Gwella'r Seilwaith Digidol yn Sir Benfro

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:01, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, mae seilwaith ffisegol yn amlwg yn hanfodol i fusnesau bach mewn siroedd fel Sir Benfro, sydd, wrth gwrs, yn sir sy'n cynnwys llawer o drefi bach. Mae'r seilwaith ffisegol yn hollbwysig, ond rydym hefyd angen newid diwylliannol os ydym am gyflawni dadeni digidol gwirioneddol lawn. Gwyddom hefyd fod ein busnesau bach—ein busnesau manwerthu bach—o dan bwysau aruthrol gan gewri ar-lein mawr iawn fel Amazon. Yn eu hadroddiad diweddar, mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi awgrymu rhwydwaith o reolwyr canol tref digidol a allai weithio gyda busnesau manwerthu bach mewn tref benodol i ddatblygu rhyw fath o gynnig ar-lein ar gyfer y dref gyfan. Gallai hynny fod yn ffordd arloesol a diddorol iawn o alluogi rhai o'r busnesau bach nad oes ganddynt amser na sgiliau i ddatblygu presenoldeb ar-lein cryf iawn eu hunain. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i awgrym y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac a oes unrhyw ffordd y gallwch weithio i hyrwyddo'r syniad hwn, sy'n ymddangos yn awgrym cadarnhaol iawn i mi?