– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynlluniau cyflenwi ar gyfer y gaeaf, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae GIG Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn cynllunio i ddarparu gwasanaethau cydnerth ar gyfer y gaeaf. Roedd y gaeaf diwethaf yn un o'r anoddaf y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi'i wynebu ers nifer o flynyddoedd a gwelwyd heriau cynyddol ar gyfer ein staff rheng flaen. Nid oedd hyn, fodd bynnag, yn unigryw i Gymru gan y rhoddwyd gwasanaethau iechyd ar draws y DU o dan straen aruthrol. Roedd eira sylweddol, amodau rhewllyd, cynnydd yn y galw am wasanaethau meddygon teulu a gofal brys, cynnydd yn y derbyniadau i ysbytai ar gyfer pobl hŷn sydd â chyflyrau cymhleth, a'r nifer fwyaf o achosion o'r ffliw ers pandemig 2009 yn golygu bod ein GIG a'n system gofal cymdeithasol dan bwysau digynsail. Er gwaethaf y pwysau hyn, fe wnaeth y rhan fwyaf o bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gaeaf diwethaf dderbyn gofal prydlon a diogel. Mae hyn yn deyrnged i'r miloedd o staff ymroddedig sy'n aml yn gweithio mewn amgylchiadau anodd, yn aml yn mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol ohonynt i ddarparu gofal tosturiol a phroffesiynol.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y cyhoeddwyd gwerthusiad o gydnerthedd iechyd a gofal cymdeithasol dros y gaeaf diwethaf yn ddiweddar. Gan fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o'r gwerthusiad hwn, cydnabuwyd bod angen mynd ati drwy gynnwys y system gyfan mewn modd cydgysylltiedig a chydweithredol yn hanfodol. Awgrymodd hefyd y byddai blaenoriaethu cyflawni nifer fach o feysydd mewn modd penodol cyn y gaeaf hwn yn cefnogi gwell rheolaeth o'r ymchwydd mewn galw a newidiadau ym mhatrymau'r galw.
Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig ar 25 Hydref, mae fy swyddogion wedi gweithio gydag arweinwyr clinigol cenedlaethol, arweinwyr o sefydliadau GIG Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu pum blaenoriaeth cyflawni ar gyfer y gaeaf hwn. Bydd y rhain yn cynyddu'r pwyslais ar reoli cleifion yn y gymuned, yn sicrhau bod dulliau rheoli â phwyslais clinigol mewn ysbytai i reoli risg a chynnydd yn y galw, ac i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref o'r ysbyty pan fyddant yn barod.
Er ein bod yn cydnabod bod pwysau ar y system iechyd a gofal yn realiti drwy gydol y flwyddyn, mae cynllunio ar gyfer y gaeaf yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig ar gyfer ein system iechyd a gofal a'n hasiantaethau cenedlaethol. Mae'r paratoadau ar gyfer y gaeaf hwn wedi bod ar waith trwy Gymru ac ar draws ffiniau sefydliadol ers y gaeaf diwethaf. Mae byrddau iechyd lleol, gwasanaeth ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi bod yn gweithio dros y misoedd diwethaf i ddatblygu a chwblhau cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf ar gyfer eu cymunedau iechyd a gofal, sy'n cyd-fynd â'r pum blaenoriaeth hynny.
Rydym ni wedi cael cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf gan bob bwrdd iechyd ac mae fy swyddogion i, uned gyflawni GIG Cymru a'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu wedi craffu arnyn nhw. Darparwyd adborth i helpu i wella eu cynlluniau cyn y gaeaf. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi datblygu cynllun cenedlaethol a ystyriwyd ac y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd.
Mae'r cynlluniau lleol yn cynnwys pwyslais ychwanegol ar ddarparu cyngor dros y ffôn i bobl ag anghenion gofal brys, sicrhau bod gwasanaethau yn y gymuned ar gael yn amlach gyda'r nos a dros y penwythnosau, a gweithio ar y cyd gyda'r trydydd sector i gynorthwyo pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod.
I gefnogi'r cynlluniau cyflawni, cyhoeddais becyn £20 miliwn ar gyfer y GIG a phartneriaid gofal cymdeithasol yng Nghymru cyn y gaeaf hwn. Gan ddysgu o flynyddoedd blaenorol, fe wnes i'r penderfyniad i ddyrannu'r arian hwn yn gynharach eleni i sicrhau bod timau iechyd a gofal lleol mor barod ag y gallan nhw fod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Mae'r cyllid hwn, wrth gwrs, ar ben y £5 miliwn a gyhoeddais ar 17 Hydref i helpu i leihau'r pwysau ar unedau gofal critigol a'r £10 miliwn a gyhoeddais ar 22 Hydref i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy trwy'r gaeaf hwn. Bydd yn helpu pobl i gael gofal yn nes at y cartref, yn sicrhau bod digon o gapasiti ar gael mewn ysbytai ac yn helpu pobl i adael yr ysbyty a mynd adref pan fyddan nhw'n barod. Dyrennir 16 miliwn o bunnoedd o'r pecyn gwerth £20 miliwn hwnnw yn uniongyrchol i'r byrddau iechyd lleol i helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu sy'n rhan o'u cynlluniau, ochr yn ochr â'u partneriaid yn y gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a'r trydydd sector.
Rwy'n disgwyl i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio i gefnogi byrddau iechyd i gyflawni'r cerrig milltir a nodwyd ar gyfer y gaeaf hwn, yn rhan o fabwysiadu ac addasu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru. Bydd cyflawni'r cerrig milltir hyn yn cael ei fonitro drwy gyfarfodydd misol â chyfarwyddwyr gofal sylfaenol a chymunedol. Rydym ni wedi nodi ein disgwyliadau yn glîr wrth y byrddau iechyd bod yn rhaid defnyddio'r arian hwn i helpu i gyflawni'r camau gweithredu a amlinellwyd yn eu cynlluniau integredig ar gyfer y gaeaf, ac, unwaith eto, caiff hynny ei werthuso yn rhan o adolygiad arall o wrthsefyll pwysau'r gaeaf ar ôl i'r gaeaf hwn ddod i ben.
