Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Ydy, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, a dyna'n union pam rydym newydd edrych ar sut y gallwn newid y ffordd y gweithredwn y rhaglen Cymunedau Digidol Cymru. A phan ddaw'r rhaglen honno i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd yn cael ei chaffael eto fel rhaglen ddwbl ei maint i gynnwys pobl sy'n ddibynnol ar wasanaethau digidol, fel y mae'n dweud—pobl sy'n ymwneud â'r credyd cynhwysol, ond mewn gwirionedd, y rheini sy'n ymwneud yn llawer mwy penodol â'r system iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd fe wyddom fod y rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef y math hwnnw o allgáu digidol yn bobl dros 75 oed ac yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae pobl ag anableddau hefyd yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.