Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Wel, dyna wraidd y mater. Wrth gwrs, ceir rhai archwiliadau nawr, yn enwedig o ran anifeiliaid ac archwiliadau bwyd, ond maen nhw wedi bod yno oherwydd bod ynys Iwerddon yn un ardal cyn belled ag y mae bioddiogelwch yn y cwestiwn. Y pryder fu gen i erioed, ac ni roddir sylw iddo yn y cytundeb ymadael, yw y byddai rhwystrau yn cael eu codi, byddai, trwy ganol môr Iwerddon, ond mae hynny'n effeithio ar Gymru hefyd, oherwydd, yn amlwg, yr hyn nad wyf i eisiau ei weld, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon yn y Siambr hon, yw unrhyw rwystrau newydd yn cael eu codi rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, yn enwedig rhwystrau a fyddai'n arwain at fasnach yn symud yn rhwyddach trwy borthladdoedd yr Alban i Ogledd Iwerddon. Nid yw'r cytundeb ymadael yn eglur ynghylch sut y byddai hynny'n gweithio. Mae'r pwyslais wedi bod ar y ffin ar y tir rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond nid oes unrhyw bwyslais ar y ffin forol rhwng Cymru—a Lloegr o ran hynny—a Gweriniaeth Iwerddon, sy'n absennol o'r cytundeb.