2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.
7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am lefelau anghydraddoldeb yng Nghymru? OAQ52919
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo'r nod o wneud Cymru yn genedl fwy cyfartal. Mae adroddiad newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n decach? (2018)' yn darparu tystiolaeth bwysig ac yn dangos bod llawer mwy i'w wneud. Byddwn yn talu sylw gofalus i'r adroddiad a'i argymhellion.
Diolch i chi, a diolch i chi am nodi adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n decach?', sy'n tynnu sylw at ystadegau sy'n peri pryder mawr ar lefelau cyfranogiad menywod yn y gymdeithas yng Nghymru. Nid yw menywod Cymru wedi'u cynrychioli'n ddigonol mewn swyddi cyhoeddus o hyd. Yn 2015-16, 14 y cant yn unig o brif weithredwyr llywodraeth leol yng Nghymru oedd yn fenywod, er bod 73 y cant o holl weithwyr awdurdodau lleol yn fenywod. Yn ein gwasanaethau brys, 33 y cant o'r prif swyddogion tân a'r dirprwyon oedd yn fenywod—mewn gweithlu lle mae 50 y cant yn fenywod—a 29 y cant yn unig o holl swyddogion yr heddlu sy'n fenywod. At hynny, mae'r adroddiad hefyd wedi amlygu bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cynyddu, gyda saith o bob 10 mam yng Nghymru yn adrodd eu bod wedi cael profiad negyddol, neu wedi profi gwahaniaethu posibl, wedi iddynt ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth. Gall profiadau negyddol o'r fath esbonio pam nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Ruth Coombs, pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, wedi dadlau ei bod yn bryd bellach i Lywodraeth Cymru roi camau gweithredu ar waith, a bod yn rhaid i chi gymryd yr awenau. Felly, a allech chi amlinellu yn union pa gamau rydych yn eu rhoi ar waith o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, a sut rydych yn dangos arweiniad cryf yn hynny o beth?
Gallaf. Rydym yn ymrwymedig iawn i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i sicrhau nad yw menywod yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle mewn perthynas â beichiogrwydd neu famolaeth. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ymrwymo i ymgyrch Gweithio Ymlaen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd nid yn unig o fudd i fenywod yn y gweithle ond sydd hefyd yn gwneud synnwyr busnes da ar gyfer cefnogi staff yn y gweithle. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod Chwarae Teg yn arwain ar gyflawni cam 2 yr adolygiad rhywedd ar hyn o bryd, gan adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd ganddynt yng ngham 1, ac erbyn haf y flwyddyn nesaf, bydd gennym fap clir ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Bydd y gwaith yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y prosiect er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth i gyflawni'r nod hwn. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar yr adolygiad yn gynharach yr wythnos hon.
Mae gennym nifer o gamau gweithredu eraill yr wyf wedi'u trafod gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn fy nghyfarfod rheolaidd â hwy, a chefais gyfarfod ychwanegol hefyd i drafod yr adroddiad 'A yw Cymru'n decach?' yn benodol. Rydym wedi bwydo hwnnw i mewn i'n hymgynghoriad newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: yr hawl i fyw'n annibynnol', a hoffwn annog pawb yn y Siambr i ymateb iddo. Rydym wedi ceisio barn pobl anabl ac wedi gweithio'n agos gyda sefydliadau rhanddeiliaid anabledd i gydgynhyrchu'r dull newydd hwnnw o weithredu. Ar hil, rydym yn darparu cyllid i Dîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru i gyflwyno rhaglen ymgysylltu Cymru gyfan ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig dros y tair blynedd nesaf, er mwyn deall y safbwyntiau a'r problemau sy'n wynebu'r cymunedau hynny yng Nghymru, oherwydd mae'n eithaf clir, ac mae'r Aelod wedi nodi rhai o'r ystadegau, po fwyaf o nodweddion gwarchodedig sydd gennych—neu elfennau croestoriadol, fel y byddai'r jargon yn ei ddweud—y mwyaf tebygol rydych chi o brofi'r mathau hynny o anghydraddoldebau. Felly, rydym hefyd yn rhoi grant cydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer sefydliadau sy'n cynrychioli cydraddoldeb o ran rhywedd, hil a materion LGBT, ac rydym yn ariannu tri phrosiect cynhwysiant: canolfan genedlaethol Cymru gyfan ar gyfer cymorth ac adrodd ar droseddau casineb, gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a'r gwasanaethau cymorth cenedlaethol ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr—i gyd gyda'r bwriad o sicrhau bod gan bobl yr agweddau cywir tuag at waith. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi bod yn gweithio'n galed iawn, fel rhan o'i gynllun gweithredu economaidd, i sicrhau bod y cwmnïau sy'n ymrwymo i'r cynllun yn gwneud y mathau hynny o gydraddoldebau yn ofynnol. Ac mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus, yn weithredol iawn yn y maes gydag awdurdodau lleol ac rydym wedi bod wrthi'n ystyried gyda'n gilydd beth y gallwn ei wneud i newid cyfansoddiad awdurdodau lleol, ar gyfer y cynghorwyr a'r cynrychiolwyr eu hunain, ac yn wir ar gyfer y gweithlu sy'n cynorthwyo'r cynrychiolwyr etholedig.
Arweinydd y tŷ, a wnewch chi adrodd ar y camau a gymerwyd i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dilyn y Diwrnod Cyflog Cyfartal ddydd Sadwrn? Mae adroddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, sef 8.6 y cant. Mae'n dda gweld ei fod wedi gostwng, ond mae'n dal i ddangos bod gennym ffordd bell i fynd.
Yn wir, ac unwaith eto, fel rhan o'r cynllun gweithredu economaidd yn y sector preifat, ac fel rhan o'r hyn a ofynnwn gan ein prif gwmnïau yng Nghymru, rydym yn gofyn i bobl ymrwymo i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwlch cyflog o'r fath, ac unwaith eto, gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, i gynnwys gwasanaethau cyhoeddus eraill yn hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau helaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd er mwyn cael gwared ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, oherwydd dylem fod yn gyflogwyr enghreifftiol yn y maes hwn; dylem allu arwain y ffordd. Ond wrth gwrs, rydym wedi'i gynnwys yn ein cynllun gweithredu economaidd i sicrhau bod gennym yr ethos cywir yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo, fel y dywedais mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, i raglen Gweithio Ymlaen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.