Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Ie. Rwyf i newydd sylweddoli nad wyf i'n gwisgo un, felly ymddiheuraf am hynny yn gyntaf oll. I hyrwyddo Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig a Diwrnod y Rhuban Gwyn, rydym ni'n cynnal gweminar fyw ar Facebook, Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru; yn ariannu pedwar o weithgareddau cyfathrebu cymunedol; ac yn annog mwy o'n staff gwrywaidd i ddod yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn.