Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ac rydych wedi rhagdybio rhan o fy nhrydydd cwestiwn. Mae arolwg cenedlaethol diweddaraf Cymru wedi nodi, ar dudalen 7, nad yw 10 y cant o bobl ddi-waith yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd ac mae hyn yn cyfateb yn union i'r ffigur o 10 y cant a nodwyd y flwyddyn gynt. Nawr, er ei bod yn gadarnhaol i raddau nad yw'r ffigur hwnnw wedi codi o un flwyddyn i'r llall, mae'n ymddangos nad yw'r ymyriadau a amlinellwyd gennych yn gynharach yn cael llawer o effaith. Felly, arweinydd y tŷ, onid yw'n bryd ailedrych ar rai o'r strategaethau sydd ar waith?