Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Ceisiais ymdrin â'r pwynt olaf yn y gyfres o gwestiynau yn y datganiad. Ceisiais gyfeirio at yr amrywiaeth o wyliau banc sy'n digwydd rhwng 21 Rhagfyr a 6 Ionawr. Gwyddom fod hynny yn rhannol am wyliau banc a hefyd am yr ymchwydd ychwanegol yr ydym yn tueddu i'w weld ar ôl y Nadolig ac ar ôl y flwyddyn newydd pan fydd pobl wedi gohirio mynd i ofyn am gymorth a chyngor, ac ar ôl pob un o'r cerrig milltir penodol hynny rydym yn gweld ymchwydd yn y galw ar yr holl system iechyd a gofal, nid dim ond ein sector ysbytai, ond mae meddygon teulu yn sicr yn gweld yr ymchwydd hwnnw yn y galw hefyd.
Ar eich—rwy'n ceisio mynd i'r afael â nifer ac ystod y cwestiynau a ofynnwyd gennych chi—credaf y bydd y cynlluniau yn helpu i wneud yn siŵr bod gennym ni'r gobaith gorau o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl drwy'r gaeaf, ac rwy'n cydnabod bod pwysau a straen ar y staff bob amser. Rydym ni'n sôn am adeg brysuraf y gwasanaeth, yn yr adrannau achosion brys, ond hyd yn oed yn fwy felly mewn gofal sylfaenol. Rhan brysuraf ein system mewn gwirionedd yw gofal sylfaenol. Ac ni allaf ddileu holl straen y gwaith. Ac mae a wnelo hyn ag onestrwydd pan fyddwch yn cyfarfod â staff—bod yn onest â nhw am yr hyn y gallwch chi ei wneud a deall y pwysau y maen nhw'n ymdopi ag ef a chydnabod bod y system mewn gwirionedd yn brysur drwy'r flwyddyn. Ond nid grŵp o wleidyddion sy'n eistedd i lawr gydag amrywiaeth o swyddogion mewn ystafell ac yn penderfynu creu cynlluniau nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar ymarfer yw'r hyn a ddylai roi rhywfaint o hyder i bobl. Mae'r cyngor a gawn, a'r cynlluniau yn cael eu llunio gan bobl sy'n arwain ac sy'n gweithio yn ein system. Er enghraifft, mae'r arweinydd clinigol sydd gennym ni ar gyfer gofal heb ei drefnu, mewn gwirionedd, yn feddyg ymgynghorol mewn adran achosion brys sy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru mewn adran brysur, ac mae hi wedi bod yn rhan o arwain gwelliant yn yr uned honno ac mae ganddi, a dweud y gwir, gefnogaeth ei chydweithwyr o amgylch y wlad mewn modd nad oes gan wleidydd neu swyddog sydd erioed wedi gwneud y swydd honno. Felly, mae yna hyder gwirioneddol ei bod yn bosibl cyflawni gwelliant yn ogystal â deall natur benodol rhai o'r gweithleoedd a'r galw mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Ar eich pwynt penodol am therapi galwedigaethol, mae her ynghylch y tymor byrrach ac efallai y bydd yr arian yn helpu â pheth o'r capasiti tymor byrrach hwnnw drwy'r gaeaf, ond wrth gwrs, mae yna her tymor hwy hefyd, a dyna lle y byddwn ni'n edrych ar ein lleoedd hyfforddi a'r niferoedd y buddsoddwn. Rydym ni wedi cael cynnydd sylweddol yn y lleoedd hyfforddi therapi galwedigaethol dros y pedair i bum mlynedd diwethaf. Mae'r un peth yn wir am rai o'r pwyntiau a wnaed gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol heddiw. Rydym ni mewn gwirionedd yn edrych eto ar sut yr ydym ni'n recriwtio ac i ble ac o ble yr ydym yn recriwtio meddygon teulu. Yn y ddwy flynedd diwethaf—fe wnaethom ni orlenwi ein nifer o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn y flwyddyn cyn y ddiwethaf; eleni, cawsom gyfradd lenwi o 98 y cant mewn hyfforddiant meddygon teulu a bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn edrych eto ar y ffordd yr ydym ni'n recriwtio, ond hefyd ar nifer y lleoedd hyfforddi eto eleni.
Ar eich pwynt ynglŷn â gwasanaeth y tu allan i oriau, mae'n rhywbeth yr wyf yn cydnabod fel her. Nid yw'r rhaglen 111 honno y soniais amdani ond yn ffordd wahanol o gyflawni rhan o wasanaeth y tu allan i oriau; mae hi mewn gwirionedd yn ail-lunio'r model o sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau y tu allan i oriau, ac amrywiaeth ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol—meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys a therapyddion yn arbennig—i wneud yn siŵr bod amrywiaeth o gyngor ar gael ac i wneud yn siŵr bod cydnerthedd ar draws y system gyfan.
Ynghylch eich pwynt am arian, yr £20 miliwn a gyhoeddais wythnosau yn ôl ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, gyda phartneriaid—mae hwnnw'n arian untro i wneud yn siŵr ein bod yn ymdopi â'r gaeaf eleni. Mae'r £10 miliwn y byddwch wedi ein clywed ni yn ei roi yn y system gofal cymdeithasol—mae hwnnw'n arian untro, ond, wrth gwrs, yn dilyn hwn bydd £13 miliwn o fuddsoddiad rheolaidd yn y system gwasanaethau cymdeithasol o'r gyllideb iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn olaf, eich pwynt ar y trydydd sector. Mae gennym ni bartneriaethau cenedlaethol mewn rhai ardaloedd. Yr enghreifftiau a roddais yw St John Cymru a'r Groes Goch, ond yn yr un modd, byddwch yn deall bod yna fwy o bartneriaid trydydd sector lleol sy'n darparu gwasanaethau, ac mae hynny yn sicr yn rhan o'r hyn a ddysgwyd ar gyfer y gaeaf hwn. Ac rwy'n disgwyl y byddwn yn dysgu unwaith eto ar ddiwedd y gaeaf hwn beth sydd wedi gweithio'n llwyddiannus a beth y gallem ni ei wneud hyd yn oed yn fwy llwyddiannus mewn rhannau eraill o'n system.