Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:26, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, rwy'n croesawu'r camau rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb. Fodd bynnag, mae hon yn broblem gynyddol, yn enwedig ar-lein. Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu cawod gyson o gasineb, siarad casineb a bwlio ar-lein na ellir dianc rhagddo. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi amlinellu sut rydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y cyd â Llywodraeth y DU, yn gweithio gyda'r sector technoleg i atal lledaeniad siarad casineb ar-lein a seiberfwlio yng Nghymru?