Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i siarad, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad i roi fy nghefnogaeth lawn i adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid; cymerais ran ynddo fel aelod. Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar fy nghefnogaeth i argymhellion 2 i 7: pwysigrwydd y gronfa ffyniant gyffredin; yr effaith ar gydraddoldeb o golli cyllid Ewropeaidd; a'r fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru yn y dyfodol mewn perthynas â Brexit.
Yn nadl Brexit a chydraddoldebau y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr wythnos diwethaf, siaradais am bwysigrwydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Er nad yw'n ymddangos yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd hollbwysig i Lywodraeth Cymru ei gweithredu. Bydd yn chwarae ei rhan yn rhoi pwerau inni wrthsefyll effeithiau andwyol Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hefyd yn bwysig yn y cyd-destun cyllido o ran y pwerau a'r blaenoriaethau sydd eu hangen ar y Llywodraeth hon yng Nghymru. Fe wnaethom dynnu sylw at y bygythiadau i ffrydiau cyllido'r UE yn y dadleuon yr wythnos diwethaf, y rhagolygon ansicr ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin y DU. Fe'i gwnaethom yn glir y dylai Llywodraeth Cymru weinyddu cronfa ffyniant gyffredin y DU a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau ei bod yn sensitif i anghenion lleol ac anghydraddoldebau yng Nghymru. Fe'i gwnaethom yn glir, fel pob siaradwr heddiw yn wir, y dylid targedu'r gronfa ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol.
Mae ein pwyllgorau wedi nodi cronfeydd yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol, gyda thua 60 y cant o brosiectau a ariennir o gronfa gymdeithasol Ewrop yn targedu pobl ag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig. Rwy'n croesawu'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddylanwadu ar yr agenda hon. Nid yw'n glir sut y mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r papurau polisi cadarnhaol a ddaeth gan Lywodraeth Cymru, gan ddechrau gyda'r papur 'Buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf. Sut y mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i ymrwymiad yn y papur hwnnw i ddefnyddio cyllid a dderbyniwyd gan Ewrop i gefnogi datblygu rhanbarthol a lleihau anghydraddoldeb, ac ymrwymiad i ddull amlflwydd o fuddsoddi cyllid yn lle arian Ewropeaidd i gynnal ffocws hirdymor ar yr heriau strwythurol yn ein heconomi a'r farchnad lafur?
Efallai y carai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ei ddatganiad llafar diwethaf ar y grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol a sefydlwyd gyda busnesau, llywodraeth leol, prifysgolion a'r trydydd sector, a £350,000 o'r gronfa bontio Ewropeaidd i sefydlu partneriaeth gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i helpu i lywio ein dull o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi'n rhagweithiol yn paratoi ar gyfer trefniadau ariannu yn y dyfodol ar ôl Brexit, ac rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU droeon fod yn rhaid i'w hymgynghoriad arfaethedig ar y gronfa ffyniant gyffredin ddigwydd yn awr, gan ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda'n pwyllgorau'n gofyn amdano, a diddordeb ar draws y Siambr, yn ogystal â'r Pwyllgor Cyllid.
Lywydd, yn y cyfarfod a gadeiriais yr wythnos diwethaf o Menywod yng Nghymru dros Ewrop, tynnodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ein sylw at yr adroddiad sydd ganddynt yn yr arfaeth. Ei enw fydd 'Os nad yr UE, pwy? Effaith bosibl colli cyllid yr UE ar gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain'. Mae'r adroddiad hwnnw ar fin cael ei gyhoeddi. Bydd yn darparu sylfaen dystiolaeth i'r comisiwn, Llywodraeth Cymru a ninnau yn y Cynulliad hwn allu ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin, ac rwy'n deall bod y gwaith ymchwil hwnnw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn archwilio'r modd y gall cronfa ffyniant gyffredin newydd y DU fod yn gyfle i gadw cydraddoldeb a hawliau dynol yn thema drawsbynciol yn y ffordd y mae Julie Morgan wedi'i disgrifio fel rhywbeth sydd mor ddylanwadol yn y defnydd o'n cronfeydd strwythurol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd adroddiad y comisiwn yn dylanwadu ar Lywodraeth y DU yn ogystal.
A gaf fi orffen drwy groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i argymhelliad 2, sy'n cydnabod papur Llywodraeth Cymru, 'Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit', gan gefnogi'n llawn yr alwad am system newydd yn seiliedig ar reolau yn lle fformiwla Barnett er mwyn sicrhau y dyrennir adnoddau o fewn y DU yn seiliedig ar angen cymharol. Ochr yn ochr â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, mae'n hanfodol ein bod yn atgyfnerthu ein pwerau a'n sylfaen adnoddau ar gyfer cyllid cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r fframwaith cyllidol a diwygio'r prosesau rhynglywodraethol yn allweddol i hynny os yw Cymru'n mynd i gael llais cryf, nid yn unig yn Brexit, ond yn y trafodaethau ar reoli ein cyllid cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ddefnyddiol i Ysgrifennydd y Cabinet yn ei negodiadau parhaus ar ran Cymru.