Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Nid wyf yn credu mai yn y syniad y mae'r broblem o reidrwydd, ond yn y gweithredu. Ac rydym ni'n gwybod bod diffygion cynllunio mewn credyd cynhwysol—tynnwyd sylw at hynny mewn adroddiad Cyngor ar Bopeth diweddar ar effaith credyd cynhwysol ar bobl sengl, anabl. Felly, er enghraifft, nid yw'n bosibl cael lwfans gwaith heblaw drwy'r lwfans gallu gweithio. Mae hyn yn golygu bod rhaid asesu rhywun fel heb fod yn ddigon iach i weithio er mwyn cael cymorth sydd wedi ei dargedu yn y gwaith. Wel, dyna un enghraifft o ble mae'r system yn torri i lawr. Mae'n bwysig dros ben nad yw pobl yn dioddef oherwydd nad yw system yn gweithio fel y dylai.