Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu disodli gan gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig. Ac er bod ymgynghoriad i fod i ddechrau ar y gronfa cyn diwedd y flwyddyn, ychydig iawn o fanylion a gafwyd ynglŷn â sut y bydd hwnnw yn gweithio. Bu ffynhonnell y cyllid sy'n dod i Gymru yn newid yn sgil Brexit, ond, wrth gwrs, rŷm ni ddim wedi gweld fawr o newid yn y realiti sy'n eistedd tu ôl i'r asesiadau a seiliwyd ar anghenion i bennu'r arian hwnnw. Yn ôl ystod eang o dystiolaeth a setiau data economaidd, mae rhesymau clir dros barhau i fuddsoddi yng Nghymru, gan gynnwys GVA y pen yn y rhannau tlotaf o Gymru sy'n hanner cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Unedig. Bydd yr anghenion hynny, wrth gwrs, ddim wedi diflannu, pa bynnag ddull y bydd yr ariannu yn ei gymryd, felly, yn ein hadroddiad ni, rŷm ni'n tynnu sylw at sut y gellid rhannu'r gronfa rhwng y pedair gwlad, a chyflwynir dadl gref y dylai Cymru gael o leiaf yr un lefel o gyllid ar ôl Brexit. Ond yr un mor bwysig, wrth gwrs, yw i'r arian barhau i gael ei reoli a'i weinyddu yma yng Nghymru.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru—WEFO, wrth gwrs—wedi rheoli, gweinyddu a gwario cyllid o'r Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol. Wrth wneud hynny, maen nhw wedi meithrin arbenigedd helaeth ac wedi sefydlu partneriaethau, ac mae ganddyn nhw y strwythurau angenrheidiol i gyflwyno rhaglenni llwyddiannus. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud ymrwymiad y bydd pob penderfyniad a wneir yng Nghymru yn aros yng Nghymru, ac rŷm ni'n disgwyl, wrth gwrs, i'r ymrwymiad hwnnw gael ei anrhydeddu. Fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu uned ganolog a chanddi'r arbenigedd angenrheidiol i gyflwyno rhaglen ariannu gydlynol ar ôl Brexit, ac rwy'n falch o ddweud bod y Llywodraeth wedi cadarnhau'r bwriad i wneud hynny, yn ogystal â'i threfniadau i gydlynu'r gwaith hwn ar draws y Llywodraeth.
Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai cyfran Cymru o gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig ddarparu cyllid amlflwydd, sicrhau gweithio mewn partneriaeth, a hefyd, wrth gwrs, parhau i brif-ffrydio cydraddoldeb yng Nghymru, a dylai Llywodraeth Cymru barhau i ganolbwyntio ar hybu cydraddoldeb a mynd i'r afael â thlodi ac â hawliau dynol wrth weinyddu'r gronfa. Yn ogystal, mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r newid i'r gronfa newydd gael ei ddefnyddio fel cyfle i symleiddio'r trefniadau gweinyddol, a defnyddio'r dulliau fel y rhai a gynigir gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer sefydliadau partner dibynadwy.
Fe ddaw brif gyfran arall o gyllid yr Undeb Ewropeaidd drwy’r polisi amaethyddol cyffredin, wrth gwrs. Mae'r CAP yn hanfodol i ffermio yng Nghymru. Yn 2016-17, fe wnaeth dros hanner y ffermydd yng Nghrymu golled neu roedd angen cymhorthdal arnyn nhw i osgoi gwneud colled. Mae cyfleodd clir i wella ar y CAP lle mae Cymru yn y cwestiwn, a chyfleoedd i sicrhau bod yr hyn sy'n dod yn lle cyllid CAP yn alinio’n well ag anghenion penodol Cymru. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod y penderfyniadau cyllido hyn yn parchu'r setliad datganoli, a'u bod yn rhoi i Lywodraeth Cymru yr hyblygrwydd mwyaf posib i allu gwneud penderfyniadau sy'n cefnogi anghenion penodol y sector rheoli tir yma yng Nghymru drwy bolisïau a wnaed yng Nghymru. I'r perwyl hwn, mae'n bleser gen i nodi bod ymateb y Llywodraeth yn cadarnhau bod cytundebau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu, ac rwy'n dyfynnu, na
'fydd Cymru’n cael ei chyfyngu wrth lunio cynlluniau newydd a bydd yn gallu gweithredu yn ôl yr hyn sydd orau i Gymru.'
