Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 14 Tachwedd 2018.
A gaf fi gymeradwyo gwaith Ymddiriedolaeth St Giles, a roddodd gyflwyniad ddoe i'r grŵp hollbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal am y prosiect llinellau cyffuriau a weithredir mewn cydweithrediad â phrosiect yng Ngwent? Clywsom dystiolaeth wirioneddol frawychus ynglŷn â sut y mae'r cylchoedd cyffuriau hyn yn defnyddio plant sy'n derbyn gofal, unigolion sy'n gadael gofal, a llawer o bobl eraill sy'n agored i niwed wrth gwrs, ac mae'n bwysig iawn fod y rhai sydd wedi'u dal mewn gweithgareddau troseddol o'r fath yn sylweddoli y byddant yn cael eu cefnogi os ydynt yn rhoi gwybod eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern neu fasnachu mewn pobl, ac y bydd yr heddlu yn canolbwyntio ar, ac yn erlyn troseddau llawer mwy a gwaeth y gangiau hyn a'u caethiwodd mewn ffordd ofnadwy.