Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae proses benderfynu statudol yn mynd rhagddi ar hyn o bryd mewn perthynas â chynigion ffordd liniaru'r M4. Fel Ysgrifennydd cyllid, byddaf yn rhoi cyngor i fy nghyd-Aelodau ar oblygiadau cyllid y cynllun. Mae manylion yr holl arian cyfalaf a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys benthyca arian, fel y'u nodwyd yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20.