Bydd y £4 miliwn sy'n weddill o'r pecyn £20 miliwn yn ariannu blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y gaeaf, ac mae'r rhain yn cynnwys cynyddu capasiti adrannau achosion brys i gefnogi llif cleifion, pedwar prosiect gwasanaeth ambiwlans Cymru hynod effeithiol i reoli galw cleifion yn y gymuned, a dau gynllun arbrofol i ymestyn y gallu i gael gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
Bydd GIG Cymru yn gweithio'n agosach gyda'r trydydd sector dros y gaeaf hefyd. Er enghraifft, bydd byrddau iechyd lleol yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i gynorthwyo cleifion a staff mewn adrannau achosion brys, ac i gludo cleifion perthnasol gartref, gan eu helpu i ailymgartrefu ac ailgysylltu â gwasanaethau cymunedol. Bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru hefyd yn gweithio gyda St John Cymru i gyflwyno ar raddfa fwy prosiect a dreialwyd yn ne Cymru y gaeaf diwethaf, i gyflwyno gwasanaeth penodol ar gyfer codymau, ac fe wnes i amlinellu hyn yn fy natganiad yr wythnos diwethaf am yr adolygiad o achosion oren. Bydd hyn yn helpu i osgoi anfon adnoddau ambiwlans brys hanfodol at bobl a all gael eu hailymgartrefu yn ddiogel heb ymyrraeth glinigol.
Rydym ni wedi gofyn i fyrddau iechyd lunio cynlluniau gweithredol ar gyfer y cyfnod 18 diwrnod hollbwysig rhwng 21 Rhagfyr a 6 Ionawr. Mae hynny i gydnabod yr heriau penodol y mae'r cyfnod hwn yn ei achosi oherwydd nifer y gwyliau banc. Mae ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn a lansiwyd gennyf yn ddiweddar yn rhoi mwy o bwyslais ar swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol a'r ystod eang o wasanaethau eraill sydd ar gael yn y gymuned. Maen nhw'n aml yn agosach at gartrefi pobl ac ar gael ar adegau mwy cyfleus ar gyfer amrywiaeth o bobl gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Roeddwn yn falch o lansio yr ymgyrch flynyddol Curwch Ffliw ar 3 Hydref, ac fe gefais i fy mhigiad ffliw mewn fferyllfa gymunedol yng Nghwmbrân. Mae'r ymgyrch Curwch Ffliw yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim er mwyn eu diogelu. Eleni, bydd y brechlyn ar gael yn fwy eang nag erioed o'r blaen, gan gynnwys staff yn y sector gofal cymdeithasol, wedi'i dalu gan y gwasanaeth iechyd gwladol.
Ond nid oes unrhyw reswm i feddwl y bydd y gaeaf hwn unrhyw faint yn llai heriol na rhai'r blynyddoedd blaenorol ac, unwaith eto, byddwn yn dibynnu ar ymroddiad ein staff ar yr adegau mwyaf eithafol o bwysau. Fodd bynnag, mae'r cynlluniau sydd gennym ni ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn dod o bartneriaeth rhwng ein GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r Llywodraeth. Dylai'r cyfuniad o gynlluniau lleol a chenedlaethol ddarparu mwy o gydnerthedd yn erbyn y pwysau anochel a ddaw dros fisoedd y gaeaf. Fel erioed, ein nod ni, a nod ein staff ymroddedig, yw gwneud yn siŵr bod cleifion yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnynt, pan fo'i angen a lle y mae ei angen.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Un o'r pethau sy'n dueddol o fod yn nodwedd amlwg o fisoedd y gaeaf yw pwysau'r gaeaf ar y GIG ac, yn amlwg, dros gyfnod y Nadolig, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad. Gyda'r gwyliau banc ac yn y blaen, mae'n amser rheoli arbennig o anodd ar gyfer y GIG, ac rydym ni yn talu teyrnged i waith staff y GIG drwy'r ystad gyfan, oherwydd mae angen i bawb o fewn yr ystad honno weithio, yn ogystal â'r sector gwirfoddol, i ymdopi â'r heriau hynny.
Fe wnaf i ymdrin ag ychydig o bwyntiau o'r datganiad, yn arbennig ynghylch y capasiti. Fe allwch chi siarad am yr arian ychwanegol yr ydych chi wedi i roi, sydd i'w groesawu'n fawr, ond a yw hwnnw'n arian ychwanegol sy'n prynu capasiti ychwanegol, mewn gwelyau ysbyty a'r gallu i ddefnyddio meddygfeydd teulu a lleoliadau gofal sylfaenol, yn benodol? Yn y datganiad rydych chi'n sôn am gynyddu'r gallu i gael gwasanaethau yn y gymuned gyda'r nos ac ar benwythnosau. Wel, pe baech chi'n siarad â'r rhan fwyaf o bobl, maen nhw'n cael trafferthion drwy'r amser yn ceisio cael apwyntiadau gyda'r nos yn y sector meddygon teulu, er enghraifft. Felly, pa gapasiti ychwanegol fydd yr adnodd yr ydych chi'n sôn amdano yn ei brynu dros y misoedd nesaf hyn sydd i ddod er mwyn i hynny drin cleifion, mewn gwirionedd, yn y lleoliad gorau, sef yn y gymuned ei hun?
Yma yng Nghaerdydd, er enghraifft, dros gyfnod y Nadolig y llynedd, cafwyd cyfnod o amser pan nad oedd unrhyw ddarpariaeth meddyg teulu y tu allan i oriau o gwbl gan nad oedd y bwrdd iechyd wedi gallu denu unrhyw feddygon teulu i lenwi'r slotiau hynny yn y rota. A allwch chi roi ymrwymiad heddiw na fydd y sefyllfa honno yn digwydd y gaeaf hwn, o ystyried y parodrwydd yr ydych chi wedi'i nodi yn eich datganiad y prynhawn yma? Yn benodol, a chodais hyn gydag arweinydd y tŷ, a wnewch chi sôn am lefelau staffio yn y GIG, yn arbennig yn y gwasanaethau mamolaeth? Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn mynd i ddod yn ôl i'r Siambr i roi gwybod inni am lefelau staffio yn y gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru yng ngoleuni'r sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a niferoedd y staff yn y fan honno. Os gallech chi ddefnyddio, efallai, y datganiad hwn i roi sicrwydd inni fod eich swyddogion bellach wedi bodloni eu hunain a chadarnhau i chi bod niferoedd y staff yn gadarn yn y gwasanaethau y bydd galw arnynt dros fisoedd y gaeaf; rwy'n credu y byddem ni'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.
