7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei Ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:58, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl amserol hon, wrth inni symud i adeg fwy ansicr byth hyd yn oed o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond rhoddais dystiolaeth iddo fel cadeirydd pwyllgor monitro rhaglen Cymru, gyda Sioned Evans, prif weithredwr WEFO, a Grahame Guilford, llysgennad cyllido'r UE. Mae'r adroddiad yn sicr yn gwneud achos cryf dros barhau cyllid, ar lefel bresennol y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd fan lleiaf. Ac yn wir, fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes yn ei gyflwyniad, mae Cymru'n cael swm cryn dipyn yn uwch o gronfeydd strwythurol y pen nag unrhyw ran arall o'r DU, felly gallai Brexit daro Cymru'n arbennig o galed.

Rhoddodd nifer o sefydliadau a nodwyd yn yr adroddiad dystiolaeth ar werth y ffrydiau cyllido, a thynnodd llawer ohonynt sylw at y themâu trawsbynciol sy'n rhaid cydymffurfio â hwy pan gytunir ar gyllid Ewropeaidd—themâu trawsbynciol cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd, datblygu cynaliadwy a threchu tlodi ac allgáu cymdeithasol. Dyna un o'r pethau gwych, rwy'n meddwl, am y cyllid Ewropeaidd a gawsom—fod y themâu hyn wedi'u hymgorffori'n rhan o'r holl brosiectau. Amlygodd Chwarae Teg yn arbennig y prosiectau a sefydlwyd i edrych ar fenywod yn y gweithlu ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod adran gyfan o staff yn WEFO wedi'i neilltuo ar gyfer hyrwyddo themâu trawsbynciol a sicrhau eu bod wedi'u sefydlu ar y dechrau ym mhob un o'r prosiectau y cytunwyd i roi cyllid yr UE ar eu cyfer. Rwy'n meddwl ei bod hi'n gwbl allweddol fod y themâu hyn yn cael eu hymgorffori mewn unrhyw gyllid a ddaw drwy'r gronfa ffyniant gyffredin hefyd. Rhaid inni wneud yn siŵr fod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn un o'r prif faterion yn y themâu hyn. Hefyd mae'n bwysig cofio, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, am yr arbenigedd enfawr a ddatblygwyd yng Nghymru dros bron i 20 mlynedd o gyllid yr UE—a chydnabyddir hynny yn yr adroddiad—oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am reoli cronfeydd strwythurol yr UE ers mis Ebrill 2000 ac wrth gwrs, mae ganddi wybodaeth fanwl am safbwyntiau lleol, sefyllfaoedd lleol, partneriaethau lleol. Mae'n hanfodol bwysig nad yw hyn yn cael ei golli, ac nid oes modd i ddull sy'n deillio o Whitehall ei efelychu.

Un o'r pethau mwyaf trawiadol yn yr adroddiad a'm trawodd wrth i mi ei ddarllen oedd y modd yr amlygai pa mor anghyfartal yw'r DU fel gwlad. Yn fwyaf arbennig, fe'm trawyd gan y rhan yn yr adroddiad a oedd yn dweud:

'Ar hyn o bryd, yn y Deyrnas Unedig y mae’r gwahaniaeth economaidd

rhanbarthol mwyaf mewn Cynnyrch Domestig Gros y pen o unrhyw un o’r 28 o

Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd', gyda Gorllewin Llundain Fewnol â chynnyrch domestig gros y pen o 611 y cant o gyfartaledd yr UE, tra bo cynnyrch domestig gros Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 68 y cant. Mae'n destun pryder mawr yn fy marn i fod y fath eithafion o gyfoeth yn y DU a bod gennym gymdeithas mor anghyfartal ar draws y DU, oherwydd ni fydd cymdeithas anghyfartal byth yn gymdeithas gydlynol, ac yn amlwg, mae'r chwalfa ariannol a'r cyni a'i dilynodd wedi gwneud y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd hyd yn oed yn fwy.

Ond roedd hi'n braf iawn clywed yn adroddiad y pwyllgor am y gefnogaeth gref i'r farn na ddylai Cymru fod geiniog ar ei cholled nag y byddai wedi bod o fewn yr UE, oherwydd wedi'r cyfan, dyna oedd un o addewidion yr ymgyrch dros adael i bleidleiswyr cyn y refferendwm.

Nawr, rwy'n gwybod bod cyfarfodydd cyn-ymgynghorol wedi bod rhwng gwahanol sefydliadau yng Nghymru yn Swyddfa Cymru cyn yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gronfa ffyniant gyffredin y deallaf fod bwriad iddo ddechrau cyn y Nadolig. Roedd yn ddiddorol clywed yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan ofynnais iddo ynglŷn â chyfarfod a oedd i fod i ddigwydd, ac a wnaeth ddigwydd ddydd Gwener diwethaf—cyfarfod oedd hwn â sefydliadau trydydd sector a gwn fod peth pryder yn y trydydd sector ynglŷn â phwy oedd yn rhan a phwy nad oedd yn rhan o'r broses o drafod y gronfa ffyniant gyffredin, ond dywedodd y Prif Weinidog fod ei swyddogion yma wedi cael gwybod, ond nid tan y diwrnod cynt. Felly, mewn ymateb i sylwadau Nick Ramsay, credaf mai ychydig yn unig a wyddom, a hynny'n eithaf hwyr yn y dydd. Felly, mae'n fater o bryder mawr yn fy marn i. Mae pryder ymysg sefydliadau, ac mae sefydliadau sy'n gweithio ar hybu cydraddoldeb a helpu menywod i gyflawni a ffynnu, yn enwedig, yn bryderus iawn y bydd newid pwyslais os yw Llywodraeth y DU yn rheoli liferi'r gronfa ffyniant gyffredin. Felly, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwbl glir fod yn rhaid i unrhyw beth a ddaw o'r gronfa ffyniant gyffredin i Gymru gael ei reoli a'i wneud yng Nghymru.