Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Arweinydd y tŷ, mae achosion o wrth-Semitiaeth wedi bod ar gynnydd ledled y Deyrnas Unedig. Yn ystod chwe mis cyntaf eleni, cofnodwyd 727 o ddigwyddiadau gwrth-Semitaidd gan y Community Security Trust. Adroddodd The Jewish Chronicle fod un o'ch cyd-Aelodau Cymreig wedi cwestiynu pa mor 'real' yw troseddau casineb gwrth-Semitaidd, ac i ba raddau y mae'r bygythiad i gyd 'yn eu pennau hwy'.
Arweinydd y tŷ, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ddatgan yn glir fod gwrth-Semitiaeth yn drosedd casineb, ac a wnewch ymuno â mi i gondemnio'r sylwadau hyn, sy'n methu'n llwyr â chydnabod y bygythiad sy'n wynebu ein cymunedau, yn enwedig cymunedau Iddewig yng Nghymru?