1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ52975
Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 16,200 o swyddi gweithgynhyrchu. Drwy'r cynllun gweithredu economaidd, byddwn yn cefnogi diogelu buddsoddiad busnes yn y dyfodol er mwyn helpu cwmnïau i gynnal, cystadlu a thyfu.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae'r sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch a drafodir yn y cynllun gweithredu economaidd yn un o'r meysydd yr ydym ni'n mynd iddyn nhw yn y dyfodol—technolegau modern iawn. Ond, mae gennym ni lawer o sectorau gweithgynhyrchu sy'n dal i ddibynnu ar dechnolegau hŷn y mae angen eu diweddaru—mae Tata yn enghraifft o un o'r gweithfeydd hynny. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn yr orsaf bŵer. A allwch chi roi diweddariad i ni ynghylch ble mae'r arian hwnnw? A allwch chi hefyd ystyried pa gamau eraill y gallech chi eu cymryd i helpu cwmnïau fel Tata, sydd eisiau gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ond sy'n cael anawsterau, efallai, o ran cael y cymorth ychwanegol hwnnw weithiau?
Wel, mae'r buddsoddiad yn Tata yn mynd yn dda. Mae Tata eu hunain wedi buddsoddi yn ffwrnais chwyth rhif 5, wrth gwrs. Rydym ni'n parhau i siarad â nhw am y math o becyn a fyddai'n helpu a'r hyn fyddai'n gyfreithlon, wrth gwrs, o dan reolau cymorth gwladwriaethol. A dweud y gwir, cefais gyfarfod tua 10 diwrnod yn ôl gyda chynrychiolydd o Tata wrth i ni geisio bwrw ymlaen â phethau. Mae Tata yn sicr yn awyddus i aros yng Nghymru, wrth gwrs, ac ym Mhort Talbot a'r gweithfeydd eraill ledled Cymru yn arbennig, a byddwn yn parhau i weithio gyda Tata, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, i ddiogelu swyddi Cymru.
Ym mis Mehefin, cynhaliwyd digwyddiad Llais Gweithgynhyrchu Cymru blynyddol Barclays ac SPTS Technologies yng Nghasnewydd. Un o'r pynciau trafod oedd prinder sgiliau a'r newid o gymwysterau galwedigaethol i raddau prifysgol. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r camargraff sy'n bodoli ynghylch y swyddi â chyflogau da sy'n llawn boddhad y mae gyrfaoedd ym meysydd peirianneg a gweithgynhyrchu yn eu cynnig yng Nghymru?
Rydym ni'n gweld twf cynlluniau prentisiaeth. Rwy'n credu bod y DU wedi colli diddordeb mewn prentisiaethau yn y 1990au, ac wedi canolbwyntio gormod ar gyrsiau academaidd. Rydym ni'n gweld nawr, wrth gwrs, nid yn unig cwmnïau mwy ond cwmnïau llai yn cynnig prentisiaethau. Roedd Twf Swyddi Cymru yn enghraifft o hynny i roi'r hyfforddiant i bobl yr oeddent ei angen i gael swydd ac, wrth gwrs, mae gennym ni ymrwymiad i greu 100,000 o brentisiaethau i bob oedran ledled Cymru. Trwy greu'r prentisiaethau yr ydym ni'n creu'r cyfleoedd i bobl, ac yn dangos iddyn nhw bod dewis arall gwerth chweil yn hytrach na'r llwybr academaidd ac, wrth gwrs, wrth sicrhau hynny, gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy yn y dyfodol.
Prif Weinidog, mae fy rhanbarth i wedi colli llawer gormod o swyddi gweithgynhyrchu yn ystod y degawdau diwethaf, ac er fy mod i'n croesawu camau eich Llywodraeth i sicrhau buddsoddiad gweithgynhyrchu newydd, fel cytundeb Aston Martin, nid yw hyn yn disodli'r golled o allbwn gweithgynhyrchu yng Ngorllewin De Cymru. Prif Weinidog, sut gwnaiff eich Llywodraeth sicrhau bod fy rhanbarth i yn elwa ar fuddsoddiad o'r fath, yn enwedig gan fod y rhanbarth wedi rhagori yn y gadwyn gyflenwi fodurol yn y gorffennol?
Mae Tata yn un enghraifft, wrth gwrs, ac mae Ford yn un arall. Rydym ni wedi gweithio'n agos dros ben gyda'r cwmnïau trwy gyfnod anodd iawn, ar adegau, i wneud yn siŵr bod Ford â'i 1,700 o swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dal yno ac yn edrych i'r dyfodol. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud, rwy'n credu, yw disodli llawer o swyddi â chyflogau isel a sgiliau isel, gyda swyddi sy'n talu mwy ac yn gofyn am fwy o sgiliau. Dyna lle mae angen i ni fod. Nid cystadlu gyda'r rhai sydd â chostau llafur isel yw dyfodol Cymru. Rhoddwyd cynnig ar hynny yn y 1980au a'r 1990au, ac oni bai eich bod chi'n barod i fynd ar drywydd cyflogau fwyfwy isel, yna nid yw hynny'n rhywbeth sy'n ddewis i chi. Mae hynny wedi golygu pwyslais ar sgiliau. Mae wedi golygu pwyslais ar ddenu buddsoddiad o ansawdd uchel a swyddi o ansawdd uchel, a dyna fydd nod y Llywodraeth o hyd.