Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae GIG Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn cynllunio i ddarparu gwasanaethau cydnerth ar gyfer y gaeaf. Roedd y gaeaf diwethaf yn un o'r anoddaf y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi'i wynebu ers nifer o flynyddoedd a gwelwyd heriau cynyddol ar gyfer ein staff rheng flaen. Nid oedd hyn, fodd bynnag, yn unigryw i Gymru gan y rhoddwyd gwasanaethau iechyd ar draws y DU o dan straen aruthrol. Roedd eira sylweddol, amodau rhewllyd, cynnydd yn y galw am wasanaethau meddygon teulu a gofal brys, cynnydd yn y derbyniadau i ysbytai ar gyfer pobl hŷn sydd â chyflyrau cymhleth, a'r nifer fwyaf o achosion o'r ffliw ers pandemig 2009 yn golygu bod ein GIG a'n system gofal cymdeithasol dan bwysau digynsail. Er gwaethaf y pwysau hyn, fe wnaeth y rhan fwyaf o bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gaeaf diwethaf dderbyn gofal prydlon a diogel. Mae hyn yn deyrnged i'r miloedd o staff ymroddedig sy'n aml yn gweithio mewn amgylchiadau anodd, yn aml yn mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol ohonynt i ddarparu gofal tosturiol a phroffesiynol.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y cyhoeddwyd gwerthusiad o gydnerthedd iechyd a gofal cymdeithasol dros y gaeaf diwethaf yn ddiweddar. Gan fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o'r gwerthusiad hwn, cydnabuwyd bod angen mynd ati drwy gynnwys y system gyfan mewn modd cydgysylltiedig a chydweithredol yn hanfodol. Awgrymodd hefyd y byddai blaenoriaethu cyflawni nifer fach o feysydd mewn modd penodol cyn y gaeaf hwn yn cefnogi gwell rheolaeth o'r ymchwydd mewn galw a newidiadau ym mhatrymau'r galw.
Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig ar 25 Hydref, mae fy swyddogion wedi gweithio gydag arweinwyr clinigol cenedlaethol, arweinwyr o sefydliadau GIG Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu pum blaenoriaeth cyflawni ar gyfer y gaeaf hwn. Bydd y rhain yn cynyddu'r pwyslais ar reoli cleifion yn y gymuned, yn sicrhau bod dulliau rheoli â phwyslais clinigol mewn ysbytai i reoli risg a chynnydd yn y galw, ac i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref o'r ysbyty pan fyddant yn barod.
Er ein bod yn cydnabod bod pwysau ar y system iechyd a gofal yn realiti drwy gydol y flwyddyn, mae cynllunio ar gyfer y gaeaf yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig ar gyfer ein system iechyd a gofal a'n hasiantaethau cenedlaethol. Mae'r paratoadau ar gyfer y gaeaf hwn wedi bod ar waith trwy Gymru ac ar draws ffiniau sefydliadol ers y gaeaf diwethaf. Mae byrddau iechyd lleol, gwasanaeth ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi bod yn gweithio dros y misoedd diwethaf i ddatblygu a chwblhau cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf ar gyfer eu cymunedau iechyd a gofal, sy'n cyd-fynd â'r pum blaenoriaeth hynny.
Rydym ni wedi cael cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf gan bob bwrdd iechyd ac mae fy swyddogion i, uned gyflawni GIG Cymru a'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu wedi craffu arnyn nhw. Darparwyd adborth i helpu i wella eu cynlluniau cyn y gaeaf. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi datblygu cynllun cenedlaethol a ystyriwyd ac y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd.
Mae'r cynlluniau lleol yn cynnwys pwyslais ychwanegol ar ddarparu cyngor dros y ffôn i bobl ag anghenion gofal brys, sicrhau bod gwasanaethau yn y gymuned ar gael yn amlach gyda'r nos a dros y penwythnosau, a gweithio ar y cyd gyda'r trydydd sector i gynorthwyo pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod.
I gefnogi'r cynlluniau cyflawni, cyhoeddais becyn £20 miliwn ar gyfer y GIG a phartneriaid gofal cymdeithasol yng Nghymru cyn y gaeaf hwn. Gan ddysgu o flynyddoedd blaenorol, fe wnes i'r penderfyniad i ddyrannu'r arian hwn yn gynharach eleni i sicrhau bod timau iechyd a gofal lleol mor barod ag y gallan nhw fod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Mae'r cyllid hwn, wrth gwrs, ar ben y £5 miliwn a gyhoeddais ar 17 Hydref i helpu i leihau'r pwysau ar unedau gofal critigol a'r £10 miliwn a gyhoeddais ar 22 Hydref i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy trwy'r gaeaf hwn. Bydd yn helpu pobl i gael gofal yn nes at y cartref, yn sicrhau bod digon o gapasiti ar gael mewn ysbytai ac yn helpu pobl i adael yr ysbyty a mynd adref pan fyddan nhw'n barod. Dyrennir 16 miliwn o bunnoedd o'r pecyn gwerth £20 miliwn hwnnw yn uniongyrchol i'r byrddau iechyd lleol i helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu sy'n rhan o'u cynlluniau, ochr yn ochr â'u partneriaid yn y gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a'r trydydd sector.