Y brechiad rhag y ffliw—yn amlwg mae yna ymgyrch eang ynghylch y brechlyn ffliw ar hyd a lled Cymru. Dim ond y bore yma roeddwn yn clywed am broblemau yn y gogledd yn benodol, lle mae'n ymddangos bod yna brinder, yn sicr mewn rhai meddygfeydd teulu, ac nid yw cleifion yn gallu cael y brechiad mewn gwirionedd pan fyddan nhw'n dod i gael y brechiad hwnnw. A allwch chi gadarnhau a ydych chi'n ymwybodol o achosion o'r fath lle mae cleifion wedi eu troi ymaith pan fyddant yn dod i gael y brechiad, ac, os nad yw hynny wedi digwydd, a allwch chi roi sicrwydd, os yw etholwyr yn dymuno cael y brechlyn ffliw, bod digonedd o gyflenwad yma yng Nghymru i'r rhaglen honno gyflawni'r amcanion yr ydym ni eisiau iddi eu cyflawni mewn gwirionedd?
Yn amlwg, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig hefyd yw canolbwyntio ar ystad ehangach y GIG. Nid oes llawer o ddiben, neu ddim diben o gwbl, bod yr ysbyty ei hun yn gweithio os yw'r meysydd parcio, er enghraifft, neu'r ffyrdd i mewn i'r meysydd parcio, wedi'u rhwystro. Yn aml iawn, dyma'r pethau sy'n tueddu i gael eu hesgeuluso. Gallaf gofio yn Ysbyty Llandochau, ryw ddwy flynedd yn ôl, roedd yr ysbyty ei hun yn gweithredu'n dda iawn ond oherwydd bod y meysydd parcio dan rew ac eira, yn y bôn, nid oedden nhw'n gallu cael unrhyw gleifion i mewn na staff i gynorthwyo yn y newid shifftiau yr oedd ei angen. Felly, pan fo'r ysbytai a'r byrddau iechyd yn edrych ar eu hystad, dylen nhw edrych ar yr ystad gyfan a'r modd y mae'r ystad hwnnw yn gweithredu fel nad ydym ni'n cael y math hwnnw o anghysondeb yn digwydd eto sy'n rhoi gormod o bwysau ar amgylchedd yr ysbyty ei hun.
Fe wnaethoch chi grybwyll hefyd yn eich datganiad y cynnydd mewn cyfleusterau cymunedol a fydd ar gael. A wnewch chi egluro pa gynnydd yr ydych chi'n bwriadu ei greu y gaeaf hwn nad oedd ar gael y gaeaf diwethaf yn y gymuned, fel bod cleifion yn gwybod lle y mae angen iddyn nhw fynd? Mae'n bwysig, fel y gwnaethoch chi ei nodi yn gwbl briodol yn eich datganiad, dweud bod hwn yn rhywbeth y mae angen i sawl asiantaeth gydweithio arno, y sector gwirfoddol, yr awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd ei hun. Os bydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd, yna gallwn gael hyder yn y cynlluniau yr ydych chi wedi'u hamlinellu heddiw. Ond yr hyn a welsom ni y gaeaf diwethaf oedd chwalfa yn y gwasanaeth, yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o bobl ar hyd a lled Cymru. Rwyf yn cyfeirio at y pwynt penodol hwnnw y cyfeiriais ato, lle, yng Nghaerdydd er enghraifft, nad oedd darpariaeth y tu allan i oriau o gwbl ac felly nid yw hynny ond yn gadael yr adran ddamweiniau ac achosion brys i ddwyn y baich am y galw ychwanegol hwnnw sy'n cyrraedd wrth ddrysau yr ysbyty, sy'n rhoi pwysau ar yr ysbyty ei hun, a'r pwysau hynny yn gwasgu ar y gwasanaeth. Felly, a allwch chi roi yr ymrwymiad inni y bydd y capasiti yn y gymuned? Allwch chi roi'r ymrwymiad inni fod gan y byrddau iechyd y lefelau staffio sydd eu hangen arnynt, ac, yn anad dim, pa fentrau newydd y byddwch chi'n eu cyflwyno lle'r ydych chi wedi dysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf?
Diolch i chi am yr amrywiaeth eang o gwestiynau. Roedd rhai o'ch pwyntiau ehangach ynghylch capasiti ar draws y system—fe wnaethoch chi ddechrau a therfynnu ar y pwyntiau hynny. O ran y capasiti gwelyau sy'n rhan o'r system, ac nid dim ond yn lleoliad yr ysbyty, ond y gallu i ymestyn capasiti gwelyau, mae angen staff ar gyfer hynny, a dyna'r ffactor sy'n cyfyngu fwyaf, yn hytrach na'r gwelyau eu hun a'r lle ar eu cyfer. Ond mae yna hefyd welyau mewn gwahanol rannau o'r system, felly mae canolbwyntio ar welyau ailalluogi, i gael pobl allan o'r ysbyty os oes angen iddynt fod mewn lleoliad canolraddol cyn mynd yn ôl i'w cartrefi eu hunain, ble bynnag y bo, boed yn gartref preifat neu os ydyn nhw yn y sector gofal preswyl.
Mae bob amser capasiti i wneud gwell defnydd o gapasiti yn y sector fferyllol hefyd, ac amlinellais hyn yn y datganiad. Mae mwy o wasanaethau y gall fferyllfeydd eu darparu nag y mae llawer o bobl yn ymwybodol ohonynt. Rydym ni eisiau gwneud y defnydd gorau posibl o'r gwasanaeth hwnnw. Rwyf wedi amlinellu yn yr adolygiad achosion oren ac yn y datganiad heddiw, rai o'r lleoedd lle bydd y capasiti ychwanegol hwnnw—er enghraifft, mwy o glinigwyr ar gael i wasanaethu'r ddesg glinigol gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, lle mae llawer o'r galw yn mynd yn y pen draw ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a, lle mae'r gwasanaeth 111 wedi'i gyflwyno, mae mwy o gydnerthedd yn y gwasanaeth y tu allan i oriau ac nid dim ond pobl yn rhyngweithio â'r gwasanaeth ambiwlans brys hefyd. Felly, bydd gennym ni fwy o staff i helpu i wneud y gwaith hwnnw. Mae hynny'n rhannol yn dilyn ymlaen o'r datganiad yr wythnos diwethaf ar yr adolygiad o achosion oren. Heddiw, er enghraifft, rydych chi'n gwybod, ar draws y system, bod y cynllun treialu llwyddiannus o uwch ymarferwyr parafeddygol yn y gogledd yn cael ei gyflwyno drwy'r gwasanaeth. Felly, mae hynny'n gapasiti ychwanegol ond nid dim ond o ran niferoedd yn unig, ond y math o bobl sy'n defnyddio'r sgiliau hynny sydd gan yr uwch ymarferwyr parafeddygol hynny. Mae byrddau iechyd lleol wedi penderfynu gyda'u partneriaid awdurdod lleol lle yw'r man gorau i ddefnyddio sgiliau'r uwch ymarferwyr parafeddygon hynny. Felly, oes, mae mwy o staff yn mynd i fod yn ein system ac o'i hamgylch, ac rydym ni mewn gwirionedd yn ceisio dysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf. Dylai fod yn gadarnhaol bod y dysgu gwersi hynny yn digwydd rhwng staff proffesiynol ac arweinwyr staff, felly nid wyf yn cael fy nhynnu i mewn i'r manylion gweithredol hynny oherwydd, mewn gwirionedd, nid dyna lle y dylai gwleidydd fod. Mae'n ymwneud â'r sicrwydd yr ydym yn ei roi iddynt gyda'r adnoddau y mae eu hangen arnynt er mwyn ymdrin â'r capasiti a lle mae angen y capasiti hwnnw arnyn nhw er mwyn ceisio cyflawni system fwy cydnerth drwy'r gaeaf hwn.
