Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhagolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru yn creu her wirioneddol i ni. Erbyn 2035, disgwylir y bydd cyfran yr oedolion sy'n byw â chyflwr cyfyngus gydol oes yn cynyddu 22 y cant, ac ar yr un pryd, bydd 48 o bobl dros 65 oed am bob 100 o bobl o oedran gweithio. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall Cymru fforddio gofalu am ei phoblogaeth sy'n heneiddio?