Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn atodol, ac mae'n fater y mae wedi mynd ar ei drywydd yn rheolaidd yn y Pwyllgor Cyllid ac yn y lle hwn. Rwy'n falch o gadarnhau i'r Cynulliad y prynhawn yma ein bod wedi cydweithredu’n dda gyda Gweinidogion y DU mewn perthynas â mater y bondiau. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn gosod Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Amrywio Pwerau Benthyca) yn Nhŷ'r Cyffredin. Disgwylir dadl ar hynny cyn bo hir, ac yn amodol ar gymeradwyaeth Tŷ'r Cyffredin, bydd yn dod i rym ar neu o gwmpas 1 Rhagfyr eleni. Fel y mae Mike Hedges yn ein hatgoffa'n rheolaidd, nid yw'r gallu i gyhoeddi bondiau yn cynyddu ein gallu i fenthyca; dim ond darparu ffordd newydd inni allu gwneud hynny a wna, pe bai Llywodraeth y DU yn cynyddu'r cyfraddau llog a godir drwy'r gronfa benthyciadau cenedlaethol.