—yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif. Credaf, yn amlwg, mai Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf i gyflwyno microsglodion gorfodol ar gŵn. Yng Nghymru mae gennym ein rheoliadau bridio sy'n dweud y dylai cŵn gael eu cymdeithasoli cyn belled ag y gallant fod cyn iddynt adael y bridiwr. Credaf fod hynny'n cael effaith barhaol ar ymddygiad y ci yn ddiweddarach mewn bywyd. Byddaf yn crybwyll bod elfennau o'r Ddeddf Cŵn Peryglus sydd heb eu datganoli, ond rwyf wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r diffygion, fel y gwêl Dave Joyce.
Mewn cysylltiad â chyfraith Lucy, mae'n ddrwg gennyf, wnes i ddim ateb cwestiwn Llyr ynghylch a fyddwn yn gwneud hynny yn y tymor hwn o'r Cynulliad. Yn amlwg, byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad ym mis Ionawr ac yna bydd yn fater o chwilio am slot yn y rhaglen ddeddfwriaethol lawn iawn, ond yn sicr hoffwn i wneud hynny. Credaf ei fod yn rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn awyddus iawn i'w wneud. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd ar y materion hyn ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r tîm troseddu gwledig yn y Gogledd. Credaf fod rhai o'r syniadau sydd ganddynt ynghylch yr agenda hon yn ddefnyddiol iawn i mi. Credaf fod angen i Lywodraeth y DU edrych ar y ddeddfwriaeth honno i wneud yn siŵr ei bod yn addas i'r diben ac yn sicr, ar hyn o bryd, ni chredaf hynny.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'r camau a gymerwyd gennych i wella lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf innau hefyd yn cefnogi cyflwyno cyfraith Lucy ac edrychaf ymlaen at ddeddfwriaeth i wahardd ffermio cŵn bach a chathod bach. Ysgrifennydd Cabinet, pryd ydych chi'n disgwyl cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd a nodwyd gan yr ymgynghoriad?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae grŵp o filfeddygon wedi cyhuddo DEFRA a Gweinidogion Llywodraeth y DU o ddweud celwydd noeth am effeithiolrwydd difa moch daear yn Lloegr. Dywed y milfeddygon nad oedd yr hawliadau bod y difa yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw yn gweithio yn seiliedig ar unrhyw dystiolaeth wyddonol. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych unrhyw gynlluniau i roi'r gorau i ddifa moch daear yng Nghymru, yn seiliedig ar y datblygiadau newydd hyn?
Mae adolygiad gwyddonol annibynnol o strategaeth DEFRA i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg, a ryddhawyd heddiw, wedi canfod y gallai difa leihau rhwng 12 ac 16 y cant o achosion newydd mewn gwartheg. Ond er mwyn cyflawni hyn byddai'n rhaid lladd mwy na 70 y cant o foch daear. Ysgrifennydd y Cabinet, mae awduron yr adroddiad yn argymell rheolaethau nad ydynt yn angheuol megis brechu. A ydych yn cytuno bod hyn yn llawer gwell na bod ein poblogaeth moch daear yn agos at gael eu dileu yn llwyr?
Gan symud oddi wrth fywyd gwyllt ac ymlaen at anifeiliaid domestig, rhoddir pwysau ar Lywodraeth y DU i ymgynghori ar wahardd gwerthu tân gwyllt. O ystyried yr effaith a gaiff tân gwyllt ar anifeiliaid domestig, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, a oes cynlluniau gan eich Llywodraeth i ymgynghori ynghylch cyfyngu ar werthiant tân gwyllt a chaniatáu arddangosfeydd tân gwyllt wedi'u trefnu yn unig?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y ffaith eich bod bellach yn warcheidwad gwrthfiotig. Mae'r bygythiad a wynebwn gan ymwrthedd gwrthficrobaidd nid yn unig yn bygwth ein hanifeiliaid fferm a'n hanifeiliaid anwes, ond hefyd yn achosi perygl i iechyd dynol. Ysgrifennydd Cabinet, ar wahân i bledio'r achos, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth? Diolch. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Caroline Jones. Mewn cysylltiad â chyfraith Lucy, credaf y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud y byddwn yn cael ymgynghoriad ym mis Ionawr ac yna, gan ddibynnu ar beth sy'n cael ei ddwyn ymlaen o'r ymgynghoriad, byddaf yn edrych ar slot yn y rhaglen ddeddfwriaethol dros y ddwy flynedd nesaf.
Mewn cysylltiad â'r adroddiad y siaradodd Caroline Jones amdano gyda Gweinidogion DEFRA a difa moch daear, credaf fod dau bwynt pwysig. Un yw nad wyf yma i amddiffyn polisi Llywodraeth y DU ar ddifa moch daear. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn y byddwn yn diystyru dull difa fel un Lloegr yma yng Nghymru ers y diwrnod yr wyf wedi bod yn y portffolio, ac nid oes difa moch daear yma yng Nghymru. Yr hyn sydd gennym yw rhaglen o ddileu TB ar ei newydd wedd a gyflwynais ym mis Hydref y llynedd. Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno'r newyddion diweddaraf ar sut y mae'r rhaglen yn gweithio, mae'n debyg tua mis Ebrill y flwyddyn nesaf, pan fyddwn yn gallu adrodd ar ddata blwyddyn lawn.
Credaf fod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, sef cael cynllun gweithredu pwrpasol ar y ffermydd hynny lle ceir problemau sylweddol a hynny ers blynyddoedd lawer, mae'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny i gyd yn cael eu cynnal wrth inni siarad. Byddwch yn ymwybodol, mae'n siŵr, fod gennym bolisi brechu mewn perthynas â TB ac yn anffodus doedd y brechiad ddim ar gael ar gyfer y bumed flwyddyn. Ond mae gennym rai ardaloedd peilot lle'r ydym wedi defnyddio brechiadau dros y misoedd diwethaf.
Mewn cysylltiad â gwahardd tân gwyllt, byddai hynny'n fater i Lywodraeth y DU, ond byddai'n ddiddorol iawn gweld unrhyw beth y maent yn ei ddwyn ymlaen.
Ac, fel y dywedais, rwy'n warcheidwad gwrthfiotig heddiw a byddwn yn annog fy nghyd-Aelodau i wneud hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r sector amaethyddol i sicrhau nad oes gorddefnydd o wrthfiotigau. Ac yn sicr mae'r gwaith a wnaethom mewn cysylltiad ag adwaith gwrthficrobaidd yn bwysig iawn, ac mae hynny wedi bod yn ddarn sylweddol o waith.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.