Ar hyn o bryd, mae'r arian sy'n dod i Gymru o dan y CAP ddwywaith gymaint â'r hyn y byddem yn ei gael ar sail poblogaeth y Deyrnas Unedig, ac mae hyn yn dangos, wrth gwrs, bwysigrwydd y sector amaethyddiaeth i ni yma yng Nghymru. Mae'n hanfodol, felly, fod y lefel hon o gyllid yn cael ei diogelu ar ôl Brexit a'i gwarantu am sawl blwyddyn i ddod.
Rŷm ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn lansio adolygiad annibynnol i lefelau cyllido ar ôl y CAP ledled y Deyrnas Unedig, ond rŷm ni'n parhau i wylio rhag y canlyniadau posib a ddaw yn sgil hynny, gan fod rhywun yn gofidio efallai bod yna dro yn mynd i fod yn y gynffon honno i Gymru. Ond, yn sicr, mi fyddwn yn parhau i gadw llygad barcud ar y broses honno. Rŷm ni'n annog Llywodraeth Cymru i fod yn llais cryf yn ystod y broses hon er mwyn sicrhau bod unrhyw drefniant y mae'r adolygiad yn ei argymell yn gyson ag argymhellion y pwyllgor yma a'i fod e, wrth, gwrs yn bodloni anghenion Cymru.
Mae Cymru hefyd, wrth gwrs, wedi elwa yn fawr ar raglenni eraill yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd, megis Horizon 2020, yn enwedig yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal â Banc Buddsoddi Ewrop hefyd. Fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop er mwyn sicrhau y gall Cymru elwa ar fuddsoddiad parhaus mewn projectau seilwaith, ac mae'n galonogol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn o beth, ond mae'r diffyg cynnydd ac eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn peri pryder o hyd.
Rŷm ni hefyd yn cefnogi'r penderfyniad i geisio mynediad parhaus at Horizon Europe, ond rŷm ni o'r farn os na ellir sicrhau mynediad o'r fath, yna dylid darparu'r cyllid cyfatebol i gyllideb gwyddoniaeth ac ymchwil y Deyrnas Unedig.
Yn ychwanegol at y lefel cyllidol cychwynnol ar ôl Brexit, wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig trafod sut y bydd cyllid o'r fath yn datblygu dros amser. Yn hyn o beth, rŷm ni yn rhannu pryderon y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y gallai un addasiad i'r grant bloc, er ei fod yn dderbyniol yn y byr dymor, beri risgiau yn y tymor hirach. Rŷm ni hefyd yn cytuno â'i argymhelliad bod, ac rydw i'n dyfynnu,
'Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian wedi’i brofi ar gyfer y dyfodol'
—yn futureproofed—
'ac yn edrych ar rinweddau fformiwla gwrthrychol sy’n seiliedig ar anghenion', a bod hynny wedi'i gytuno gan bob gwlad yn y Deyrnas Unedig.
Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth y byddai codi baseline y grant bloc gan ddim mwy na symiau cyfatebol i gyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith lem ar Gymru dros amser. Dylai fod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ateb hirdymor cynaliadwy a fyddai'n dyrannu cyllid ar draws y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar anghenion, yn lle, wrth gwrs, fformiwla Barnett a'r wasgfa sy'n rhan annatod ohoni. Rwy'n falch o nodi bod y Llywodraeth yn cytuno â hynny.
Mae'n amlwg, felly, fod llawer iawn o'r penderfyniadau pwysig sy'n ymwneud â chyllid i Gymru ar ôl Brexit yn benderfyniadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond fel y dywedais ar y cychwyn, mae'r pwyllgor wedi cael ei siomi gan y diffyg ymgysylltu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn hyn, ac rŷm ni yn cydnabod, wrth gwrs, y rôl y bydd gan Lywodraeth Cymru i'w chwarae yn y trafodaethau rhwng y Llywodraethau.
Rwy'n gobeithio bod y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cyllid a'r adroddiad yr ŷm ni wedi'i gynhyrchu fan hyn, wrth gwrs, yn ddadl drawsbleidiol a Chymreig dros gyllid teg yn dilyn Brexit, a'u bod hefyd yn atgyfnerthu safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n dda gen i fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yn llawn yr argymhellion y mae'r pwyllgor yn eu gwneud yn yr adroddiad. Er hynny, mae sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet fan hyn yn y Siambr, sef nad yw e'n credu am eiliad y cafwyd sicrwydd digonol y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parchu'r setliad datganoli, yn destun pryder mawr, sy'n tynnu sylw, wrth gwrs, at yr angen i'r Llywodraethau weithio'n galed er mwyn sicrhau cytundeb teg, cytundeb rhesymol a chytundeb parhaol i Gymru a'i phobl. Diolch.