Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Hoffai llawer o bobl yn Islwyn fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth digidol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynlluniau i greu'r rhain. Mae gennym Gampws Gwyddor Data y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy'n falch o glywed y bydd Ken Skates yn ymweld â chanolfan ddata'r genhedlaeth nesaf—y fwyaf yn Ewrop—ddydd Llun. Ond i lawer o bobl, trafnidiaeth yw'r her fwyaf, ac oherwydd bod yr M4 wedi'i thagu gan draffig, yn hytrach na'i diben gwreiddiol o fod yn ffordd ddosbarthu ogleddol ar gyfer Casnewydd, mae manteisio ar y cyfleoedd hynny yn anos nag y dylai fod i lawer o bobl yn Islwyn. A fydd eich Llywodraeth yn darparu ffordd liniaru'r M4 fel rydych wedi addo ei wneud yn eich maniffesto?