Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch. Mae cydgysylltydd atal caethwasiaeth Llywodraeth Cymru wedi datgan bod codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn allweddol os ydym am fynd i'r afael â'r broblem. Beth y mae'r ffigurau diweddaraf ar nifer yr achosion a gofnodwyd yn ei ddweud wrthym am faint y broblem ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran adnabod caethwasiaeth a hefyd o ran sicrhau bod mwy o ddioddefwyr yn rhoi gwybod i'r heddlu? Fel y gwyddom, mae caethwasiaeth fodern yn digwydd fwyfwy yn ein cymdeithas, ynghudd ac yng ngolwg pawb, weithiau mewn sefydliadau chyffredin megis barrau ewinedd a mannau golchi ceir, ond yn yr un modd mewn amaeth, arlwyo, gwestai a'r proffesiynau gofalu, a phuteindra wrth gwrs.