Prosiectau Ynni Cymunedol Hydro

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:57, 20 Tachwedd 2018

Ac roedd Plaid Cymru'n falch iawn o sicrhau'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes yna ar gyfer prosiectau ynni cymunedol fel rhan o'r cytundeb ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol yma efo'r Llywodraeth. Ond nid oes yna ddim sicrwydd hyd yma y bydd y cynllun rhyddhad ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, na chwaith ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'r prosiectau yma yn amlwg angen sicrwydd hirdymor er mwyn iddyn nhw fedru cynllunio ar gyfer y dyfodol. Heb y sicrwydd yna, mae'n anodd iddyn nhw gynllunio a chydweithio efo grwpiau cymunedol ac elusennau lleol, ac, yn wir, mae'n anodd i fentrau newydd roi cychwyn arni. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud y cynlluniau rhyddhad busnes yma ar gyfer prosiectau ynni cymunedol yn rhai parhaol?