Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser eto cael cyfrannu i'r ddadl yma fan hyn prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac i edrych ar ein hymchwiliad ni i'r paratoadau, wrth gwrs, ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Er nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, rydw i wedi edrych ar y dystiolaeth â chryn ddiddordeb ac mi hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yng nghwrs yr ymchwiliad. Mi hoffwn i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am ei ymateb ef i'n hadroddiad ni, yn enwedig y ffaith bod y Llywodraeth, wrth gwrs, yn derbyn pob un o'r argymhellion, sydd wastad yn help i gael canmoliaeth oddi wrth unrhyw bwyllgor yn y lle yma, rydw i'n siŵr.
Mi gawsom ni hefyd, wrth gwrs, ymateb ysgrifenedig i'n hadroddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Fodd bynnag, fe gafodd y pwyllgor ei siomi am nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ymrwymo'n llawn i waith y pwyllgor ar y mater pwysig hwn. Os yw Brexit am fod yn llwyddiant i Gymru, yna bydd yn rhaid wrth ymrwymiad ar lefel y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn cynnwys cael y cyfle, wrth gwrs, i allu gwneud gwaith craffu, rhywbeth na chawsom ni i'r graddau byddai aelodau'r pwyllgor wedi ei ddymuno yn yr achos yma.
Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae Cymru yn cael oddeutu £680 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd bob blwyddyn, ac o'i gymharu fesul pen mae hyn yn fwy o bell ffordd na'r hyn a roddir i'r gwledydd datganoledig eraill ac i ranbarthau Lloegr hefyd. Daw'r rhan fwyaf o'r arian hwn, wrth gwrs, drwy gronfeydd strwythurol a thrwy'r polisi amaethyddol cyffredin. Mae'r pwyllgor yn credu y bydd sicrhau cyllid ôl-Brexit yn hanfodol i Gymru a chafwyd bod cefnogaeth gref i safbwynt Llywodraeth Cymru na ddylai Cymru fod geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit.