Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:24, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf eto ar Gadeirydd y Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM6868 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid oes neb eisiau siarad. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.