2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.
6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith digidol yn Sir Benfro? OAQ52893
Gwnaf, yn wir. Yn y broses barhaus o gyflwyno ffibr cyflym, rydym wedi nodi tua 8,554 o safleoedd ar draws y rhanbarth a allai gael eu cysylltu o dan y cynllun newydd o bosibl. Mae ein cynllun gweithredu ar ffonau symudol hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella cysylltedd symudol ledled Cymru, gan gynnwys Sir Benfro.
Arweinydd y tŷ, mae eich datganiad diweddar ar ddarpariaeth band eang wedi cadarnhau mai un o'ch blaenoriaethau yw datblygu atebion a modelau cymunedol ar gyfer mynd i'r afael â mannau gwan. Rydych wedi cyfeirio at gynlluniau yn Llanfihangel-y-Fedw rhwng Caerdydd a Chasnewydd, a Llanddewi Rhydderch yn Sir Fynwy. Er bod y gwaith hwn i'w groesawu, mae'n bwysig fod eich swyddogion yn edrych ar ffyrdd o weithio gyda'r cymunedau y tu allan i dde-ddwyrain Cymru hefyd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa waith penodol y mae eich swyddogion wedi'i wneud yn Sir Benfro i ddatblygu atebion cymunedol ar gyfer mynd i'r afael â mannau gwan y band eang ar draws fy etholaeth i, fel bod cymunedau fel Mynachlog-ddu, y gwn eich bod yn ymwybodol ohoni, yn gallu derbyn gwasanaethau band eang digonol?
Yn bendant. Mwynheais ymweld â'i etholaeth a chyfarfod â'r trigolion yno. Deallaf fod fy swyddogion mewn cysylltiad â nifer o'r preswylwyr a oedd yn bresennol. Cefais wahoddiad i gyfarfod yn Sir Benfro hefyd gan Joyce Watson ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad â thrigolion a ddaeth at ei gilydd yno i ffurfio grŵp cymunedol. Roedd yna gyfarfod gydag Elin Jones yng Ngheredigion, mewn gwirionedd, lle y digwyddodd rhywbeth tebyg.
Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud—ac mae hyn yn rhan fawr iawn o'r cyhoeddusrwydd ar gyfer hyn, Ddirprwy Lywydd—yw gofyn i bobl gamu ymlaen, ac os yw ACau'n gwybod am unrhyw gymunedau eraill a fydd yn barod i gamu ymlaen a gwneud hynny, rydym yn hapus iawn i hwyluso unrhyw strwythur y gellir ei gyflwyno. Mae cynlluniau cyfredol ym Mhenrhyn Llŷn, er enghraifft, ac ym mhob cwr o Gymru—ond dyna'r ddau sydd wedi cael y cyhoeddusrwydd mwyaf. Rydym yn edrych i weld pa gyhoeddusrwydd y gallwn ei roi i gynlluniau eraill ar draws Cymru fel y gall pobl weld bod nifer fawr o fodelau y gellir eu cyflwyno. Nid oes raid iddo fod yn fodel tebyg i un Llanfihangel-y-Fedw; er nad oes dim o'i le ar y model hwnnw, nid yw'n gweddu i bawb. Felly, mae yna nifer o opsiynau ar gael.
Pan fyddwn wedi rhoi trefn ar sefyllfa lot 2, byddaf yn gwybod yn union faint o arian sy'n weddill yn y gronfa o £80 miliwn y buom yn sôn amdani ers amser, er mwyn hwyluso'r ffordd i'r cynlluniau cymunedol hynny fynd ar raglen gyflymach. Rhan o fy rhwystredigaeth ynglŷn â pheidio â gwybod beth sy'n digwydd ar lot 2 yw'r ffaith nad wyf yn gallu dweud, i sicrwydd, faint o arian fydd hynny, ond gwyddom y bydd yn swm sylweddol o arian ac rydym yn hapus i hwyluso hynny ar gyfer unrhyw gymuned sydd ei eisiau.