Ond byddai'n ffôl i unrhyw Weinidog iechyd mewn unrhyw Lywodraeth geisio rhoi sicrwydd llwyr na fydd y system yn dod o dan bwysau neu straen yn ystod y gaeaf, ac mae hynny yn cynnwys ein gallu i ddarparu gwasanaethau y tu allan i oriau a sut y mae'r holl rannau o'r system yn cyd-addasu gyda'i gilydd. Dyna pam y mae angen inni wneud defnydd gwell o integreiddio'r system gyfan gyda'i gilydd, oherwydd fel arall rwy'n cydnabod bod y pwysau hynny yn mynd i wahanol feysydd. Dyna pam yr ydym ni'n bwriadu rhoi mwy o gapasiti yn ochr gofal cymdeithasol y system, oherwydd mae'n rhaid i ymroddiad ein staff fod ym mhob un o'r sectorau hynny. Os byddwn yn cael mwy o gleifion yn llifo drwy'r system gofal iechyd, fel y disgwyliwn ei wneud ac fel yr ydym ni eisiau ei wneud, mae hynny'n golygu y bydd pobl yn cyrraedd yn y sector gofal cymdeithasol yn gyflymach nag o'r blaen. Mae angen capasiti arnom ni yn y sector hwnnw, nid dim ond gwelyau ond staff i wneud eu gwaith hefyd.
Ynglŷn â rhai o'r pwyntiau penodol a wnaethoch chi, ar y cynlluniau gweithredu y mae byrddau iechyd yn eu cyflawni, rwy'n disgwyl iddynt gynwys yr ystad yn ein hysbytai fel y gall pobl, mewn gwirionedd, symud o amgylch yr ystad honno—mae hynny'n cynnwys y staff, y cleifion a'r ymwelwyr hefyd. O ran y sicrwydd ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth, rydym ni wedi cael sicrwydd, a byddaf yn rhoi nodyn ysgrifenedig i'r Aelodau gadarnhau y derbyniwyd y sicrwydd hwnnw ynghylch yr aelodau staff ar wasanaethau mamolaeth ledled y wlad.
Ac yna, ynglŷn â'r brechlyn ffliw, bu galw ychwanegol sylweddol i'w gynhyrchu eleni. Bob blwyddyn, mae sefydliadau iechyd cyhoeddus yn cytuno ar y mathau cywir o'r brechlyn ffliw i'w targedu. Mae brechlyn ychydig yn wahanol ar gael yn dibynnu ar y grwpiau oedran gwahanol ac effeithiolrwydd hwnnw. Cafodd y gwneuthurwr rai problemau cyflenwi byr dymor ar ddechrau'r tymor. Maen nhw'n cael eu datrys ac mae'r cyflenwadau yn cael eu rhyddhau ledled Cymru, Lloegr a gweddill y DU hefyd. Felly, os oes unrhyw un nad yw wedi cael brechiad rhag y ffliw sydd ei eisiau fe ddylen nhw gysylltu eto â'u meddyg teulu neu eu fferyllfa gymunedol lleol ac fe allan nhw roi gwybodaeth leol iddyn nhw ynglŷn â phryd i gael y pigiad a phryd y bydd ar gael yn rhwydd ym mhob ardal o'r wlad. Ond mewn gwirionedd rydym ni ar y blaen yn ein hymgyrch ffliw eleni. Rydym ni'n disgwyl brechu mwy o'n staff a mwy o'r cyhoedd, ac rydym ni eisiau gwneud hynny, a dylai fod mwy o gyfleoedd i wneud hynny mewn gwahanol leoliadau o amgylch y wlad hefyd.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Fe ddechreuaf gyda mater cyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi yn gwbl briodol yn amlygu nifer o bwyntiau yn eich datganiad, y pwysau enfawr a fu ar staff. Credaf ichi ddweud mewn cyfweliad yn ddiweddar:
'Roedd y gaeaf diwethaf yn anodd iawn a chyfarfod â staff a oedd ar ben eu tennyn. Gan wybod eu bod yn ymrwymedig, a gwybod eu bod eisiau i chi wneud rhywbeth drostyn nhw. Weithiau gwrando yw hynny ac mae yna adegau pan fydd pobl yn dweud "Gallwch chi wneud hyn yn well i ni".'
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n ffyddiog y bydd y cynlluniau yr ydych chi wedi'u hamlinellu i ni heddiw yn lleihau'r pwysau ar staff? Ni all neb ddisgwyl i chi roi gwarant na fydd pwysau ychwanegol, oherwydd y mae yna bob tro yn ystod y gaeaf, ond a ydych chi'n ffyddiog y bydd yn lleihau'r pwysau ar staff gan olygu bod ychydig yn llai o bwysau arnyn nhw y gaeaf hwn? Mae'n rhaid imi ddweud bod fy mewnflwch a fy mag post yn awgrymu bod rhywfaint o amheuaeth ar lawr gwlad am faint sydd wedi newid, felly efallai y gallwch chi achub ar y cyfle y prynhawn yma i roi rhagor o sicrwydd i'r staff.
Gan droi at brif gynnwys eich datganiad, rydych chi'n sôn am flaenoriaethau cyflenwi y gaeaf sy'n canolbwyntio ar reoli cleifion yn eu cymunedau a sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd o'r ysbyty pan fyddant yn barod. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o'r pryderon sydd wedi eu codi'n gyson gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol am y diffyg therapyddion galwedigaethol sydd ar gael i gymryd rhan yn y prosesau asesu pan fydd pobl yn barod i adael yr ysbyty ac i asesu eu cartrefi i wneud yn siŵr bod y cartrefi yn briodol i dderbyn y cleifion hynny sy'n dychwelyd adref. A fydd yr adnoddau cychwynnol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi heddiw yn helpu i gynyddu capasiti therapi galwedigaethol lle y mae ei angen i hwyluso pobl i fynd adref o'r ysbyty cyn gynted â phosibl?
