1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ52899
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid yw lefel ardrethi annomestig yng Nghymru wedi codi mewn termau real dros y degawd diwethaf. Dros yr un cyfnod, mae rhyddhad ardrethi a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi mwy na dyblu.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae manwerthwyr Cymru eisoes yn talu chwarter yr holl ardrethi busnes yng Nghymru ac mae'n dod yn gynyddol ddrud i weithredu o eiddo. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhagweld y gallai dros un rhan o bump o siopau gael eu colli dros y degawd nesaf. Yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddar, darparodd Canghellor y Trysorlys arian er mwyn torri ardrethi busnes i fanwerthwyr sydd â gwerth ardrethol o lai na £51,000, gan dynnu un rhan o dair oddi ar eu biliau am ddwy flynedd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflwyno mesur tebyg i gefnogi diwydiant manwerthu Cymru a gwrthdroi'r duedd o ran cau siopau'r stryd fawr ac ym mhob cwr o Gymru, os gwelwch yn dda?
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, sy'n gwestiwn priodol iawn. Dywedais yn fy ateb i Nick Ramsay fy mod yn ystyried yn ofalus sut y gallwn ddefnyddio'r swm canlyniadol rydym wedi'i gael i gefnogi busnesau bach yng Nghymru, er ei bod yn ymddangos bod Mr Ramsay yn awgrymu y dylwn ei roi i lywodraeth leol.
Ond y £26 miliwn rydym wedi'i gael at y diben hwn—gadewch imi egluro ychydig o bwyntiau ar gyfer yr Aelod. Yn gyntaf oll, er bod y Canghellor wedi cyhoeddi mai cynllun dwy flynedd yw hwn, deallwn bellach mai dim ond cyllid canlyniadol un flwyddyn y mae wedi'i ddarparu ar ein cyfer yng Nghymru. Gwyddom ei fod yn £26 miliwn y flwyddyn nesaf. Nid oes gennym ffigur ar gyfer y flwyddyn wedyn.
Ac ymddengys nad yw'r cynllun a hysbysebwyd gan y Canghellor yn ei araith ar y gyllideb yn gynllun cenedlaethol o gwbl. Mae'n glir inni bellach ei fod yn dibynnu'n gyfan gwbl ar bwerau disgresiwn llywodraeth leol i weithredu ei gynllun. Felly, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yn Lloegr fydd penderfynu a ddylid defnyddio'r arian a gânt o'r cynllun at y diben hwn ai peidio.
Nid oes angen inni efelychu'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, gan fod gennym gynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yma yng Nghymru eisoes, yn wahanol i Loegr. Fe'i cyflwynasom y flwyddyn cyn y ddiwethaf mewn trafodaeth gydag arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, lle cytunasom ar baramedrau ar y cyd ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yng Nghymru. Rydym wedi ei barhau eleni. Gan ddefnyddio'r swm canlyniadol ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau ei fod yn fwy hael ar gyfer busnesau yng Nghymru na'r hyn y gallasom ei wneud hyd yn hyn. Byddwn yn llunio cynllun sy'n addas ar gyfer maint, dosbarthiad a gwerth y sylfaen ardrethi annomestig yng Nghymru, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr, er mwyn sicrhau bod yr arian yn mynd i'r mannau lle mae ei angen fwyaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, mewn llawer o'n cymunedau ynysig yn ein Cymoedd neu ein hardaloedd gwledig, mae'n bosibl na fydd y stryd fawr fel y'i gelwir yn cynnwys mwy nag un safle manwerthu. Mae'r un siop honno, mewn gwirionedd, yn achubiaeth i lawer o gymunedau, yn enwedig os yw trafnidiaeth gyhoeddus yn diflannu ar ôl 5 o'r gloch yr hwyr. A wnewch chi ystyried edrych ar y cyfleoedd y gallwch eu darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau o'r fath, a fyddai, heb y rhyddhad hwnnw, yn colli'r incwm sydd ganddynt o bosibl ac yn mynd i ddyled, ac yn y pen draw, yn cau o ganlyniad i hynny yn y bôn? Maent yn achubiaeth i'r cymunedau hynny. Os nad oes gwasanaeth bws, ni all pobl fynd i unman arall ac ni allant ateb yr anghenion hynny yno.
Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ac mae'n mynd at wraidd yr hyn sydd, yn fy marn i, yn un o wendidau ein cynllun presennol, gyda 75 y cant o fusnesau Cymru yn elwa o ryddhad ardrethi i fusnesau bach yma yng Nghymru, nad yw 50 y cant ohonynt yn talu unrhyw ardrethi busnesau bach o gwbl—maent yn ei gael pa un a yw'r swm hwnnw o arian yn angenrheidiol i'w busnes ai peidio. Nid oes unrhyw brawf gennym yn y system, nac mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yn wir, i weld a yw'r arian yn gwneud daioni gwirioneddol yn y busnes hwnnw ai peidio. Y pwynt y mae David Rees yn eu wneud yw a ddylem ystyried, o ran y ffordd rydym yn dosbarthu'r arian, pa un a ddylem roi rhagor o arian yn nwylo'r busnesau y mae'r rhyddhad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddynt o ran eu gallu i oroesi ai peidio.
Gwnaed gwaith yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban ar hyn. Credaf ei fod yn syniad sy'n gwneud synnwyr. Mae'n anodd ei wireddu oherwydd y cynllun rydym wedi'i etifeddu, ond mae'n gynllun sy'n cynnig cymorth anwahaniaethol i'r rhai sydd ei angen a'r rhai nad ydynt ei angen. Gallech ddweud nad yw'n gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus pan wyddom y gallai'r help y gallem ei gynnig drwy'r cynllun i rai rhannau o'r stryd fawr mewn rhai cymunedau, pe bai'n cael ei dargedu'n well tuag at y rhai sydd ei angen o ddifrif, yn mynd ymhellach i gynnal busnesau mewn rhai rhannau difreintiedig iawn o Gymru.