Rwy'n disgwyl i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio i gefnogi byrddau iechyd i gyflawni'r cerrig milltir a nodwyd ar gyfer y gaeaf hwn, yn rhan o fabwysiadu ac addasu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru. Bydd cyflawni'r cerrig milltir hyn yn cael ei fonitro drwy gyfarfodydd misol â chyfarwyddwyr gofal sylfaenol a chymunedol. Rydym ni wedi nodi ein disgwyliadau yn glîr wrth y byrddau iechyd bod yn rhaid defnyddio'r arian hwn i helpu i gyflawni'r camau gweithredu a amlinellwyd yn eu cynlluniau integredig ar gyfer y gaeaf, ac, unwaith eto, caiff hynny ei werthuso yn rhan o adolygiad arall o wrthsefyll pwysau'r gaeaf ar ôl i'r gaeaf hwn ddod i ben.
Bydd y £4 miliwn sy'n weddill o'r pecyn £20 miliwn yn ariannu blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y gaeaf, ac mae'r rhain yn cynnwys cynyddu capasiti adrannau achosion brys i gefnogi llif cleifion, pedwar prosiect gwasanaeth ambiwlans Cymru hynod effeithiol i reoli galw cleifion yn y gymuned, a dau gynllun arbrofol i ymestyn y gallu i gael gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
Bydd GIG Cymru yn gweithio'n agosach gyda'r trydydd sector dros y gaeaf hefyd. Er enghraifft, bydd byrddau iechyd lleol yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i gynorthwyo cleifion a staff mewn adrannau achosion brys, ac i gludo cleifion perthnasol gartref, gan eu helpu i ailymgartrefu ac ailgysylltu â gwasanaethau cymunedol. Bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru hefyd yn gweithio gyda St John Cymru i gyflwyno ar raddfa fwy prosiect a dreialwyd yn ne Cymru y gaeaf diwethaf, i gyflwyno gwasanaeth penodol ar gyfer codymau, ac fe wnes i amlinellu hyn yn fy natganiad yr wythnos diwethaf am yr adolygiad o achosion oren. Bydd hyn yn helpu i osgoi anfon adnoddau ambiwlans brys hanfodol at bobl a all gael eu hailymgartrefu yn ddiogel heb ymyrraeth glinigol.
Rydym ni wedi gofyn i fyrddau iechyd lunio cynlluniau gweithredol ar gyfer y cyfnod 18 diwrnod hollbwysig rhwng 21 Rhagfyr a 6 Ionawr. Mae hynny i gydnabod yr heriau penodol y mae'r cyfnod hwn yn ei achosi oherwydd nifer y gwyliau banc. Mae ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn a lansiwyd gennyf yn ddiweddar yn rhoi mwy o bwyslais ar swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol a'r ystod eang o wasanaethau eraill sydd ar gael yn y gymuned. Maen nhw'n aml yn agosach at gartrefi pobl ac ar gael ar adegau mwy cyfleus ar gyfer amrywiaeth o bobl gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Roeddwn yn falch o lansio yr ymgyrch flynyddol Curwch Ffliw ar 3 Hydref, ac fe gefais i fy mhigiad ffliw mewn fferyllfa gymunedol yng Nghwmbrân. Mae'r ymgyrch Curwch Ffliw yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim er mwyn eu diogelu. Eleni, bydd y brechlyn ar gael yn fwy eang nag erioed o'r blaen, gan gynnwys staff yn y sector gofal cymdeithasol, wedi'i dalu gan y gwasanaeth iechyd gwladol.
Ond nid oes unrhyw reswm i feddwl y bydd y gaeaf hwn unrhyw faint yn llai heriol na rhai'r blynyddoedd blaenorol ac, unwaith eto, byddwn yn dibynnu ar ymroddiad ein staff ar yr adegau mwyaf eithafol o bwysau. Fodd bynnag, mae'r cynlluniau sydd gennym ni ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn dod o bartneriaeth rhwng ein GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r Llywodraeth. Dylai'r cyfuniad o gynlluniau lleol a chenedlaethol ddarparu mwy o gydnerthedd yn erbyn y pwysau anochel a ddaw dros fisoedd y gaeaf. Fel erioed, ein nod ni, a nod ein staff ymroddedig, yw gwneud yn siŵr bod cleifion yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnynt, pan fo'i angen a lle y mae ei angen.