Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o Aelodau yn y fan yma y dylai mwy fod wedi ei wneud i ddysgu o'r broses gyflwyno ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Rwy'n croesawu penderfyniad Amber Rudd y bydd hynny'n cael ei gyflymu nawr, yn enwedig trwy wrando ar gyngor arbenigol a phrofiad y rhai sydd wedi symud i'r system newydd erbyn hyn. Ond mae'r system newydd yn un sydd wedi cael croeso eang o ran ei gwneud yn haws a rhoi terfyn ar y dibyn rhwng budd-daliadau a gweithio, a dyna'r weledigaeth yr wyf i'n credu y dylem ni i gyd ei rhannu—i fod â system budd-daliadau sydd wir yn galluogi pobl i wireddu eu potensial llawn.