Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Wel, rwy'n deall pwynt Angela Burns ynglŷn â'r angen i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru mewn gwaith ac yn ennill cyflogau da. Ond bydd yn deall hefyd mai'r cwestiwn a ofynnwyd gan Dawn Bowden oedd: beth os bydd llai o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn y dyfodol? Hyd yn oed os bydd yr holl bobl hynny'n gweithio ac yn ennill cyflogau da, os oes llai ohonynt, goblygiadau hynny yw y byddai'n arwain at lai o dderbyniadau treth yn y dyfodol. Mae economi gref yn bwysig iawn, ond mae nifer y bobl o oedran gweithio yn bwysig hefyd. Ar hynny y mae'r amcanestyniadau poblogaeth yn canolbwyntio.
Cytunaf â'r pwynt mwy cyffredinol a wnaed ganddi, wrth inni feddwl am ddefnyddio ein pwerau cyllidol ar gyfer y dyfodol, fod angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi ein heconomi ac yn dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo'r sylfaen drethu honno i dyfu.