Ar y cynlluniau cyflawni ar gyfer y gaeaf, felly—ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch iawn o wybod eu bod ar waith—rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad at roi adborth i'r darparwyr gofal, i'r byrddau iechyd lleol, i wella'r cynlluniau hynny. A allwch chi rannu gyda ni ychydig mwy o'r pryderon a oedd gennych am y cynlluniau hynny, neu a oedd gan eich swyddogion, a pha gamau yr ydych chi'n disgwyl bod byrddau iechyd lleol wedi eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y ffaith nad yw materion gweithredol manwl yn fater i chi, ond o gofio eich bod wedi dweud y bu angen rhoi adborth iddyn nhw, credaf y byddai'n ddefnyddiol i ni wybod beth oedd yr adborth hwnnw er mwyn bod â sicrwydd bod hwnnw wedi ei dderbyn yn llwyr.
Fel Andrew R.T. Davies, rwy'n croesawu'r pecyn gwerth £20 miliwn. A wnewch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, a yw hwn yn gyllid newydd ar gyfer y gyllideb iechyd, neu a yw hwn yn arian sydd wedi'i symud o flaenoriaeth arall i'r flaenoriaeth hon, ac, os felly, o ble y symudwyd y cyllid hwnnw? Rwy'n sylweddoli ac yn gwerthfawrogi pa mor dynn iawn yw'r gyllideb ac rwyf, fel yr wyf wedi dweud, yn croesawu'r adnodd ychwanegol hwnnw, ond mae'n bwysig inni ddeall lle y gallai pwysau eraill godi os yw'r cyllid hwnnw wedi'i symud.
Byddwn yn croesawu'n fawr iawn y cyfeiriadau at rywfaint o'r gwaith cadarnhaol gyda'r trydydd sector, a hoffwn ichi ddweud wrthym y prynhawn yma beth yr ydych chi'n bwriadu ei wneud i sicrhau, pan fo gwaith prosiect da yn digwydd mewn meysydd penodol gyda'r trydydd sector, ein bod yn dysgu o hynny a bod y defnydd da hwnnw o'r trydydd sector yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol. Wrth gwrs, bydd gwahanol ddarpariaethau trydydd sector mewn gwahanol rannau o Gymru ac efallai na fydd yn bosibl eu darparu ym mhobman, ond lle ceir arferion da, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno ei bod orau i hynny gael ei rannu a'i ddefnyddio.
Un o'r rhannau pwysig, wrth gwrs, yw bod eich datganiad yn tynnu sylw at y system gofal brys—gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau a'r ganolfan alwadau 111. Nawr, o ystyried yr adroddiad hynod feirniadol gan y swyddfa archwilio ar ofal y tu allan i oriau a gyhoeddwyd yr haf diwethaf a phryderon y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi eu codi heddiw eto am nifer y meddygon teulu sydd gennym ni, y bylchau, a gallu meddygon teulu i ymdopi, ac 84 y cant o'r meddygon teulu yn dweud eu bod yn pryderu y bydd eu llwyth gwaith yn cael effaith negyddol ar eu gallu i ddarparu gofal ar gyfer eu cleifion yn ystod y gaeaf hwn, a allwch chi ein sicrhau, ac a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd ar weithredu argymhellion yr adroddiad hwnnw er mwyn i ofal y tu allan i oriau fod wedi'i gryfhau y gaeaf hwn ac y bydd mor gadarn ag yr ydych chi'n ei nodi inni, yr ydych yn gobeithio y bydd?
Wrth gwrs, yn olaf, nid yw cynllunio ar gyfer y gaeaf yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod meddygon a nyrsys ar gael yn ein hysbytai yn unig. Mae gan ysbytai, yn enwedig, ystod eang o staff cymorth i wneud yn siŵr bod gan fferyllfeydd gyflenwadau ac offer, i wneud yn siŵr bod porthorion ar gael i helpu cleifion i symud o gwmpas ac ati ac ati. A allwch chi gadarnhau bod cadw'r gwasanaethau cymorth hyn yn weithredol hefyd yn rhan allweddol o'r cynlluniau ar gyfer y gwyliau, yn arbennig, yr ydych chi wedi disgwyl i'r byrddau iechyd lleol eu gwneud i baratoi ar gyfer tymor y Nadolig?
Ceisiais ymdrin â'r pwynt olaf yn y gyfres o gwestiynau yn y datganiad. Ceisiais gyfeirio at yr amrywiaeth o wyliau banc sy'n digwydd rhwng 21 Rhagfyr a 6 Ionawr. Gwyddom fod hynny yn rhannol am wyliau banc a hefyd am yr ymchwydd ychwanegol yr ydym yn tueddu i'w weld ar ôl y Nadolig ac ar ôl y flwyddyn newydd pan fydd pobl wedi gohirio mynd i ofyn am gymorth a chyngor, ac ar ôl pob un o'r cerrig milltir penodol hynny rydym yn gweld ymchwydd yn y galw ar yr holl system iechyd a gofal, nid dim ond ein sector ysbytai, ond mae meddygon teulu yn sicr yn gweld yr ymchwydd hwnnw yn y galw hefyd.
