1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.
5. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddarparu cyllid i atal llifogydd wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20? OAQ52909
Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn. Mae'r gyllideb ddrafft yn darparu cyllid refeniw o £25 miliwn yn 2019-20, ynghyd â rhaglen gyfalaf gwerth £55 miliwn dros ddwy flynedd, i wella amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol. Bydd hyn yn cefnogi'r gwaith o reoli perygl llifogydd ledled Cymru, gan gynnwys y buddsoddiad a wnaethom, er enghraifft, yng Nghwmaman yn etholaeth yr Aelod.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae awdurdodau ledled Cymru, gan gynnwys fy un i yn Rhondda Cynon Taf, eisoes wedi gorfod ymestyn cyllidebau hyd yn oed ymhellach i ymdopi ag effeithiau storm Callum. Yn Rhondda Cynon Taf, gwariwyd £100,000 ar unwaith ar fynd i'r afael â'r llifogydd, ac mae £100,000 pellach wedi'i glustnodi o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwaith archwilio a chlirio. Gan ystyried effaith a chost digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol, sut yr aethoch i'r afael â'r heriau ariannol posibl hyn o fewn dyraniad y gyllideb i lywodraeth leol?
Wel, Lywydd, yn y flwyddyn gyfredol, rydym wedi sicrhau cynnydd o oddeutu 30 y cant, er o sylfaen isel, yn yr arian a ddarparwn i bob awdurdod lleol fel rhan o'u grant refeniw rheoli perygl llifogydd blynyddol, a bwriadaf gadw'r grant hwnnw ar ei lefel uwch eto y flwyddyn nesaf. Gwn y bydd Vikki Howells yn ymwybodol o'r ohebiaeth a gafwyd gan arweinydd ei chyngor ar ran awdurdodau lleol ledled Cymru gan nodi'r costau ychwanegol y bu'n rhaid iddynt eu hysgwyddo o ganlyniad i storm Callum. Fel rhan o fy uchelgais i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r trafferthion y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, rwyf wedi dweud yn glir wrth y Cynghorydd Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, y byddaf yn gwneud popeth a allaf i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r costau cyfalaf a refeniw ychwanegol a ddaeth yn sgil storm Callum. Rydym yn parhau i ohebu gydag awdurdodau lleol i fireinio'r ffigurau hynny ac rwy'n gobeithio gallu dweud rhywbeth cadarnhaol am hynny dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, un ardal sy'n agored iawn i lifogydd yw promenâd Hen Golwyn yn fy etholaeth i, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod yr amddiffynfeydd môr yno yn arbennig o agored i niwed. Cafwyd adroddiad, a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ôl yn 2010, a amcangyfrifai y byddai'r amddiffynfeydd yn methu bum mlynedd wedi ysgrifennu'r adroddiad hwnnw. Rydym bellach dair blynedd y tu hwnt i'r adeg y rhagwelwyd y byddent yn methu, ac rydym eisoes yn dechrau gweld problemau sylweddol, gyda'r ffordd honno'n gorfod cau bob tro y ceir tywydd stormus, ac yn wir, fe ddymchwelodd rhannau o arglawdd y rheilffordd yn y gorffennol o ganlyniad i erydu.
Fe fyddwch yn gwybod bod seilwaith trafnidiaeth hanfodol yn cael ei warchod gan yr amddiffynfeydd hynny: yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru yn benodol, ac yn wir, y brif garthffos ar gyfer bae Colwyn i gyd. A gaf fi ofyn ichi weithio gydag aelodau eraill y Cabinet i sicrhau bod amddiffynfeydd fel hyn yn cael eu blaenoriaethu er mwyn gwneud yn siŵr fod y darnau hanfodol o seilwaith trafnidiaeth, sy'n asgwrn cefn i economi gogledd Cymru, yn cael eu diogelu yn ôl yr angen, ac nad yw eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn colli golwg ar hyn?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig hynny. Gwn ei fod wedi dadlau'n rheolaidd ynglŷn â'r angen i fynd i'r afael â phroblemau sydd wedi effeithio ar ei etholaeth ef dros y blynyddoedd diwethaf. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo'n bendant: mewn perthynas â'r rhaglen £150 miliwn sydd gennym bellach yng Nghymru ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd—ac amddiffynfeydd rhag llifogydd ar yr arfordir yn arbennig—byddaf yn trafod gyda Ken Skates a Lesley Griffiths, sy'n rhannu cyfrifoldebau yn y maes hwn.