Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Ond wrth gwrs, un o'r pethau allweddol er mwyn tyfu ein sylfaen drethu yw sicrhau, yn gyntaf, fod mwy o bobl yn cael gwaith, ac yn ail, eu bod yn gallu sicrhau gwell safon byw, gwell cyflog, fel y gallant roi'r arian hwnnw yn ôl i mewn i'r economi. Mae hynny, yn ei dro, yn cynhyrchu'r arian i ni ei wario ar iechyd, addysg a'r llu o ofynion eraill sydd gennym o ran gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly, mae'r sylfaen waith, mewn gwirionedd, yn ysgwyddo baich go drwm.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod arnom angen i'r sylfaen waith honno dyfu, a bod arnom angen iddynt allu ennill mwy o arian ac arian gwell, fy nghwestiwn i chi yw pa sicrwydd y gallwch ei roi na wnaiff y trethi a gynigir yn eich maniffesto arweinyddiaeth effeithio'n anghymesur ar fusnesau Cymru, a thrwy hynny, amharu ar dwf economaidd, oherwydd mae angen yr arian hwnnw ar y busnesau er mwyn cyflogi mwy o bobl ac ehangu eu busnesau.