Ar eich—rwy'n ceisio mynd i'r afael â nifer ac ystod y cwestiynau a ofynnwyd gennych chi—credaf y bydd y cynlluniau yn helpu i wneud yn siŵr bod gennym ni'r gobaith gorau o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl drwy'r gaeaf, ac rwy'n cydnabod bod pwysau a straen ar y staff bob amser. Rydym ni'n sôn am adeg brysuraf y gwasanaeth, yn yr adrannau achosion brys, ond hyd yn oed yn fwy felly mewn gofal sylfaenol. Rhan brysuraf ein system mewn gwirionedd yw gofal sylfaenol. Ac ni allaf ddileu holl straen y gwaith. Ac mae a wnelo hyn ag onestrwydd pan fyddwch yn cyfarfod â staff—bod yn onest â nhw am yr hyn y gallwch chi ei wneud a deall y pwysau y maen nhw'n ymdopi ag ef a chydnabod bod y system mewn gwirionedd yn brysur drwy'r flwyddyn. Ond nid grŵp o wleidyddion sy'n eistedd i lawr gydag amrywiaeth o swyddogion mewn ystafell ac yn penderfynu creu cynlluniau nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar ymarfer yw'r hyn a ddylai roi rhywfaint o hyder i bobl. Mae'r cyngor a gawn, a'r cynlluniau yn cael eu llunio gan bobl sy'n arwain ac sy'n gweithio yn ein system. Er enghraifft, mae'r arweinydd clinigol sydd gennym ni ar gyfer gofal heb ei drefnu, mewn gwirionedd, yn feddyg ymgynghorol mewn adran achosion brys sy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru mewn adran brysur, ac mae hi wedi bod yn rhan o arwain gwelliant yn yr uned honno ac mae ganddi, a dweud y gwir, gefnogaeth ei chydweithwyr o amgylch y wlad mewn modd nad oes gan wleidydd neu swyddog sydd erioed wedi gwneud y swydd honno. Felly, mae yna hyder gwirioneddol ei bod yn bosibl cyflawni gwelliant yn ogystal â deall natur benodol rhai o'r gweithleoedd a'r galw mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Ar eich pwynt penodol am therapi galwedigaethol, mae her ynghylch y tymor byrrach ac efallai y bydd yr arian yn helpu â pheth o'r capasiti tymor byrrach hwnnw drwy'r gaeaf, ond wrth gwrs, mae yna her tymor hwy hefyd, a dyna lle y byddwn ni'n edrych ar ein lleoedd hyfforddi a'r niferoedd y buddsoddwn. Rydym ni wedi cael cynnydd sylweddol yn y lleoedd hyfforddi therapi galwedigaethol dros y pedair i bum mlynedd diwethaf. Mae'r un peth yn wir am rai o'r pwyntiau a wnaed gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol heddiw. Rydym ni mewn gwirionedd yn edrych eto ar sut yr ydym ni'n recriwtio ac i ble ac o ble yr ydym yn recriwtio meddygon teulu. Yn y ddwy flynedd diwethaf—fe wnaethom ni orlenwi ein nifer o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn y flwyddyn cyn y ddiwethaf; eleni, cawsom gyfradd lenwi o 98 y cant mewn hyfforddiant meddygon teulu a bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn edrych eto ar y ffordd yr ydym ni'n recriwtio, ond hefyd ar nifer y lleoedd hyfforddi eto eleni.
Ar eich pwynt ynglŷn â gwasanaeth y tu allan i oriau, mae'n rhywbeth yr wyf yn cydnabod fel her. Nid yw'r rhaglen 111 honno y soniais amdani ond yn ffordd wahanol o gyflawni rhan o wasanaeth y tu allan i oriau; mae hi mewn gwirionedd yn ail-lunio'r model o sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau y tu allan i oriau, ac amrywiaeth ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol—meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys a therapyddion yn arbennig—i wneud yn siŵr bod amrywiaeth o gyngor ar gael ac i wneud yn siŵr bod cydnerthedd ar draws y system gyfan.
Ynghylch eich pwynt am arian, yr £20 miliwn a gyhoeddais wythnosau yn ôl ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, gyda phartneriaid—mae hwnnw'n arian untro i wneud yn siŵr ein bod yn ymdopi â'r gaeaf eleni. Mae'r £10 miliwn y byddwch wedi ein clywed ni yn ei roi yn y system gofal cymdeithasol—mae hwnnw'n arian untro, ond, wrth gwrs, yn dilyn hwn bydd £13 miliwn o fuddsoddiad rheolaidd yn y system gwasanaethau cymdeithasol o'r gyllideb iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn olaf, eich pwynt ar y trydydd sector. Mae gennym ni bartneriaethau cenedlaethol mewn rhai ardaloedd. Yr enghreifftiau a roddais yw St John Cymru a'r Groes Goch, ond yn yr un modd, byddwch yn deall bod yna fwy o bartneriaid trydydd sector lleol sy'n darparu gwasanaethau, ac mae hynny yn sicr yn rhan o'r hyn a ddysgwyd ar gyfer y gaeaf hwn. Ac rwy'n disgwyl y byddwn yn dysgu unwaith eto ar ddiwedd y gaeaf hwn beth sydd wedi gweithio'n llwyddiannus a beth y gallem ni ei wneud hyd yn oed yn fwy llwyddiannus mewn rhannau eraill o'n system.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Dim ond ychydig o bwyntiau i'w codi. Mae brechu wedi ei nodi unwaith neu ddwywaith. Rydych chi'n disgrifio yn eich datganiad eich bod bellach yn annog staff gofal cymdeithasol i gael eu brechu, sy'n ddatblygiad da. Roedd yna broblem ychydig o flynyddoedd yn ôl fod llai na 50 y cant, mewn gwirionedd, yn dewis cael y brechiad rhag y ffliw, o blith staff y GIG. Mae'n debyg bod llawer o hyn yn sgil rhoi cyhoeddusrwydd i'r ffaith ei fod ar gael, mewn gwirionedd. A ydych chi'n hyderus bod llawer mwy o bobl yn mynd i ddewis ei gael eleni?
Rydych chi'n gywir ynglŷn ag annog pobl i beidio â mynd i weld meddyg bob amser ac weithiau, mae hi'n well iddyn nhw fynd i weld y fferyllydd lleol, felly rydych chi'n cyfeirio pobl i geisio gweld y fferyllydd lle bo modd, sydd, unwaith eto, yn ddatblygiad da. Wrth gwrs, mae'n codi'r mater parhaus o gydleoli, sef un o argymhellion y pwyllgor iechyd ychydig o flynyddoedd yn ôl ar ôl ei ymchwiliad. Roedden nhw eisiau i wasanaethau fferylliaeth gael eu cydleoli mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Tybed a ydych chi wedi meddwl ymhellach am hynny?
A gyda'r cyngor dros y ffôn, ie, mae'n amlwg y bydd angen mwy o gyngor dros y ffôn. A oes mwy o bobl yn cael eu cyflogi i gynnig y cyngor hwn ac a ydyn nhw'n cael eu hyfforddi yn ddigon da i roi cyngor dibynadwy? Oherwydd, yn amlwg, dyna y mae angen i'r cyhoedd gael ei argyhoeddi ohono. Mae'n waith heriol iawn, felly, byddai'n ddiddorol clywed sut y mae'r hyfforddiant yn mynd a sut yr ydych chi'n mynd i gynnig mwy o gapasiti y gaeaf hwn. Diolch yn fawr.
