Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae awdurdodau ledled Cymru, gan gynnwys fy un i yn Rhondda Cynon Taf, eisoes wedi gorfod ymestyn cyllidebau hyd yn oed ymhellach i ymdopi ag effeithiau storm Callum. Yn Rhondda Cynon Taf, gwariwyd £100,000 ar unwaith ar fynd i'r afael â'r llifogydd, ac mae £100,000 pellach wedi'i glustnodi o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwaith archwilio a chlirio. Gan ystyried effaith a chost digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol, sut yr aethoch i'r afael â'r heriau ariannol posibl hyn o fewn dyraniad y gyllideb i lywodraeth leol?