Arweinydd y tŷ, mae seilwaith ffisegol yn amlwg yn hanfodol i fusnesau bach mewn siroedd fel Sir Benfro, sydd, wrth gwrs, yn sir sy'n cynnwys llawer o drefi bach. Mae'r seilwaith ffisegol yn hollbwysig, ond rydym hefyd angen newid diwylliannol os ydym am gyflawni dadeni digidol gwirioneddol lawn. Gwyddom hefyd fod ein busnesau bach—ein busnesau manwerthu bach—o dan bwysau aruthrol gan gewri ar-lein mawr iawn fel Amazon. Yn eu hadroddiad diweddar, mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi awgrymu rhwydwaith o reolwyr canol tref digidol a allai weithio gyda busnesau manwerthu bach mewn tref benodol i ddatblygu rhyw fath o gynnig ar-lein ar gyfer y dref gyfan. Gallai hynny fod yn ffordd arloesol a diddorol iawn o alluogi rhai o'r busnesau bach nad oes ganddynt amser na sgiliau i ddatblygu presenoldeb ar-lein cryf iawn eu hunain. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i awgrym y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac a oes unrhyw ffordd y gallwch weithio i hyrwyddo'r syniad hwn, sy'n ymddangos yn awgrym cadarnhaol iawn i mi?
Ie, yn wir. Rydym yn awyddus iawn i'w hyrwyddo. Yn wir, os ewch i Landrindod, fe welwch fod yr holl siopau yno wedi dod at ei gilydd. Gallwch fewngofnodi ar eu rhyngrwyd pan fyddwch yn cyrraedd y dref a bydd yn dweud wrthych am yr holl gynigion sydd ar gael a pha siopau sydd ar agor a phob math o bethau. Mae yna rwydwaith ardal WiFi fach gaeedig sy'n caniatáu i'r holl fusnesau ddod at ei gilydd. Ceir rhai eraill o gwmpas Cymru—cofiais am Landrindod gan fy mod wedi ymweld â'r lle yn ddiweddar. Rydym yn hapus i hwyluso'r math hwnnw o gydweithio er mwyn gwneud y gorau o bresenoldeb ar-lein. Hefyd, mae gennym dîm datblygu busnes sy'n dilyn y broses o gyflwyno Cyflymu Cymru. Mae mellten fawr yn ymddangos ar sgwâr eich pentref a gofynnir i bobl ac mae nifer fawr iawn wedi manteisio ar hynny ledled Cymru. Ei nod yw sicrhau bod pobl yn gwneud mwy na digideiddio eu system bapur yn unig, a'u bod yn deall manteision mynd ar-lein.
Ac os maddeuwch i mi am eiliad, Ddirprwy Lywydd, rwyf am adrodd stori am westy yng Nghymru a oedd yn hapus iawn eu bod yn gallu rhoi talebau—wyddoch chi, 'wowchers' a phethau o'r fath—ar-lein i gynyddu eu capasiti, ond mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r tîm datblygu busnes, daethant yn ymwybodol y gallent ddarparu pob math o brofiadau digidol eraill i'w gwesteion, gan ganiatáu iddynt ffrydio o GoPros, a chaniatáu iddynt uwchlwytho lluniau ac yn y blaen, a lawrlwytho Netflix, ac ati, o'u cysylltiad, ac maent yn hapus iawn oherwydd mae eu busnes wedi mynd o nerth i nerth. Ond nid yw'n rhywbeth y byddent wedi meddwl amdano oni bai bod y tîm datblygu busnes wedi ymweld â hwy a dangos iddynt beth y gallent ei wneud. Ac mae'n tanio dychymyg pobl wedyn wrth gwrs. Felly, mae gennym dîm arbennig ar gyfer gwneud hynny, ac os ydych eisiau fy rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r bobl y credwch y byddai ganddynt ddiddordeb, buaswn yn fwy na pharod i fynd ar drywydd hynny.
Diolch. Ac yn olaf, cwestiwn 7, Janet Finch-Saunders.