Prosiectau Ynni Cymunedol Hydro

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 20 Tachwedd 2018

Wel, mae'n anodd gwneud hynny, wrth gwrs. Mae hynny'n rhywbeth i'r Llywodraeth nesaf ei ystyried, ac mae'n dibynnu ar yr arian sy'n dod o San Steffan. Ond, rydym ni'n deall, wrth gwrs, faint o gymorth mae hwn wedi bod i ynni hydro, a byddwn ni'n ystyried y sefyllfa pan ydym yn gwybod mwy am y sefyllfa ariannol yn y flwyddyn ariannol nesaf ymlaen.