Diolch ichi am y cwestiynau hynny. I ymdrin â'ch pwynt olaf ynghylch cyngor dibynadwy ar y ffôn, naill ai bydd gennym staff sy'n mynd drwy gyfres o ddewisiadau sydd wedi eu llunio gan glinigydd i gyrraedd y pwynt cywir ynghylch a oes angen rhagor o gyngor, ond mae llawer o'n cyngor, mewn gwirionedd, yn uniongyrchol gyda'r clinigydd. Os ffoniwch chi beth fyddai wedi bod yn llinell Galw Iechyd Cymru—os ffoniwch chi 111, cewch siarad â rhywun sy'n ymdrin â galwadau, ac wedyn cewch eich sgrinio a chael eich cysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol. Felly, oes, mae hyfforddiant ar gael, ac mewn gwirionedd mae'n ymwneud â gwneud gwell defnydd, yn y gwasanaethau ffôn hynny, o'r sgiliau sydd gan barafeddygon hefyd. Mae cynllun treialu llwyddiannus yr ymwelais i ag ef y gaeaf diwethaf yn y gogledd, sydd wedi'i gyflwyno, mewn gwirionedd yn defnyddio sgiliau uwch barafeddygon i sgrinio galwadau ac i roi cyngor i bobl er mwyn osgoi gorfod anfon ambiwlans pan nad yw'n angenrheidiol, mewn gwirionedd. Gwyddom, er enghraifft, bod rhai o'r blaenoriaethau mawr ar gyfer gwella gwasanaeth ambiwlans Cymru eleni—rydym ni'n credu bod y gwasanaeth ambiwlans o'r farn y gellid osgoi hyd at dri chwarter o'r achosion o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a dderbynnir pe bydden nhw'n cael y cyngor a'r cymorth cywir, a bydden nhw'n gallu gwneud hynny a chyflawni hynny dros y ffôn. Ac mae hynny ynglŷn â'r person cywir yn rhoi'r cyngor hwnnw.
Rwy'n credu y gwelwn ni welliant eto o ran nifer staff y GIG sy'n dewis cael y brechlyn ffliw. Rydym ni wedi gweld hynny dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac nid yw hynny'n ddamweiniol—mae'n ymgais fwriadol, gan y byrddau iechyd fel cyflogwyr ond hefyd, a dweud y gwir, gyda rhywfaint o arweiniad gan sefydliadau staff hefyd. Rwy'n gwybod bod Coleg Brenhinol y Nyrsys ac Unsain wedi bod yn gyson iawn yn annog eu haelodau i fanteisio ar y brechlyn ffliw a gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny ar gael yn y gweithleoedd i hynny ddigwydd. Rydym ni wedi dysgu o hynny gan geisio, eleni, drwy fferylliaeth gymunedol, i ddarparu gwasanaeth brechlyn ffliw ar gyfer staff gofal preswyl. Yn sicr, mae preswylwyr yn y meysydd hynny yn llawer mwy tebygol o fod yn agored i'r ffliw.
Ar eich pwynt am fferylliaeth, byddai'n llawer gwell gennyf weld gwasanaeth fferyllfa lle mae pobl yn sylweddoli y gallan nhw ei gael yn y gymuned. Credaf fod yna heriau ynghylch bod â gwasanaeth fferyllfa wedi'i leoli mewn adran damweiniau ac achosion brys, ond rwyf eisiau i'r neges fod: 'Defnyddiwch eich fferyllfa yn eich cymuned; dyma'r lle mwyaf cyfleus—byddwch yn osgoi'r angen i fynd i safle ysbyty prysur, i fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys, a cheisio cael y cymorth a'r cyngor y gallech chi ac y dylech chi eu cael yno, yn hytrach na theithio yn ddiangen i'ch ysbyty.' Credaf y bydd hynny'n helpu'r person, nad oes angen iddo fynd i'r ysbyty, yn ogystal â'r bobl hynny y mae gwir angen iddynt fynd yno, er mwyn osgoi niferoedd ychwanegol diangen.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n bwysig inni ystyried y materion sy'n ein hwynebu. Un o'r anfanteision o fynd ar ôl siaradwyr eraill yw bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau wedi'u gofyn, ond y fantais yw nad wyf yn cymryd cymaint o'ch amser. Ond mae un neu ddau o bwyntiau yr wyf eisiau tynnu sylw atynt ac efallai gofyn cwestiynau ichi arnynt.
Yn yr haf, roedd gan fy mwrdd iechyd i, Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ymgynghoriad ar welyau a chapasiti, ac o ganlyniad mae nifer y gwelyau wedi'u lleihau, y dywedodd yr arferai eu defnyddio fel capasiti ymchwydd y gaeaf diwethaf. Nawr, mae'r gwelyau hynny wedi mynd, felly y cwestiwn yr wyf i eisiau ei ofyn yw: a wnewch chi gyhoeddi, efallai, eich dadansoddiad o'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob bwrdd iechyd, fel y gallwn ni ei weld a chael sicrwydd bod yr ystyriaethau ar gyfer capasiti ymchwydd a materion eraill wedi'u hadlewyrchu yn y dadansoddiadau hynny? Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod ein hetholwyr yn gallu bod yn dawel eu meddyliau na fydd nifer y gwelyau mewn ysbytai, sydd bellach wedi eu gostwng—na fydd hynny'n effeithio ar faint ohonyn nhw sydd ar gael dros gyfnod y gaeaf. Nawr, yn ystod yr amser yr wyf i wedi bod yn Aelod o'r Cynulliad hwn, rwyf wedi gweld y gwelliant yn y cynlluniau parodrwydd ar gyfer y gaeaf. Rwyf hefyd wedi gweld parhad o'r heriau y mae pob gaeaf yn eu cyflwyno i'r byrddau iechyd, ac mae angen y sicrwydd hwnnw ar gleifion.
A wnewch chi hefyd ateb cwestiwn ar gapasiti, ynghylch yr hyn sydd yn y gymuned? Mae llawer o nyrsys ardal yn fy ardal i yn cael trafferth gyda'r llwythi gwaith sydd ganddynt, yn aml iawn, ac yn amlwg eich bwriad chi yw cael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted ag y bo modd, yn ôl yn y gymuned, yn ôl o dan ofal y sector gofal cymdeithasol, neu'r nyrsys ardal, ac eto rydym ni'n eu gweld nhw'n cael eu herio bob dydd yn y gwasanaeth hwnnw. Pa ddadansoddiad ydych chi wedi'i wneud o gapasiti nyrsys ardal o fewn rhanbarthau'r byrddau iechyd i sicrhau y gallan nhw gyflawni eich bwriad o gael pobl yn ôl yn y gymuned mor fuan â phosibl? Gwerthfawrogaf yn llwyr ein bod eisiau eu cael nhw allan, ac mae gennym ni broblem gyda'r llif drwy ysbytai, oherwydd gwelwn yr ambiwlansys mewn rhes y tu allan iddynt. Rydym ni i gyd yn canolbwyntio ar y tu blaen, ond nid ydym yn canolbwyntio ar y tu cefn; mae'n rhaid inni gael pobl yn y gymuned—ond derbyn gofal yn y gymuned yw'r elfen hollbwysig yma.
