Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn cynnig ystod eang o bolisïau gweithio hyblyg, ac mae hynny'n golygu bod ein staff, ar bob lefel, yn defnyddio trefniadau gweithio hyblyg ffurfiol ac anffurfiol. Ac mae'r polisïau hyn wedi cyfrannu at sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei gydnabod fel un o'r 30 cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio yn y DU.