Cyllid i Atal Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:15, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig hynny. Gwn ei fod wedi dadlau'n rheolaidd ynglŷn â'r angen i fynd i'r afael â phroblemau sydd wedi effeithio ar ei etholaeth ef dros y blynyddoedd diwethaf. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo'n bendant: mewn perthynas â'r rhaglen £150 miliwn sydd gennym bellach yng Nghymru ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd—ac amddiffynfeydd rhag llifogydd ar yr arfordir yn arbennig—byddaf yn trafod gyda Ken Skates a Lesley Griffiths, sy'n rhannu cyfrifoldebau yn y maes hwn.