Ar y cwestiwn hwnnw, rydym ni hefyd yn gweld pobl yn aros mewn ysbytai; mae llawer iawn o systemau ar gyfer rhyddhau cleifion, ond ni ellir eu rhyddhau oherwydd bod systemau yn yr ysbytai yn araf. A wnewch chi hefyd sicrhau bod y systemau yn nhrefniadau parodrwydd y byrddau iechyd hynny yn galluogi cleifion i gael eu rhyddhau'n gyflym, ac nad oes ryw fiwrocratiaeth yn cael ei arddel? Soniodd Gareth Bennett am fferyllfeydd; faint o gleifion sy'n aros mewn ysbyty, mewn gwely, am oriau, tra byddant yn aros i fferyllfa ddanfon y feddyginiaeth cyn y gellir eu rhyddhau? Felly, a ydych chi wedi gwneud dadansoddiad o systemau o fewn y byrddau iechyd i sicrhau y gellir cyflawni'r llif hwn yr ydych chi ei eisiau—yr ydym ni i gyd ei eisiau—mewn gwirionedd?
Diolch ichi am y cwestiynau. Fe allem ni nodi cyfres o'r camau allweddol o gynlluniau gaeaf y byrddau iechyd lleol, ond byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, bod pob bwrdd iechyd yn bwriadu addasu ei gapasiti o ran gwelyau yn ystod y gaeaf, oherwydd maen nhw'n gwybod y bydd yn fwy tebygol y bydd angen derbyn pobl, am y rhesymau iawn, a'u bod yn fwy tebygol o aros am gyfnod hwy, fel yr amlinellais yn gynharach. Ond fe wnaf yn sicr roi rhywfaint o ystyriaeth i gyhoeddi rhywbeth mewn ffordd ddefnyddiol a fyddai'n hysbysu'r Aelodau, yn hytrach na darparu mwy o wybodaeth niwlog, a bydd mewn gwirionedd yn ddefnyddiol i'r Aelodau edrych arno hefyd.
Ar eich pwynt am y math o gapasiti sydd ei angen, hefyd, wel, mae'n atgyfnerthu'r bartneriaeth hanfodol rhwng y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, ond hefyd darparwyr tai hefyd, i allu cynllunio a chomisiynu ar gyfer y capasiti cywir yn y lle cywir, oherwydd, yn aml, nid oes angen iddo fod yn wely mewn ysbyty; gallai fod yn wely yn y sector gofal, ac mae'n aml yn fwy priodol ar gyfer y person hwnnw, a byddwn yn bendant yn gweld hynny yn rhan o'r cynlluniau gaeaf a ddarparwyd gan bob partneriaeth.
Ac rwy'n cydnabod eich diddordeb cyson yng nghapasiti nyrsys ardal—nid dim ond ar gyfer y gaeaf hwn, mewn gwirionedd, ond yn fwy cyffredinol—ac egwyddorion y prif nyrs sydd wedi'u cyflwyno. Mae'n un o'r meysydd yr ydym ni'n edrych arno gydag estyniad posibl o ran niferoedd staff, i ddeall nid yn unig beth sydd ei angen arnom ni, ond faint o bobl yr ydym ni eu hangen a lle yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod. Felly, bydd gwaith yn cael ei wneud nid yn unig gan swyddfa'r prif nyrs, ond wrth gwrs bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ymddiddori yn hynny hefyd.
Ar eich her ynghylch rhyddhau cleifion o'r ysbyty, mae'n un o'r meysydd yr wyf wedi canolbwyntio arno yn rheolaidd, mewn gwirionedd, ynghylch deall beth arall y gallem ni ei gael o'r fferyllfa, yn enwedig fferyllfa ysbyty, lle mae pobl wedi cael eu cyngor rhyddhau ac maen nhw'n barod i fynd, ac mewn gwirionedd mae angen iddyn nhw allu mynd adref a bod â meddyginiaeth i fynd gyda nhw. Mae'n un o'r meysydd lle y credaf y byddwn ni'n gallu gwneud mwy o gynnydd yn fuan yn y flwyddyn nesaf, oherwydd rwy'n meddwl bod mwy o swyddogaeth ar gyfer fferylliaeth gymunedol. Os ydyn nhw'n barod i gamu ymlaen, a'u bod yn gallu cyflawni'r gwasanaeth hwnnw i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, gall y bobl hynny adael yr ysbyty yn gynt nag y mae rhai ohonyn nhw'n gallu ei wneud ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod budd gwirioneddol i'w wneud drwy gyflawni'r llif mwy hwnnw, ac, mewn gwirionedd, ar gyfer yr unigolyn sydd eisiau gadael yr ysbyty, i'w alluogi i wneud hynny.
Ond dau o'r pum blaenoriaeth mawr o ran cyflawni ar gyfer y gaeaf yw canolbwyntio ar gael pobl allan o'r ysbyty pan fyddant yn barod, ond hefyd ystyried model rhyddhau i asesu hefyd. Rydym ni'n rheolaidd yn sôn am hyn: rhyddhau rhywun i asesu ei angen yn hytrach na'i gadw yn yr ysbyty mewn amgylchedd artiffisial er mwyn ceisio deall ei angen yn ei amgylchedd cartref. Mae'n atgyfnerthu'r pwynt am swyddogaeth therapyddion ac, yn benodol, therapyddion galwedigaethol, i ddeall angen yr unigolyn hwnnw. Unwaith eto, mae hynny'n bartneriaeth rhwng iechyd a Llywodraeth Leol, ac mae'n mynd yn ôl i'r adeg y gwnaethom ni lansio'r cynllun 'Cymru Iachach'. Aethom i Ynysybwl a buom yn edrych ar waith a arweiniwyd gan therapyddion i gael rhywun allan o'r ysbyty yn gynt, i mewn i'w gartref ei hun, i asesu ei angen, a darparwyd pecyn gofal. Dyna'r gwir bartneriaeth yr ydym ni ei eisiau rhwng iechyd, llywodraeth leol ac, yn hollbwysig, y dinesydd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitemau nesaf yw'r Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 a'r Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rydw i'n cynnig bod y ddau gynnig a ganlyn o dan eitemau 8 a 9 yn cael eu grwpio i'w trafod. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r grwpio?