Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch i chi am hynny. Mae amrywiaeth o weithgarwch ar y gweill yn Islwyn a ledled bwrdeistref ehangach Caerffili mewn perthynas â'r ddarpariaeth ddigidol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru mewn ysgol uwchradd newydd, fodern yn Islwyn drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a chynyddu argaeledd band eang drwy raglen Cyflymu Cymru.