Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Fe ddechreuaf gyda mater cyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi yn gwbl briodol yn amlygu nifer o bwyntiau yn eich datganiad, y pwysau enfawr a fu ar staff. Credaf ichi ddweud mewn cyfweliad yn ddiweddar:
'Roedd y gaeaf diwethaf yn anodd iawn a chyfarfod â staff a oedd ar ben eu tennyn. Gan wybod eu bod yn ymrwymedig, a gwybod eu bod eisiau i chi wneud rhywbeth drostyn nhw. Weithiau gwrando yw hynny ac mae yna adegau pan fydd pobl yn dweud "Gallwch chi wneud hyn yn well i ni".'
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n ffyddiog y bydd y cynlluniau yr ydych chi wedi'u hamlinellu i ni heddiw yn lleihau'r pwysau ar staff? Ni all neb ddisgwyl i chi roi gwarant na fydd pwysau ychwanegol, oherwydd y mae yna bob tro yn ystod y gaeaf, ond a ydych chi'n ffyddiog y bydd yn lleihau'r pwysau ar staff gan olygu bod ychydig yn llai o bwysau arnyn nhw y gaeaf hwn? Mae'n rhaid imi ddweud bod fy mewnflwch a fy mag post yn awgrymu bod rhywfaint o amheuaeth ar lawr gwlad am faint sydd wedi newid, felly efallai y gallwch chi achub ar y cyfle y prynhawn yma i roi rhagor o sicrwydd i'r staff.
Gan droi at brif gynnwys eich datganiad, rydych chi'n sôn am flaenoriaethau cyflenwi y gaeaf sy'n canolbwyntio ar reoli cleifion yn eu cymunedau a sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd o'r ysbyty pan fyddant yn barod. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o'r pryderon sydd wedi eu codi'n gyson gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol am y diffyg therapyddion galwedigaethol sydd ar gael i gymryd rhan yn y prosesau asesu pan fydd pobl yn barod i adael yr ysbyty ac i asesu eu cartrefi i wneud yn siŵr bod y cartrefi yn briodol i dderbyn y cleifion hynny sy'n dychwelyd adref. A fydd yr adnoddau cychwynnol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi heddiw yn helpu i gynyddu capasiti therapi galwedigaethol lle y mae ei angen i hwyluso pobl i fynd adref o'r ysbyty cyn gynted â phosibl?
Ar y cynlluniau cyflawni ar gyfer y gaeaf, felly—ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch iawn o wybod eu bod ar waith—rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad at roi adborth i'r darparwyr gofal, i'r byrddau iechyd lleol, i wella'r cynlluniau hynny. A allwch chi rannu gyda ni ychydig mwy o'r pryderon a oedd gennych am y cynlluniau hynny, neu a oedd gan eich swyddogion, a pha gamau yr ydych chi'n disgwyl bod byrddau iechyd lleol wedi eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y ffaith nad yw materion gweithredol manwl yn fater i chi, ond o gofio eich bod wedi dweud y bu angen rhoi adborth iddyn nhw, credaf y byddai'n ddefnyddiol i ni wybod beth oedd yr adborth hwnnw er mwyn bod â sicrwydd bod hwnnw wedi ei dderbyn yn llwyr.
Fel Andrew R.T. Davies, rwy'n croesawu'r pecyn gwerth £20 miliwn. A wnewch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, a yw hwn yn gyllid newydd ar gyfer y gyllideb iechyd, neu a yw hwn yn arian sydd wedi'i symud o flaenoriaeth arall i'r flaenoriaeth hon, ac, os felly, o ble y symudwyd y cyllid hwnnw? Rwy'n sylweddoli ac yn gwerthfawrogi pa mor dynn iawn yw'r gyllideb ac rwyf, fel yr wyf wedi dweud, yn croesawu'r adnodd ychwanegol hwnnw, ond mae'n bwysig inni ddeall lle y gallai pwysau eraill godi os yw'r cyllid hwnnw wedi'i symud.
Byddwn yn croesawu'n fawr iawn y cyfeiriadau at rywfaint o'r gwaith cadarnhaol gyda'r trydydd sector, a hoffwn ichi ddweud wrthym y prynhawn yma beth yr ydych chi'n bwriadu ei wneud i sicrhau, pan fo gwaith prosiect da yn digwydd mewn meysydd penodol gyda'r trydydd sector, ein bod yn dysgu o hynny a bod y defnydd da hwnnw o'r trydydd sector yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol. Wrth gwrs, bydd gwahanol ddarpariaethau trydydd sector mewn gwahanol rannau o Gymru ac efallai na fydd yn bosibl eu darparu ym mhobman, ond lle ceir arferion da, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno ei bod orau i hynny gael ei rannu a'i ddefnyddio.
Un o'r rhannau pwysig, wrth gwrs, yw bod eich datganiad yn tynnu sylw at y system gofal brys—gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau a'r ganolfan alwadau 111. Nawr, o ystyried yr adroddiad hynod feirniadol gan y swyddfa archwilio ar ofal y tu allan i oriau a gyhoeddwyd yr haf diwethaf a phryderon y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi eu codi heddiw eto am nifer y meddygon teulu sydd gennym ni, y bylchau, a gallu meddygon teulu i ymdopi, ac 84 y cant o'r meddygon teulu yn dweud eu bod yn pryderu y bydd eu llwyth gwaith yn cael effaith negyddol ar eu gallu i ddarparu gofal ar gyfer eu cleifion yn ystod y gaeaf hwn, a allwch chi ein sicrhau, ac a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd ar weithredu argymhellion yr adroddiad hwnnw er mwyn i ofal y tu allan i oriau fod wedi'i gryfhau y gaeaf hwn ac y bydd mor gadarn ag yr ydych chi'n ei nodi inni, yr ydych yn gobeithio y bydd?
Wrth gwrs, yn olaf, nid yw cynllunio ar gyfer y gaeaf yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod meddygon a nyrsys ar gael yn ein hysbytai yn unig. Mae gan ysbytai, yn enwedig, ystod eang o staff cymorth i wneud yn siŵr bod gan fferyllfeydd gyflenwadau ac offer, i wneud yn siŵr bod porthorion ar gael i helpu cleifion i symud o gwmpas ac ati ac ati. A allwch chi gadarnhau bod cadw'r gwasanaethau cymorth hyn yn weithredol hefyd yn rhan allweddol o'r cynlluniau ar gyfer y gwyliau, yn arbennig, yr ydych chi wedi disgwyl i'r byrddau iechyd lleol eu gwneud i baratoi ar gyfer tymor y Nadolig?