Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Tybed a allai gynnig ei farn a'i ddadansoddiad ynghylch ôl-stop Gogledd Iwerddon yn arbennig a'i oblygiadau i Gymru. Fel sy'n wir erioed gyda Llywodraeth y DU, nid yw'n ymddangos bod y rhethreg a'r realiti yn cyfateb hyd yn oed pan fo gennym ni fanylion cytundeb ymadael 600 tudalen. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y bydd ôl-stop Gogledd Iwerddon yn rhoi dwy ffin agored i Ogledd Iwerddon: un gyda'r Weriniaeth ac un gyda Phrydain. Ond os oes gwahaniaeth rheoleiddiol neu nad yw'n rheoleiddiol rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain, does bosib nad yw hynny'n golygu y bydd ffin galed ym Môr Iwerddon. Ai dyna ddealltwriaeth y Prif Weinidog o'r cytundeb ymadael a'r ôl-stop yn arbennig? A yw'n cytuno, felly, y byddai hynny'n newyddion drwg i borthladdoedd Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol? Neu a yw'n ymwybodol o unrhyw gynnig arall y gallai fod gan Lywodraeth y DU, fel penderfynu'n unochrog i beidio ag archwilio unrhyw nwyddau sy'n dod o Ogledd Iwerddon, pa un a oes ôl-stop ai peidio?