Cefnogi'r Sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r buddsoddiad yn Tata yn mynd yn dda. Mae Tata eu hunain wedi buddsoddi yn ffwrnais chwyth rhif 5, wrth gwrs. Rydym ni'n parhau i siarad â nhw am y math o becyn a fyddai'n helpu a'r hyn fyddai'n gyfreithlon, wrth gwrs, o dan reolau cymorth gwladwriaethol. A dweud y gwir, cefais gyfarfod tua 10 diwrnod yn ôl gyda chynrychiolydd o Tata wrth i ni geisio bwrw ymlaen â phethau. Mae Tata yn sicr yn awyddus i aros yng Nghymru, wrth gwrs, ac ym Mhort Talbot a'r gweithfeydd eraill ledled Cymru yn arbennig, a byddwn yn parhau i weithio gyda Tata, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, i ddiogelu swyddi Cymru.