Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae manwerthwyr Cymru eisoes yn talu chwarter yr holl ardrethi busnes yng Nghymru ac mae'n dod yn gynyddol ddrud i weithredu o eiddo. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhagweld y gallai dros un rhan o bump o siopau gael eu colli dros y degawd nesaf. Yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddar, darparodd Canghellor y Trysorlys arian er mwyn torri ardrethi busnes i fanwerthwyr sydd â gwerth ardrethol o lai na £51,000, gan dynnu un rhan o dair oddi ar eu biliau am ddwy flynedd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflwyno mesur tebyg i gefnogi diwydiant manwerthu Cymru a gwrthdroi'r duedd o ran cau siopau'r stryd fawr ac ym mhob cwr o Gymru, os gwelwch yn dda?