Lefelau Anghydraddoldeb yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:08, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a wnewch chi adrodd ar y camau a gymerwyd i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dilyn y Diwrnod Cyflog Cyfartal ddydd Sadwrn? Mae adroddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, sef 8.6 y cant. Mae'n dda gweld ei fod wedi gostwng, ond mae'n dal i ddangos bod gennym ffordd bell i fynd.