8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Lles Anifeiliaid

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:56, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett, mae dadl UKIP heddiw'n ymwneud ag un peth: gwella bywydau anifeiliaid fferm o adeg eu magu hyd nes y cânt eu lladd. Mae UKIP wedi bod ar flaen y gad yn ymdrin â pholisi lles anifeiliaid. Fel plaid, rydym wedi hyrwyddo safonau uchel o ran lles anifeiliaid ar gyfer da byw ac anifeiliaid domestig. Yn wir, ymhell cyn y newidiadau i'r gyfraith yn Lloegr, roedd fy mhlaid yn galw am ddedfrydau llymach o garchar ar gyfer pobl sy'n euog o gam-drin anifeiliaid a gwaharddiad am oes ar unrhyw unigolyn y gwelir ei fod wedi cam-drin neu wedi esgeuluso anifail yn y fath fodd. Rydym yn cydnabod bod gan y DU rai o'r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid yn y byd. Fodd bynnag, fel yr awgryma ein cynnig heddiw, fe allwn wneud mwy. Mae fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett, eisoes wedi datgan fod lle pendant i wella'r dulliau o ladd anifeiliaid a'r modd y gall Llywodraeth Cymru hwyluso lefelau uwch o wyliadwriaeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag arferion gorau bob amser.

Mae pwynt 3 ein cynnig yn ymdrin â mater allforio anifeiliaid byw. I roi rhywfaint o gyd-destun i hyn, 1.3 y cant yn unig o gyfanswm gwerth allforion byw y DU sy'n anifeiliaid a fagwyd yng Nghymru. Felly, gallwn fod yn sicr na fyddai diwydiant amaethyddol Cymru yn cael ei niweidio i raddau mawr pe bai gwaharddiad ar allforion byw yn dod yn weithredol. Rydym yn falch o'r enw da rhyngwladol sydd i sector cig coch Cymru, ac rydym yn credu'n gryf fod anifeiliaid a fagwyd ac a laddwyd yn lleol o dan safonau lles anifeiliaid uchel yn arwain at y cynnyrch terfynol gorau, a hynny yn ei dro yn arwain at gynyddu hyder defnyddwyr.

Yn 2011, adolygodd y Comisiwn Ewropeaidd ei reoliadau ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo, ac mae'n rhaid dweud bod y rheoliadau hyn yn mynd gyn belled â phosibl i sicrhau safonau lles uchel drwy awdurdodi cludwyr, sefydlu gofynion sylfaenol ar gyfer cerbydau a chynwysyddion, cyfyngiadau ar hyd amser teithio a gofynion ar gyfer seibiant awdurdodedig. Fodd bynnag, cydnabu adolygiad y Comisiwn ei hun fod problemau difrifol yn dal i fodoli o ran lles anifeiliaid wrth eu cludo. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau yn y DU ac yn Ewrop lle methwyd bodloni safonau lles, gan arwain at anifeiliaid yn dioddef anafiadau, diffyg hylif a blinder, a hyd yn oed yn marw wrth gael eu cludo.

Y llynedd, gadawyd lori o Fwlgaria yn cario defaid am bedwar diwrnod heb fawr o ddŵr na bwyd, gan arwain at ddioddefaint a marwolaeth nifer o'r anifeiliaid. Ac yn 2012, pennwyd nad oedd cerbyd a gludai ddefaid drwy borthladd Ramsgate yn ffit i deithio. Canfuwyd bod yr anifeiliaid ynddi'n sâl ac yn gloff, gan arwain at orfod lladd 43 ohonynt. Yn yr achos llys a ddilynodd, dyfarnodd yr Uchel Lys na allai'r porthladd wahardd allforio anifeiliaid byw ar sail y rhyddid i symud o fewn Ewrop. Er bod yr achosion mwy difrifol hyn yn brin, maent yn dangos na all unrhyw faint o reoliadau ar gludiant gael gwared ar y risg i les anifeiliaid yn llwyr.

Risg bellach i dda byw sy'n cael eu hallforio o'r DU yw eu bod yn aml yn cael eu cludo ar longau fferi anaddas. Deillia hyn o'r ffaith bod cwmnïau fferi mawr wedi gwahardd da byw ar eu llongau. Mae llefarydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi cydnabod y broblem, wrth gyfaddef yn 2016, fod porthladd Ramsgate a'r fferïau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cael eu disgrifio—yn llednais, meddai—fel rhai 'nad ydynt yn ddelfrydol ar gyfer masnach o'r fath'.

Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae gennym gyfle i wella safonau deddfwriaeth lles anifeiliaid yng Nghymru a'r DU, yn enwedig lle mae'n ymwneud ag anifeiliaid wrth eu cludo. Byddai gwneud mwy i ddiogelu lles anifeiliaid yn llesol i dda byw, ond byddai hefyd yn llesol i ddiwydiant amaethyddol gwerthfawr Cymru. Bob blwyddyn, mae'r UE yn amcangyfrif bod tua 4 miliwn o wartheg, 28 miliwn o foch, 4 miliwn o ddefaid, 245 miliwn o ddofednod a 150,000 o geffylau yn cael eu cludo am fwy nag wyth awr o fewn yr UE. Mae'r niferoedd hyn yn dangos maint y broblem a'r lle i droseddau ddigwydd o ran safonau lles. Yn UKIP, rydym yn gwbl argyhoeddedig fod anifeiliaid sy'n gorfod teithio am gyfnodau hir o amser yn peryglu'r safonau lles hynny ni waeth pa ragofalon a roddir ar waith. Ar ôl gadael yr UE, bydd UKIP yn mynnu bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn deddfu ar gyfer gwaharddiad, ac rydym yn annog y Siambr hon a Llywodraeth Cymru i'n cefnogi yn y cynnig hwn.